Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole, P. Edwards, A. Fox, C.J. Harris, H.B. Shepardson, B. Thomas a J. Tremlett.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Yn meddu ar gyfranddaliadau yn Carmarthenshire Energy Ltd.;

C.A. Davies

8.2 - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gareth John

Mae llwybr beicio Dyffryn Tywi, a fydd yn elwa o'r Gronfa Codi'r Gwastad, yn mynd drwy fferm y Cynghorydd Davies;

C.A. Davies

 

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ffermwr;

T.A.J. Davies

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr a Ffermwr;

K. Madge

7.1 – Cofnod 8 o Gofnodion y Cabinet 11 Hydref 2021 

Ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol;

J.A. Davies

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

K. Broom

7.2 – Cofnod 7 o Gofnodion y Cabinet 25 Hydref 2021 

Mae'r llwybr troed yn mynd drwy dir y Cynghorydd Broom;

K. Broom

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

M.J.A. Lewis

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ffermwr;

J.K. Howell

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

G.B. Thomas

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ffermwr;

A. James

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ffermwr;

J.M. Charles

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

S.M. Allen

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

W.T. Evans

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

D.E. Williams

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Perchennog fferm;

C.A. Campbell

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Tirfeddiannwr;

S.L. Davies

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ei mam yn dirfeddiannwr;

J.E. Williams

8.3 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny

Ffermwr.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf, ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion, i'r Cynghorydd Jane Tremlett a'i theulu ynghylch eu colledion diweddar;

 

·       Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jim Jones yn ôl yn dilyn ei salwch diweddar;

 

·       Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Edward Thomas am ei wahoddiad i de prynhawn yn Llandeilo ar 23 Hydref 2021;

 

·       Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor ei fod ef a'i wraig Joyce, ar 30 Hydref 2021, wedi mwynhau perfformiad o 'Joseph and his Amazing Technicolour Dreamcoat' gan Theatr Ieuenctid Porth Tywyn. Diolchodd i'r Theatr Ieuenctid am y gwahoddiad;

 

·       Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Ann Davies a'i thîm ar eu llwyddiant yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol Mudiad Meithrin yn ddiweddar;

 

·       Dywedodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, ei fod wedi cynrychioli'r Cadeirydd yn ddiweddar yn lansiad Apêl Flynyddol y Pabi yn nhref Caerfyrddin a noson elusennol gyda Maer Llanelli;

 

·       Cyhoeddodd y Cynghorydd Ann Davies fod y Cyngor unwaith eto wedi derbyn achrediad gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud ac yn bwriadu ei wneud. Byddai'r Cyngor, fel rhan o'i ymrwymiad, yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021 fel yr oedd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac anogodd y Cynghorydd Davies yr holl aelodau i ymrwymo i addewid Ymgyrch y Rhuban Gwyn;

 

·       Diolchodd y Cynghorydd Jeanette Gilasbey i bawb, gan gynnwys y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gwasanaethau brys, a oedd wedi helpu'r trigolion yn dilyn y llifogydd diweddar yng Nghydweli;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Hazel Evans Nicola Olsson, Swyddog Cynorthwyol Diogelwch Ffyrdd, ar y wobr a dderbyniodd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud i ddatblygu arwydd ffordd i ddiogelu ceffylau. Ers hynny, roedd yr arwydd wedi'i gymeradwyo gan Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru;

 

·       Llongyfarchodd a diolchodd y Cynghorydd Hazel Evans i bawb a fu'n rhan o'r cais llwyddiannus i'r Gronfa Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU am £16.7 miliwn ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, gan gynnwys Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Diolchodd y Cynghorydd Evans hefyd i'r holl swyddogion a oedd yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno'r cais a thalodd deyrnged i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Cabinet am eu gweledigaeth i gefnogi'r prosiect;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Rob James gr?p o Gynghorwyr Sir yn Llanelli, dan arweiniad y Cynghorydd Rob Evans, a oedd wedi camu i'r adwy i werthu pabïau ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol pan nad oedd cyn-filwyr yn gallu gwneud hynny;

 

·       Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Ddydd Llun cofnododd Sir Gaerfyrddin 483.1 achos i bob 100,000, o'i gymharu â 537.2 i bob 100,000 yn y 7 diwrnod blaenorol – gostyngiad o 54.1 achos i bob 100,000. Y ffigur ar 11 Hydref 2021 oedd 579.5 i bob 100,000 ac, yn ystod y 4 wythnos diwethaf felly, bu gostyngiad o tua 100 achos i bob 100,000. Er bod pethau'n symud i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

COFNODION - 13EG HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021 gan eu bod yn gywir.

 

5.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd S. Najmi o'r Gr?p Annibynnol Newydd a dod yn aelod heb gysylltiad pleidiol. Nodwyd, o ganlyniad i'r ymddiswyddiad, y byddai cynrychiolaeth y Gr?p Annibynnol Newydd ar bwyllgorau ddau yn llai ac y byddai cynrychiolaeth aelodau heb gysylltiad pleidiol ddau yn fwy. Nid oedd dyraniad y seddi a ddelir gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Llafur wedi newid.

 

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol, fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad, roedd y Gr?p Annibynnol Newydd wedi cytuno i roi'r gorau i'w ddwy sedd ar y Pwyllgor Cynllunio a fyddai'n cael eu hailddyrannu i'r aelodau heb gysylltiad pleidiol.

 

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

 

5.1    fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Annibynnol Newydd a'r Aelodau heb Gysylltiad Pleidiol, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad;

5.2   yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil penderfyniad 5.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

5.3     nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol ar y Cyngor;

5.4.    yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw'r trefniadau presennol ar gyfer dyrannu'r pum sedd ar bwyllgorau craffu yn newid.

 

6.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021 (cofnod 12), wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2019/21 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005. Er barnu bod cynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu llawer o bolisïau ac amcanion y Cynllun a fabwysiadwyd, roedd elfennau a rhannau ohono nad oeddent yn cael eu cyflawni yn ôl y bwriad. Roedd pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi ychwanegu at y broblem. Yn hyn o beth, roedd yn anochel bod rhai o ganfyddiadau'r adroddiad yn adleisio'r heriau a brofwyd gan rai sectorau a chymdeithas.

 

Nodwyd, yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Byddai ymgynghoriad anffurfiol yn cyd-fynd â hyn er mwyn rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd yr ymgynghoriad yn gyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol. Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol presennol, ynghyd â chynnwys y tair dogfen flaenorol, yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol  Diwygiedig 2018 – 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb.”

 

7.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

11EG HYDREF 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021.

 

7.2

25AIN HYDREF 2021 pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021.

 

8.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN

"Dymuna'r Cyngor gofnodi ei werthfawrogiad o'r weledigaeth a ddangoswyd gan ein Cabinet a diolch yn ddiffuant am y gwaith aruthrol a wnaed gan ein swyddogion proffesiynol sy'n gweithredu o fewn amserlen mor dynn mewn amgylchiadau anodd, gan weithio'n hanfodol gyda phartneriaid eraill, i sicrhau cyllid yn llwyddiannus gan Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oedd yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.]

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gareth John:-

 

“Dymuna'r Cyngor gofnodi ei werthfawrogiad o'r weledigaeth a ddangoswyd gan ein Cabinet a diolch yn ddiffuant am y gwaith aruthrol a wnaed gan ein swyddogion proffesiynol sy'n gweithredu o fewn amserlen mor gaeth mewn amgylchiadau anodd, gan weithio'n hanfodol gyda phartneriaid eraill, i lwyddo i sicrhau cyllid gan Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin”.   

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

8.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY

“COEDWIGO CYFRIFOL – DULL CYNALIADWY NAD YW'N ECSBLOETIOL  

 

Mae'r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch prynu ffermydd teuluol yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach gan gwmnïau rhyngwladol i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.     

  

Er ei fod yn derbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor yn gresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i'r cwmnïau sy'n gollwng llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy. 

  

At hynny, mae'r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi cymhorthdal i raglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru. 

  

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol ond mae'n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac ni ddylai gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol. 

  

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

  • Sicrhau mai dim ond ffermwyr presennol yng Nghymru all hawlio cyllid drwy gynllun Glastir - Creu Coetir 
  • Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Sir Gaerfyrddin i reoli prosiectau coedwigo, a phennu terfyn ar gyfran y tir ar unrhyw fferm y gellir ei defnyddio ar gyfer coedwigo heb fod angen caniatâd cynllunio  
  • Cyflawni ei chynlluniau coedwigo drwy ddatblygu cwmni hyd braich sy'n eiddo cyhoeddus i reoli coedwigaeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau carbon 

Mae'r Cyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol  nad ateb syml yw plannu coed i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae'n cytuno mai dim ond cwtogiad sydyn ar losgi tanwydd ffosil all atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymheredd byd-eang”.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr S.M Allen, C. Campbell, A. James, K. Lloyd, A.D.T. Speake a D.E. Williams wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.  Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom, T.A.J. Davies, J.M. Charles, C.A. Davies, J.A. Davies, W.T. Evans, G.B. Thomas a J.E. Williams hefyd wedi datgan buddiant ond gwnaethant aros yn y cyfarfod].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:-

 

“COEDWIGO CYFRIFOL – DULL CYNALIADWY NAD YW'N ECSBLOETIOL  

 

Mae'r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch prynu ffermydd teuluol yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach gan gwmnïau rhyngwladol i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.   

  

Er ei fod yn derbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor yn gresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i'r cwmnïau sy'n gollwng llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy.

  

At hynny, mae'r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi cymhorthdal i raglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru. 

  

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol ond mae'n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac ni ddylai gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol. 

  

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

  • Sicrhau mai dim ond ffermwyr presennol yng Nghymru all hawlio cyllid drwy gynllun Glastir - Creu Coetir 
  • Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Sir Gaerfyrddin i reoli prosiectau coedwigo, a phennu terfyn ar gyfran y tir ar unrhyw fferm y gellir ei defnyddio ar gyfer coedwigo heb fod angen caniatâd cynllunio 
  • Cyflawni ei chynlluniau coedwigo drwy ddatblygu cwmni hyd braich sy'n eiddo cyhoeddus i reoli coedwigaeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau carbon 

Mae'r Cyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol nad ateb syml yw plannu coed i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae'n cytuno mai dim ond cwtogiad sydyn ar losgi tanwydd ffosil all atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymheredd byd-eang”.  

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNWYD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

9.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

10.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr aelodau.

 

11.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

11.1

MAE'R GRWP ANNIBYNNOL NEWYDD WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD SHAREN DAVIES I LENWI'R SEDD A OEDD YN PERTHYN YN GYNT I'R CYNGHORYDD SHAHANA NAJMI AR Y PWYLLGOR CRAFFU - ADDYSG A PHLANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.8

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES pdf eicon PDF 255 KB

Bod y Cyngor:

 

-        Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio [ymateb] i geisiadau ar eiddo preifat ynghylch Clymog Japan a phlanhigion estron goresgynnol eraill na chymryd camau gweithredu ffurfiol yn eu cylch".

-        Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i Gynghorau gyhoeddi 'Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol.

-        Yn cydnabod bod Cynghorau rhagweithiol, fel Bryste, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gefnogi preswylwyr, sydd wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau gan fethiant tirfeddianwyr i reoli clymog.

-        Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi eu penderfyniad a dechrau defnyddio Grwpiau Trawsbleidiol i gefnogi'r mater o glymog ar dir preifat gan achosi effaith andwyol ar breswylwyr mewn llawer o gymunedau sir Gaerfyrddin”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Bod y Cyngor:

 

-        Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio ag [ymateb] i geisiadau ynghylch clymog Japan a phlanhigion anfrodorol ymledol eraill ar eiddo preifat na chymryd unrhyw gamau ffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn".

-        Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i gynghorau roi 'Hysbysiadau Gwarchod Cymuned' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol.

-        Yn cydnabod bod cynghorau rhagweithiol, fel Bryste, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gynorthwyo trigolion y mae methiant tirfeddianwyr i reoli clymog wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau.

-        Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi ei phenderfyniad a dechrau defnyddio Hysbysiadau Gwarchod Cymuned i fynd i'r afael â mater clymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar drigolion mewn llawer o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin”.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd D. Thomas a chafodd ei eilio:

 

“Bod y Cyngor:

• Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio ag [ymateb] i geisiadau ynghylch clymog Japan a phlanhigion anfrodorol ymledol eraill ar eiddo preifat na chymryd unrhyw gamau ffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn, a oedd, ac sy'n dal i fod, yn unol â dull gweithredu cynghorau eraill Cymru.

• Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i gynghorau roi 'Hysbysiadau Gwarchod Cymuned' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol.

• Yn nodi bod Bryste, y tu allan i Gymru, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gynorthwyo trigolion y mae methiant tirfeddianwyr i reoli clymog wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau.

• Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi ei phenderfyniad a dechrau defnyddio Hysbysiadau Gwarchod Cymuned i fynd i'r afael â mater clymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar drigolion mewn llawer o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynghorau eraill i ystyried cymryd camau tebyg.”

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, pe bai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, mai dyma fyddai'r Cynnig terfynol a fyddai, pe bai'n cael ei gefnogi, yn cael ei gyfeirio at y Cabinet.

 

Yn dilyn y bleidlais

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig, fel y'i diwygiwyd, a'i gyfeirio at y Cabinet.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau