Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, C. Evans, R. Evans, A. Fox a D Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch y Cynghorydd Dorian Phillips sydd wedi cael gwobr MBE gan y Frenhines i gydnabod ei wasanaethau i chwaraeon ac i'r gymuned yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

·         Hefyd cafodd y canlynol eu llongyfarch ar ennill anrhydeddau'r frenhines:

 

-       Rhoddwyd gwobr OBE i Mr Nigel Vernon Short o Hendy-gwyn ar Daf am ei wasanaethau i'r economi yng Nghymru.

 

-       Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mr John Nicholas Anderson o Lanelli, sy'n Archwiliwr Gwirfoddol ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, am ei wasanaethau i drafnidiaeth yn ystod Covid-19.

 

  • Roedd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, gyda chaniatâd y Cadeirydd, yn dymuno rhoi gwybod am ddau beth sylweddol roedd y Cyngor wedi'u cyflawni:

 

-  Enillodd Wobr Aur Diogelwch Hamdden RoSPA am yr ail flwyddyn yn olynol am 'ragoriaeth ymhlith cwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau'n uniongyrchol i westeion ac i ymwelwyr yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr, 2020 a 31 Rhagfyr, 2020’. Mae'r gwobrau byd-eang, sef un o'r cynlluniau mwyaf nodedig a chydnabyddedig yn y byd, yn cael bron i 2000 o geisiadau bob blwyddyn ac mae'n cyrraedd dros 7 miliwn o weithwyr.  Mae hyn ar ôl cyflwyno polisïau ac arferion gwaith cynhwysfawr. Canlyniad hynny fyddai peidio â chael gwobr neu gael gwobr ar sail teilyngdod, efydd, arian neu aur. Enillwyd yr anrhydedd mwyaf.

 

-  Enillodd y 'Wobr Arian inSport am gynhwysiant anabledd' ar ôl cyflwyniad cynhwysfawr i banel cenedlaethol y bore yma. Mae hwn yn gynllun gwobrau cenedlaethol blaengar sy'n cydnabod dull cynhwysol y Cyngor o ran y modd y mae'r gwasanaeth yn cael ei lunio a'i ddarparu, a hynny yn y gymuned ac yn ei gyfleusterau, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth yn y Cyngor a thu hwnt.

 

Wrth roi gwybod ynghylch yr uchod, roedd y Cynghorydd Hughes-Griffiths am ddiolch yn ddiffuant i staff Chwaraeon a Hamdden Actif am eu gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cyrraedd y man hwn.  Ni ellir cyflawni'r naill ddyfarniad na'r llall heb gael sylfeini cadarn sy'n arwain at arferion diogel a llwyddiannus.

 

 

·         Roedd y Cynghorydd Hazel Evans, gyda chaniatâd y Cadeirydd, am longyfarch y canlynol:

 

-       Mr Gareth Davies o Gastellnewydd Emlyn ar gael ei ddewis i fynd i Dde Affrica gyda sgwad y Llewod ac wedyn sgorio cais a;

 

-       Gareth Thomas sy'n chwarae i'r Gweilch ar hyn o bryd am gael ei ail gap, a Josh Turnbull am gael 11 cap dros Gymru.  Dechreuodd y ddau unigolyn eu gyrfaoedd chwaraeon yng Nghlwb Castellnewydd Emlyn.

 

  • Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu a'i chynnydd hyd yn hyn ynghyd â chyfeirio at weithlu addysg y Cyngor, sef yr athrawon, y cynorthwywyr dosbarth, staff y gegin, y gyrwyr bysiau, y Penaethiaid, y Llywodraethwyr, y Penaethiaid Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwr Addysg a phawb a fu'n rhan o'r gwaith o sicrhau diogelwch, gofal ac addysg plant Sir Gaerfyrddin dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

·         Llongyfarchodd y Cadeirydd Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn ar ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.  Y wobr hon, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

DATGANIAD AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a oedd yn cynnwys aelodau o Brif Gynghorau Cymru wedi ystyried adroddiad ar 5Mawrth, 2021 ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y ffaith bod y Cyngor CLlLC wedi cytuno'n unfrydol "i feithrin diwylliant lle caiff pob cynghorydd ei annog a'i gefnogi i hawlio unrhyw lwfansau neu dreuliau angenrheidiol y mae ganddynt hawl iddynt, a gofynnwn ichi arwain y diwylliant hwn yn lleol a'i annog.”

 


Yn ogystal, roedd Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cytuno y dylai pob Cyngor ymrwymo i ddatganiad erbyn mis Gorffennaf 2021 ar ddod yn 'Gynghorau Amrywiol' yn 2022, i ddarparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth." Yn rhan o'r adroddiad hwn, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddatganiad 'amlinellol' i:

 

·      Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth;

·      Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb;

·      Ystyried amserau gwahanol o ran cynnal cyfarfodydd y cyngor a chytuno ynghylch cyfnodau o gymryd saib i gefnogi cynghorwyr ag ymrwymiadau eraill; a

·      Gosod cynllun gweithredu erbyn etholiadau lleol 2022

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig pe byddai'r Cyngor yn derbyn y Datganiad, byddai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu cyn etholiad llywodraeth leol 2022.

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed ynghylch y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd gyda'r hwyr er mwyn cynnig opsiwn arall a allai apelio at groestoriad ehangach o'r gymuned, dywedodd yr Arweinydd y canlynol; yn ogystal â'r cynllun gweithredu cyn etholiad llywodraeth leol 2022, fel mater o drefn, ar ddechrau Cyfnod Etholiadol, caiff arolwg ei ddosbarthu i bob Cynghorydd sy'n gofyn am eu dewisiadau unigol gan gynnwys amserau cyfarfodydd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1     bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymo i fod yn 'Gyngor Amrywiol' ac yn cymeradwyo datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i:-

 

·       Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth;

·       Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb;

·       Ystyried amserau gwahanol o ran cynnal cyfarfodydd y cyngor a chytuno ynghylch cyfnodau o gymryd saib i gefnogi cynghorwyr ag ymrwymiadau eraill; ac

·       Amlinellu cynllun gweithredu erbyn etholiadau lleol 2022.

 

5.2. bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu cyn etholiad llywodraeth leol 2022.

 

 

6.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

RHAGLEN SGILIAU A THALENTAU, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1.            RHAGLEN SGILIAU A THALENTAU, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2021 (gweler cofnod 8) wedi ystyried adroddiad yn manylu ar Achos Busnes arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Sgiliau a Thalent, o fewn y gyfres o 9 o brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fyddai'n rhoi ateb ar gyfer hyfforddiant sgiliau gan gynnig y gwerth gorau o ran seilwaith sgiliau cynaliadwy i ddatblygu gweithlu'r dyfodol ar gyfer y rhanbarth.

 

Adroddwyd y byddai datblygu rhaglen sgiliau gynhwysfawr a blaengar yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol Portffolio'r Fargen Ddinesig.


 

Byddai cyllid y Fargen Ddinesig yn ariannu tîm rhaglen i ddatblygu Baromedr Sgiliau ar gyfer y rhanbarth. Byddai'r Baromedr yn nodi'r bylchau o ran sgiliau sydd yn y rhanbarth ac yn nodi'r sgiliau newydd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion presennol prosiectau'r Fargen Ddinesig a'u hanghenion yn y dyfodol ar draws y pum thema allweddol, sef Adeiladu, Digidol, Ynni, Iechyd a Llesiant a Gweithgynhyrchu Clyfar.  Byddai'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws y pedwar cam fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Nododd y Cyngor mai nod cyffredinol y rhaglen fyddai cryfhau cydweithio a chynyddu buddsoddiad a fyddai'n rhoi hwb sylweddol i nifer yr unigolion medrus sydd wedi cael hyfforddiant drwy ymyrraeth y rhaglen, a'u safon.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

6.1.1 cymeradwyo'r Achos Busnes arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Sgiliau a Thalentau a'i gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig er mwyn cymeradwyo cyllid y Fargen Ddinesig;

 

6.1.2 rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, ar y cyd â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Arweinydd, wneud unrhyw fân newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen er mwyn cael cymeradwyaeth ar lefel llywodraeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

 

6.2

LLOFNODWR Y SIARTER CREU LLEOEDD pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021 (gweler cofnod 7) wedi ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Cyngor fod yn llofnodwr Siarter Creu Lleoedd Cymru.

 

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun a diben Creu Lleoedd, ei rôl a'i statws o ran polisi cynllunio cenedlaethol a lleol yn ogystal â chynnwys y Siarter Creu Lleoedd. Datblygwyd y Siarter gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid a oedd yn cynrychioli ystod eang o fuddiannau a sefydliadau sy'n gweithio o fewn yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

 

Roedd yn adlewyrchu ymrwymiad y sefydliadau hyn yn unigol ac ar y cyd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu lleoedd o ansawdd uchel ledled Cymru er budd ei chymunedau. Roedd yn cynnwys y chwe egwyddor creu lleoedd y byddai'r rhai a gofrestrodd yn cytuno i'w hyrwyddo fel rhan o'u cefnogaeth i greu lleoedd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

6.2.1 bod Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cael ei chymeradwyo a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodwr.

 

 

7.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

1 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2021.

 

 

7.2

21 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2021.

 

 

7.3

5 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2021.

 

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS - YR AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD.

“Ar 25 Mehefin, cawsom y cadarnhad i'w groesawu'n fawr fod Ffordd Osgoi Llandeilo yn dal i fod yn rhan o Gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu'r problemau sylweddol iawn o ran tagfeydd traffig a llygredd aer yn y dref.

 

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn Llandeilo yn falch o glywed y cyhoeddiad hwn a oedd yn cadarnhau yr ymrwymiad cyllidebol blaenorol i adeiladu'r ffordd osgoi.

 

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gytuno bod hwn yn newyddion i'w groesawu ac a wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd ymrwymo'r Cyngor Sir i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r ffordd osgoi a hefyd i gefnogi cyflwyno mesurau atodol yng nghanol y dref er mwyn gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â'r peryglon o ran troedffyrdd cul iawn i gerddwyr, adolygu cyfyngiadau parcio er mwyn cefnogi busnesau lleol a gwelliannau i'r strydoedd, ar ôl cwblhau'r ffordd osgoi.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ar 25 Mehefin, cawsom y cadarnhad, a oedd i'w groesawu'n fawr, fod Ffordd Osgoi Llandeilo yn dal i fod yn rhan o Gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu'r problemau sylweddol iawn o ran tagfeydd traffig a llygredd aer yn y dref. 

 

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn Llandeilo yn falch o glywed y cyhoeddiad hwn a oedd yn cadarnhau yr ymrwymiad cyllidebol blaenorol i adeiladu'r ffordd osgoi. 

 

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gytuno bod hwn yn newyddion i'w groesawu ac a wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd ymrwymo'r Cyngor Sir i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r ffordd osgoi a hefyd i gefnogi cyflwyno mesurau atodol yng nghanol y dref er mwyn gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â'r peryglon o ran troedffyrdd cul iawn i gerddwyr, adolygu cyfyngiadau parcio er mwyn cefnogi busnesau lleol a gwelliannau i'r strydoedd, ar ôl cwblhau'r ffordd osgoi.”

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

Diolch ichi am eich cwestiwn Gynghorydd Thomas.  Rwy'n credu bod y cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog nad yw ffordd osgoi Llandeilo yn rhan o adolygiad ffordd Llywodraeth Cymru yn newyddion gwych a chroesawir hyn yn fawr. Gwnaeth Llywodraeth Cymru gytundeb gyda Phlaid Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb yn 2016 i glustnodi £50m ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo.

Mae'r achos dros ystyried y ffordd osgoi fel yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer lliniaru'r llygredd, y tagfeydd a'r perygl i gerddwyr a achosir gan symudiadau strategol y traffig drwy'r dref yn glir iawn. Gwnaethom fel awdurdod ymateb i'r ymgynghoriad gan ddatgan rhesymau cryf iawn pam mai'r ffordd osgoi yw'r unig ddewis yn y tymor hir. Gwyddom mai'r ffordd sy'n mynd drwy ganol Llandeilo yw'r gefnffordd o Abertawe i Fanceinion lle y mae nifer aruthrol o gerbydau mawr iawn yn teithio ar ei hyd, sy'n ychwanegu at y perygl i gerddwyr.

Yn 2013, pan oedd gwaith yn cael ei wneud ar bibellau nwy yn Llandeilo cafodd traffig ei ddargyfeirio i'r ffyrdd cul a oedd wedi cynyddu lefelau'r llygredd yn rhai o'r strydoedd gymaint â 220% ond mae hyn hefyd yn golygu bod cerdded o amgylch y dref yn fwy peryglus.

Mae gwaith arfarnu pellach ar y gweill. Roedd ymgynghoriad i fod i gael ei gynnal fis Ebrill diwethaf ond bu'n rhaid ei ganslo oherwydd COVID-19. Gobeithio y bydd yn cael ei gynnal pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

Bydd y Cyngor Sir yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r ffordd osgoi, a bydd hefyd yn ymrwymo i weithio ar waith atodol na fyddai'n bosibl heb y ffordd osgoi, megis ehangu troedffyrdd, gwella'r amgylchfyd cyhoeddus a chyflawni mesurau eraill i gefnogi busnesau lleol.

Byddaf yn trefnu bod llythyr arall yn cael ei ddrafftio i Lywodraeth Cymru ar ran y Cyngor yn cadarnhau hyn.

Nid oedd unrhyw gwestiynau ategol.

 

10.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:

 

10.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd Bill Thomas i gymryd lle'r Cynghorydd Amanda Fox fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

10.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd
Rob James i gymryd lle'r Cynghorydd Bill Thomas fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.

 

 

11.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda o dan 11.1 – 11.9 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau