Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 34827598# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, C.A. Davies, K. Davies, S. Davies, R. Evans, C.J. Harris, H.I. Jones, T.J. Jones, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone ac A. Vaughan-Owen. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

7.1 – Rhybudd o Gynnig

Mae ef a'i gymdeithion personol agos yn aelodau ac yn dal cyfranddaliadau yn Carmarthenshire Energy Ltd.  Wedi cael caniatâd i siarad ond nid pleidleisio ar faterion amgylcheddol cyffredinol ond nid materion sy'n ymwneud yn benodol â Carmarthenshire Energy Limited.

K. Broom

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

C. Campbell

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

J.M. Charles

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

A. Davies

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

W.T Evans

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

K. Howell

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

A. James

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

J. Lewis

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

A.G. Morgan

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Buddiant ariannol gan ei fod yn denant yn y Llynnoedd Delta a'i fod yn rhedeg busnes yno. Bydd yn ymatal rhag pleidleisio.

G.B. Thomas

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

J.E. Williams

7.2 – Rhybudd o Gynnig

Wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fusnes Cyngor sy'n ymwneud â ffermio a materion ffermio yn gyffredinol.

K. Madge

9.1 – Adroddiad Blynyddol CSC 2019/20

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

A.G. Morgan

14 – Pentre Awel

Mae'n denant yn y Llynnoedd Delta ac yn rhedeg busnes yno.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd gydymdeimlad ar ran yr aelodau i'r Cynghorydd Fozia Akhtar ar farwolaeth drist ei mab fis diwethaf ac i'r Cynghorydd Rob Evans ar farwolaeth ei dad yn gynharach yn y dydd. 

 

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·       Estynnwyd y dymuniadau gorau am wellhad buan i'r Cynghorydd Louvain Roberts yn dilyn ei llawdriniaeth ddiweddar ac i'r Cynghorydd Jim Jones a oedd hefyd yn gwella ar ôl llawdriniaeth ddiweddar;

 

·       Llongyfarchwyd i Lyndsay Jayne McNicholl, Rheolwr Cartref Gofal Llys y Bryn yn Llanelli y dyfarnwyd BEM iddi yn ddiweddar yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod Covid-19.

 

·       Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i'r bobl ganlynol o Sir Gaerfyrddin a dderbyniodd wobrau hefyd yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines:-

 

MBE:

 

Yr Hybarch Rachel Hannah Eileen Davies, Sylfaenydd Tir Diew am wasanaethau i Ffermio yng Ngorllewin Cymru

 

Paul David Harries am wasanaethau i Beirianneg a Chyflogaeth yng Ngorllewin Cymru

 

George Parker am wasanaethau i'r busnes a'r gymuned yn Llanelli

 

Medal yr Ymerodraeth Brydeinig:

 

Paul Christopher Alan Buckingham am wasanaethau i'r GIG yng Nghymru yn ystod Covid-19

 

Jack William Gibbins, Arweinydd Tactegol gydag Ambiwlans Sant Ioan (Cymru) am wasanaethau i'r gymuned yn ystod Covid-19

 

Nigel Williams am wasanaethau i Lywodraeth Leol yn Abertawe yn ystod Covid-19

 

Phoebe Leigh McLavy, Aelod Tîm gyda WorldSkills UK am wasanaethau i Gystadleuaeth WorldSkills

 

·       Diolchodd y Cynghorydd Gary Jones i'r bobl ganlynol am eu cymorth o ran y ddamwain trên yn Llangennech:

­   Nicky Lloyd, Is-gadeirydd Canolfan Gymunedol Llangennech;

­   Rheolwr Nos McDonalds am roi te a choffi yn hael;

­   Jaqueline Seward, Cynghorydd Cymuned;

­   Alun James, Gofalwr;

­   Alun Bowen, Gofalwr;

­   Rob Willock, Cynghorydd Cymuned a'r

­   Cynghorydd Gwyneth Thomas.

 

·       Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Covid-19 yn y Sir.  Ynghyd â'r diweddariad cafwyd fideo byr "Voices from the Front Line" a oedd yn rhoi cipolwg ar brofiadau ein staff cartrefi gofal yn ystod y pandemig.   

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9 MEDI 2020 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Medi 2020 gan eu bod yn gywir.

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ddiweddar, fe nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod bron I 700,000 o bobl wedi canfod eu hunain mas o waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19. Erbyn mis Gorffennaf fe wnaeth diweithdra godi'n uwch na 4%. Gyda'r cynllun furlough yn dod i ben ar ddiwedd y mis yma (Hydref 31) mae'n anochel y bydd diweithdra yn cynyddu eto. Ni allwn guddio rhag y gaeaf llwm sydd o'n blaenau. Felly, gyda hyn mewn golwg, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles ar gael i'w drigolion, a bod y gefnogaeth yna ar gael yn rhwydd?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiweddar fod bron i 700,000 o bobl mewn sefyllfa lle roeddent yn ddi-waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19.    Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd diweithdra wedi cynyddu i fwy na 4%. Gan fod y cynllun ffyrlo yn dod i ben ar ddiwedd y mis hwn (31 Hydref), mae'n anochel y bydd diweithdra'n cynyddu eto. Rhaid derbyn ein bod yn wynebu gaeaf anodd.     Felly, o gofio hyn, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles yn bod i'w drigolion a bod y cymorth hwn ar gael yn hwylus?”     

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

A allaf i ddiolch yn gyntaf i'r Cynghorydd Lenny am ei gwestiwn; cwestiwn rwy'n ei groesawu ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae'n gwbl berthnasol i'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud, o ran ein rhaglen adfer ar gyfer Covid-19.  Mae'r rhaglen adfer honno yn ymateb i realiti difrifol yr effaith mae Covid-19 wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein heconomi a'n cymunedau, ynghyd â'r problemau bydd ein pobl yn Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu o ganlyniad. Rydym yn paratoi cynllun Trechu Tlodi ar hyn o bryd. Bydd llawer o'r cynllun hwnnw'n ymwneud â chymorth lles wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddadansoddiad o anghenion fe fydd yn gynllun gweithredu – beth allwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa a wynebir gan bobl, ynghyd â pha gamau mae angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud cynnydd a chyfrannu at ddatrys y problemau gwirioneddol fydd gan gynifer o bobl.

 

Fe wyddoch mai un o fy mhenderfyniadau cyntaf fel Arweinydd oedd gwrthdroi penderfyniad fy rhagflaenydd i ddychwelyd y ddesg flaen dros dro yng nghanol tref Llanelli i D? Elwyn. Penderfynais y dylai aros yng nghanol y dref, a sefydlwyd yr Hwb yn Stryd Vaughan, gan roi cyngor a chymorth i bobl ar amryw o'n gwasanaethau Cyngor, gan gynnwys desg arian parod, cymorth tai, rhaglenni ymgysylltu â chyflogaeth, a chyfleusterau TG i helpu pobl sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg, prentisiaethau a gwirfoddoli. Daw cannoedd o bobl drwy'r drysau bob wythnos gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref. Ers hynny mae cyfleuster Hwb tebyg wedi'i sefydlu yng nghanol tref Rhydaman ac yn ein swyddfeydd yn Heol Spilman yng Nghaerfyrddin.

 

Mae nifer o gynlluniau cymorth cyflogadwyedd yn cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae rhai ohonynt yn cael eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gydag eraill yn cael eu cydgysylltu gan Gyrfa Cymru o dan borth Cymru'n Gweithio.  Dau o'r cynlluniau rydym yn eu darparu yw Gweithffyrdd + a Chymunedau am Waith.

 

Nod Gweithffyrdd + yw gwella cyflogadwyedd Pobl Economaidd Anweithgar a Phobl Ddi-waith yn y Tymor Hir/Tymor Byr sy'n 25 oed a h?n ac sy'n wynebu rhwystrau cymhleth o ran cyflogaeth.  Mae Tîm Gweithffyrdd + yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan ac wedi'i leoli yn y Canolfannau Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.  Bydd pob cyfranogwr yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

Cais i Lywodraeth Cymru am adolygiad o'r polisi Datblygiad Un Blaned Cafodd y polisi Datblygiad Un Blaned ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru'n Un yn 2010 ac mae'n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 –Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Mae gan y polisi amcan clodwiw sef y dylai Cymru, o fewn un genhedlaeth, ond ddefnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mewn egwyddor, mae'n cydymffurfio â'r hyn a gytunwyd gennym yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

 

Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Datblygiad Un Blaned yn peri problemau

am dri rheswm penodol:

 

1.     Mae canfyddiad cyffredin bod y polisi'n cael ei ddefnyddio I ddiystyru'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hyn wedi arwain at gryn ddrwgdeimlad gan drigolion gwledig sy'n ei chael yn anodd – os nad yn amhosibl – i adeiladu cartref newydd ar gyfer y genhedlaeth iau ar eu tir.

 

2.     Mae TAN 6 yn nodi y gellid ond caniatáu annedd yng nghefn gwlad os yw'n cefnogi menter wledig sydd eisoes wedi'i sefydlu am o leiaf dair blynedd ac sydd wedi profi ei bod yn gynaliadwy. Nid yw cais am Ddatblygiad Un Blaned yn seiliedig ar dystiolaeth flaenorol, ond ar gynllun rheoli sy'n ceisio rhagweld llwyddiant y datblygiad dros gyfnod o 5 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio.

 

3.     Rhaid cyflwyno adroddiad monitro blynyddol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun rheoli. Gallai methu â bodloni telerau'r cynllun arwain at achosion gorfodi. Fodd bynnag, mae monitro cydymffurfiaeth yn peri problemau, oherwydd diffyg arbenigedd mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol.

 

Cred Cyngor Sir Caerfyrddin fod y polisi Datblygiad Un Blaned, er ei fwriad clodwiw pan gafodd ei roi ar waith 10 mlynedd yn ôl, yn peri problemau ymarferol. Wrth ystyried y pryder cynyddol am y ffordd y mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu, effaith gronnol datblygiadau o'r fath, a'r problemau o ran monitro, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r polisi ac ystyried gosod moratoriwm ar geisiadau Datblygiad Un Blaned wrth i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rydym hefyd yn awgrymu y dylai adolygiad o'r fath ystyried a ellid cynnwys rhai elfennau o'r Datblygiad Un Blaned, sy'n ymwneud ag arferion cynaliadwy, mewn polisïau cynllunio prif ffrwd mewn ffordd fwy radical, er mwyn cael effaith ehangach ar leihau allyriadau carbon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:

 

“Cais i Lywodraeth Cymru am adolygiad o'r polisi Datblygiad Un Blaned

 

Cafodd y polisi Datblygiad Un Blaned ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru'n Un yn 2010 ac mae'n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Mae gan y polisi amcan clodwiw sef y dylai Cymru, o fewn un genhedlaeth, ond ddefnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mewn egwyddor, mae'n cydymffurfio â'r hyn a gytunwyd gennym yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. 

 

Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Datblygiad Un Blaned yn peri problemau am dri rheswm penodol:-

 

1.      Mae canfyddiad cyffredin bod y polisi'n cael ei ddefnyddio i ddiystyru'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hyn wedi arwain at gryn ddrwgdeimlad gan drigolion gwledig sy'n ei chael yn anodd os nad yn amhosibl i adeiladu cartref newydd ar gyfer y genhedlaeth iau ar eu tir.

 

2.      Mae TAN 6 yn nodi y gellid ond caniatáu annedd yng nghefn gwlad os yw'n cefnogi menter wledig sydd eisoes wedi'i sefydlu am o leiaf dair blynedd ac sydd wedi profi ei bod yn gynaliadwy. Nid yw cais am Ddatblygiad Un Blaned yn seiliedig ar dystiolaeth flaenorol, ond ar gynllun rheoli sy'n ceisio rhagweld llwyddiant y datblygiad dros gyfnod o 5 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio.

 

3.      Rhaid cyflwyno adroddiad monitro blynyddol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun rheoli. Gallai methu â bodloni telerau'r cynllun arwain at achosion gorfodi. Fodd bynnag, mae monitro cydymffurfiaeth yn peri problemau, oherwydd diffyg arbenigedd mewn Awdurdodau Cynllunio Lleol.

 

Cred Cyngor Sir Caerfyrddin fod y polisi Datblygiad Un Blaned, er ei fwriad clodwiw pan gafodd ei roi ar waith 10 mlynedd yn ôl, yn peri problemau ymarferol.  Wrth ystyried y pryder cynyddol am y ffordd y mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu, effaith gronnol datblygiadau o'r fath, a'r problemau o ran monitro, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r polisi ac ystyried gosod moratoriwm ar geisiadau Datblygiad Un Blaned wrth i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rydym hefyd yn awgrymu y dylai adolygiad o'r fath ystyried a ellid cynnwys rhai elfennau o'r Datblygiad Un Blaned, sy'n ymwneud ag arferion cynaliadwy, mewn polisïau cynllunio prif ffrwd mewn ffordd fwy radical, er mwyn cael effaith ehangach ar leihau allyriadau carbon.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais,

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei fabwysiadu.

7.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES pdf eicon PDF 246 KB

Bod y Cyngor hwn yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach, y diwydiant ffermio a mentrau gwledig wedi'i wneud ers dechrau argyfwng Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin. Heb eu hymrwymiad llwyr i ddosbarthu i'n cymunedau a'u gallu I addasu eu harferion gwaith i ddarparu ar gyfer anghenion sy'n newid yn barhaus, byddai llawer o drigolion Sir Gaerfyrddin wedi ei chael yn anodd goroesi.

 

Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ategu gallu a phenderfyniad yr Awdurdod Lleol hwn i ymdopi cystal ag y mae wedi'i wneud yn ystod Covid-19.

 

Felly, rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ymrwymo I gynorthwyo a chefnogi'r busnesau hyn mewn cynifer o ffyrdd â phosibl yn ystod y cyfnod anwadal hwn, gan gofio hefyd am yr effaith negyddol na ellir ei rhagweld y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael arnynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

·       Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan wedi datgan buddiant ariannol yn y cynnig hwn.

·       Yn dilyn cyngor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith, roedd y Cynghorwyr K. Broom, C. Campbell, J.M Charles, A. Davies, W.T. Evans, K. Howell, A. James, J. Lewis, G. B. Thomas, J.E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon a nodir yng Nghofnod 2.]

 

Yn dilyn trafodaeth ar y Cynnig a'r Gwelliant, dywedodd y Cynghorydd James wrth y Cyngor ei fod yn tynnu ei Rybudd o Gynnig yn ôl.

8.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANFSODDIAD pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er mwyn cydymffurfio â Deddfau Llywodraeth Leol 1972 a 2000, a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i'r Cyngor adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol ac felly sefydlodd y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad i gyflwyno argymhellion ar gyfer newid cyfansoddiadol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwelliannau fel yr argymhellwyd gan y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad sy'n diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor.  Bu'r Cyngor yn ystyried y gwelliannau fel y dangosir yn yr adroddiad ac amlygwyd y canlynol yn ei atodiadau:-

 

­   Pwyllgorau Craffu Erthygl 6

­   Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, Rhan 4.1

­   Rheolau'r Weithdrefn Graffu, Rhan 4.5

­  Protocol ar gyfer Cyfathrebu ag Aelodau Etholedig, Rhan 5.6

 

penderfynwyd:

 

8.1 Cymeradwyo a mabwysiadu argymhellion canlynol Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn dilyn ei adolygiad blynyddol o'r Cyfansoddiad:-

 

a)      Diwygio Erthygl 6 o'r Cyfansoddiad i ddiweddaru a 'thacluso' Meysydd Gorchwyl Craffu (yn unol ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwneud Gwaith Craffu yn 'Addas at y Dyfodol')

 

b)      Tynnu'n ôl y dirprwyaethau a roddwyd i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith yn y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion (nad ydynt erioed wedi'u harfer ganddynt) gyda golwg ar roi'r swyddogaeth i'r Bwrdd Gweithredol (Rhan 3 Tabl 4 Cyfrifoldeb am Swyddogaethau a Rhan 3. 2 Cynllun Dirprwyo i Swyddogion)

 

c)      Diweddaru Rheolau Gweithdrefn y Cyngor (Rhan 4.1) i nodi trefn agenda ddiwygiedig ar gyfer cyfarfodydd cyffredin y Cyngor ac i adlewyrchu presenoldeb o bell.

 

d)      Diweddaru Rheolau'r Weithdrefn Graffu (Rhan 4.5) i adlewyrchu cyngor y Ganolfan Craffu Cyhoeddus y dylai Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fynychu eu Pwyllgor Craffu priodol i gyflwyno eu hadroddiadau a chael eu dwyn i gyfrif.

 

e)      Diweddaru Rhan 5.6 - Protocol ar gyfer cyfathrebu ag aelodau etholedig i adlewyrchu penderfyniad y Cyngor i gynnal cyfarfodydd di-bapur.

 

8.2 Bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen.

 

8.3 Bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn cael ei fabwysiadu, yn amodol ar argymhellion 8.3 a nodir uchod.

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (gweler cofnod 4), wedi ystyried adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2019/2020 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dywedwyd bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar 6 wythnos olaf blwyddyn 2019/20 ac er bod yr adroddiad yn amlinellu amserlen y pandemig roedd yr Adroddiad Blynyddol yn canolbwyntio ar y rhan fwyaf o'r busnes arferol yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

"bod adroddiad blynyddol y cyngor ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo."

9.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2019-2020 pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020 (gweler Cofnod 10), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol 2019-2020 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth, a luniwyd er mwyn cydymffurfio â Chôd Ymarfer CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys yn y Sector Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

“bod Adroddiad Blynyddol 2019/20 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gymeradwyo.”

9.3

CYTUNDEB CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benderfyniad Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddiwygio Cymal 5 o Atodlen 2020 o Gytundeb y Cyd-bwyllgor mewn perthynas â threfniadau Cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu a oedd yn ymwneud â dileu Cymal 6 a'i ddisodli gyda'r canlynol:

 

“Ni fydd y Cworwm ar gyfer cyfarfodydd yn llai na 6 aelod, a rhaid iddo gynnwys o leiaf 1 aelod o bob un o'r 4 Awdurdod. Ni chaniateir i'r Cyd-bwyllgor Craffu fynd ati i graffu ar fater sy'n ymwneud â phrosiect os nad yw'r aelod sy'n cynrychioli'r Cyngor sy'n ymwneud â'r prosiect hwnnw yn bresennol yn y cyfarfod”

 

Dywedwyd cyn y gall unrhyw welliant i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ddod i rym, byddai angen iddo gael ei ystyried yn y lle cyntaf gan y Cyd-bwyllgor ac yna ei osod gerbron pob un o'r 4 awdurdod lleol i'w ystyried a'i fabwysiadu. Yn unol â'r cytundeb hwnnw, roedd y Cyd-bwyllgor wedi ystyried y gwelliant ar 9 Gorffennaf 2020 ac roedd bellach yn cael ei gyflwyno i bob un o'r 4 awdurdod i'w cadarnhau

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 “9.1 “gymeradwyo penderfyniad Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'r gwelliant o ran trefniadau cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu, fel y nodir yn yr adroddiad;

9.2   awdurdodi'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith i wneud gweithred o amrywiad er mwyn gweithredu'r newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor.”

 

9.4

FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 pdf eicon PDF 439 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (gweler cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ar y Cytundeb Cyflawni diwygiedig a'r Diweddariad Covid-19 mewn perthynas â mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.

 

Roedd y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos (a gafodd ei ymestyn i 8 wythnos) ar y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuol 2018-2033 ynghyd â'i ddogfennau ategol (Asesu Rheoliadau Cynefinoedd ac Arfarniad Cynaliadwyedd) a dau Ganllaw Cynllunio Atodol drafft. Yn ogystal, roedd ymgynghoriad 3 wythnos wedi'i gynnal mewn ymateb i effaith y cyfyngiadau symud.

 

Roedd yr adroddiad cyfredol yn cynnwys effaith Covid 19 ar yr ymgynghoriad hwnnw a’r  gwaith oedd yn mynd rhagddo o ran paratoi'r CDLl diwygiedig. Roedd hefyd yn ystyried goblygiadau'r achosion o coronafeirws ar yr amserlen ar gyfer mabwysiadu'r CDLl a'r cynnig i ddiwygio'r Cytundeb Cyflawni (a'i amserlen a’r Cynllun Cynnwys y Gymuned) cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gytuno.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“10.1

Cymeradwyo cynnydd parhaus Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 – 2033 (a dogfennau ategol) a'r dull a amlinellir yn yr adroddiad;

 

 

 

10.2

Cymeradwyo Diwygio'r Cytundeb Cyflawni i gynnwys estyniad o 7 mis i'r amserlen a diwygiadau dilynol eraill gan gynnwys y rhai sy'n deillio o Covid-19;

 

 

10.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y  Fersiwn Ddrafft o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo."

 

10.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

7FED MEDI 2020 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.2

21AIN MEDI 2020 pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.3

5ED HYDREF 2020 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

11.1

MAE'R GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DAI THOMAS I LENWI'R LLE GWAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Plaid Cymru a:

 

PHENDERFYNWYD:-

 

11.1    bod y Cynghorydd Dai Thomas yn cael ei benodi i lenwi sedd wag Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio.

 

12.

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14.

PENTRE AWEL

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am bartneriaid academaidd posibl nad ydynt hyd yma wedi llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda'r Awdurdod. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn yr achos hwn hyd nes i'r memoranda cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi yn drech na hynny.

 

[NODER:  Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020 (gweler cofnod 13) wedi ystyried adroddiad a oedd yn rhoi datganiad diweddaru ynghylch Pentre Awel mewn perthynas â chyflwyno achos Busnes y Fargen Ddinesig, cytundebau gyda phartneriaid academaidd a datblygiad dylunio cam 1. </AI28><TRAILER_SECTION>

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

Bod y Cyngor:

 

14.1  Cymeradwyo'r achos busnes terfynol (fel yr atodir yn atodiad 14.1) i'w gyflwyno'n ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'w gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  

14.2  Cytuno a rhoi cymeradwyaeth i lofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth â phartneriaid academaidd. Nodi bod y trafodaethau hyn yn cyd-fynd â'r cynllunio cyffredinol ar gyfer addysg, sgiliau a hyfforddiant.

14.3 Cymeradwyo cwblhad gwaith datblygu dyluniadau manwl ac allbynnau RIBA Cam 14.3.”

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau