Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr C.A. Campbell, A.L. Fox, P.M. Hughes a S. Matthews.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr heriau yr oedd yr Awdurdod yn eu hwynebu yn ystod ei gyfnod yn y swydd a oedd, oherwydd pandemig Covid, wedi dechrau ac yn dod i ben gyda Chyfarfod Blynyddol rhithwir. Talodd deyrnged i'r holl staff a oedd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol wedi gallu parhau lle bynnag y bo modd gan ychwanegu ei fod yn meddwl am y rhai a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd nad oedd wedi gallu cynnal llawer o ymweliadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd oherwydd cyfyngiadau Covid, er ei fod wedi gallu mynychu seremoni plannu coed yn Hendy-gwyn ar Daf ym mis Gorffennaf yn ogystal ag agor Marchnad Fforwm Glanyfferi. Roedd hefyd wedi gosod torch yng Ngwasanaeth Sul y Cofio yn Llanelli.

 

Mynegodd dristwch nad oedd wedi gallu ymweld â phreswylwyr yn y sir a oedd wedi dathlu eu pen-blwydd yn 100 oed nac yn gallu ymweld â chartref gofal y Cyngor yn y cyfnod cyn y Nadolig. Fodd bynnag, ei siom fwyaf oedd nad oedd wedi gallu cynnal Gwasanaeth Dinesig yn Llanybydder, sydd fel arfer yn un o uchafbwyntiau blwyddyn Cadeirydd yn ei swydd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith, er bod digwyddiad codi arian Trochfa'r Tymor Flynyddol yng Nghefn Sidan, Pen-bre, wedi'i ganslo, ei fod wedi cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig o amgylch ei bentref a'r ardaloedd cyfagos yn ogystal â threfnu taith nofio noddedig ym Mhentywyn dros benwythnos y Pasg. Diolchodd i bawb a gyfrannodd tuag at yr elusennau a ddewiswyd ganddo – Prostrate Cancer ac Eglwys San Pedr, Llanybydder.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a diolchodd i'r Aelodau am eu cydweithrediad. Diolchodd hefyd i'w Gydymaith, y Cynghorydd Sue Allen, i'r Parchedig Wyn Maskell am wasanaethu fel ei Gaplan, Wendy Walters a Linda Rees Jones am eu cefnogaeth a'u harweiniad drwy gydol y flwyddyn, staff yn Gwasanaethau Democrataidd a'r Gwasanaethau Cymorth i Aelodau, staff T.G. a Callum Warwick a fu'n arbennig o ddefnyddiol yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Yn olaf estynnodd ei longyfarchiadau a'i ddymuniadau gorau i'w Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Eirwyn Williams a'i Gydymaith, Mrs Joyce Williams, a dymunodd yn dda iddynt yn eu blwyddyn yn y swydd. Llongyfarchodd hefyd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd a'i gydymaith, Mrs Katherine Lloyd.

 

4.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2021-22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd I.W. Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd W.T. Evans a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd J.E. Williams yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd I.W. Davies y Cynghorydd Williams ar ei etholiad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Eirwyn Williams ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Williams i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei flwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r cyngor ac yn cwrdd â phobl ar ôl i'r cyfyngiadau symud presennol gael eu llacio. Talodd y Cynghorydd Williams deyrnged hefyd i'r Cadeirydd sy'n ymddeol, y Cynghorydd I.W. Davies.

 

Talwyd teyrngedau hefyd i'r Cadeirydd sy'n Ymddeol gan  Arweinwyr Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Annibynnol, y Gr?p Llafur a'r Grwpiau Annibynnol Newydd am y gwasanaeth rhagorol yr oedd wedi'i roi i'r Cyngor yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu holl eiriau caredig a dywedodd na fyddai'r Gadwyn Swyddogol yn cael ei chyflwyno i'w Gydymaith (Mrs Joyce Williams) ar y diwrnod hwnnw oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol. Gobeithio y byddai hynny'n cael ei drefnu ar gyfer y swyddogaeth seremonïol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i'r Cadeirydd oedd yn Ymddeol a'i gydymaith (Y Cynghorydd Ieuan Davies a Mrs Sue Allen), a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor. Llongyfarchodd y Cadeirydd a'r Cydymaith newydd (y Cynghorydd Eirwyn Williams a Mrs Joyce Williams), a'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith (y Cynghorydd Ken Lloyd a Mrs Katherine Lloyd ar eu penodiadau a dymunodd flwyddyn hapus a llwyddiannus iawn iddynt yn y swydd.

 

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2021-22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd D. Cundy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd K. Madge a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Ken Lloyd yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2021/22. 

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd yr Is-gadeirydd ar ei benodiad a dywedodd fod trefniadau wedi'u gwneud ar gyfer anfon Cadwyn Swyddogol y Cynghorydd Lloyd i'w gartref oherwydd y rheolau presennol o ran cadw pellter cymdeithasol.

 

Mynegodd yr Is-gadeirydd ei werthfawrogiad i'r Cyngor ar ei benodiad a gwnaeth ei ddatganiad o dderbyn y swydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai Cadwyn Swyddogol Cydymaith yr Is-gadeirydd (Mrs Katherine Lloyd) yn cael ei chyflwyno iddi ar y diwrnod hwnnw oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol. Gobeithio y bydd hyn yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 

6.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2020-21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol llongyfarchodd yr Arweinydd y Cynghorydd Gareth John ar ei benodiad yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyfeiriodd at y ffaith, er bod cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rhithwir flwyddyn ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf, mai'r gobaith oedd dechrau cyfarfodydd hybrid yn fuan lle gallai aelodau a swyddogion fynychu cyfarfod yn bersonol neu ar-lein. Ar nodyn cadarnhaol croesawodd y ffaith bod 2 filiwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael brechiad i'w hamddiffyn rhag Covid. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda roedd 60% o'r boblogaeth wedi cael eu brechiad cyntaf ac roedd 27% wedi cael eu hail frechiad. Fodd bynnag, o ystyried newyddion am amrywiolyn Covid o India, pwysleisiodd yr angen am wyliadwriaeth barhaus gan ychwanegu y byddai ymateb yr Awdurdod yn cael ei fesur a'i gymesur a'i arwain gan resymeg wyddonol. Ychwanegodd, er bod cyfyngiadau wedi cael eu llacio'n ddiweddar, y byddai'r Awdurdod yn symud ymlaen yn ofalus gan ganolbwyntio ar ddychwelyd i'r arfer o ran ailagor busnesau a gwasanaethau lleol.

 

Ar hynny cyflwynodd yr Arweinydd ei chweched Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2020/21 a gyflwynwyd eleni ar ffurf fideo o'r enw 'Myfyrio, Ailosod, Symud Ymlaen’. Dywedodd fod y fideo, a fyddai hefyd ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yn rhoi crynodeb o'r heriau a wynebir gan y Cyngor a'r meysydd blaenoriaeth a fyddai'n cael sylw o hyn ymlaen. Roedd y fideo yn cynnwys cyfeiriadau at y canlynol:

 

·       Ailosod - Ffyrdd newydd o weithio, ffyrdd newydd o wasanaethu ein preswylwyr, polisïau newydd a ffyrdd newydd o weithredu, mae'r pandemig wedi gwneud i bethau ddigwydd yn gyflymach - ac yn y rhan fwyaf o achosion roedd hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn;

 

·       Symud Ymlaen - Cael economi Sir Gaerfyrddin i symud eto. Byddwn yn cefnogi busnesau i ailsefydlu a ffynnu eto. Byddwn yn creu swyddi newydd i gael pobl yn ôl i waith, a byddwn yn parhau i wireddu ein huchelgeisiau;

 

·       Adferiad Canol Trefi Canol ein trefi yw lle mae pobl yn dod at ei gilydd, lle gall busnesau ffynnu a lle gall ffrindiau a theulu fwynhau eu hamser hamdden gyda'i gilydd. Yng nghanol ein holl drefi, byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau presennol a darpar fusnesau ac yn darparu'r cyfleoedd ar gyfer twf a gwneud pethau'n wahanol;

 

·       Deg Tref Ymhellach allan o'r canolfannau trefol, rydym hefyd yn canolbwyntio ar ein trefi marchnad gwledig - elfen bwysig a chyffrous o'n strategaeth adfywio gwledig, Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen;

 

·       Gwledig (cyffredinol) a Mart Caerfyrddin - Creu cyfleoedd newydd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin fel bod teuluoedd sy'n cael eu geni a'u magu yn ein cymunedau yn cael eu hannog i aros, cyfrannu a ffynnu;

 

·       Arfordir - Datblygiadau arfordirol allweddol gan gynnwys y prif gynllun adfywio gwerth £7 miliwn sydd i'w gwblhau'n fuan ym Mhentywyn gydag amgueddfa ac eco-westy newydd o'r radd flaenaf ochr yn ochr â'r promenâd newydd, a dechrau datblygiad Pentre Awel gwerth £200 miliwn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

Media

7.

CADARNHAU PENODI AELODAU I BWYLLGORAU'R CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2021-22 pdf eicon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill ac aelodaeth y pwyllgorau hynny. Cadarnhaodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol nad oes unrhyw newidiadau ychwanegol o ran aelodaeth.

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2021/22, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

8.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETH I LAW AR GYFER PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU/PANELAU Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2021-22 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 17.6 o'r Weithdrefn Gorfforaethol, bu'r Cyngor yn ystyried yr enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2021/22. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2021/22:-

 

PWYLLGOR / PANEL

CADEIRYDD

IS-GADEIRYDD

Y Pwyllgor Craffu - Cymunedau

I'w benodi gan y Pwyllgor

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant

Y Cynghorydd D. Price

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd

Y Cynghorydd J.D. James

Y Cynghorydd A. Vaughan Owen

Y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Y Cynghorydd G. John

Y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Y Cynghorydd G. Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

Pwyllgor Apêl

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd S.M. Allen

Pwyllgor Penodi A – Cyfarwyddwyr

Y Cynghorydd E. Dole

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Pwyllgor Penodi B - Penaethiaid Gwasanaeth

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Y Cynghorydd E. Dole

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd R. James

Y Cynghorydd W.T. Evans

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.E. Williams

Heb fod yn ofynnol

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Y Cynghorydd D.E. Williams

Pwyllgor Penodi Aelodau

Y Cynghorydd J.M. Charles

Y Cynghorydd W.R.A. Davies

Y Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd A. Lenny

Y Cynghorydd H.I. Jones

Y Panel Adolygu Tai

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Y Cynghorydd I.W. Davies

 

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol a'i fod, fel rhan o'r broses honno, wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad [CRWG] i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir. Argymhellwyd y newidiadau canlynol i'r Cyngor gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad:-

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn cyflwyno nifer o newidiadau deddfwriaethol a byddai'r newidiadau hyn yn dod i rym ar wahanol ddyddiadau. Roedd y cyfansoddiad wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a oedd yn hysbys hyd yma. 

Rhan 3.2 - Cynllun Dirprwyo i Swyddogion

Roedd y cynllun dirprwyo yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu strwythur sefydliadol presennol y Cyngor ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol.  Byddai'r newidiadau hyn yn mynd i Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad ar wahân ac yn destun adroddiad pellach i'r Cyngor.

Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Rhan 6.1)

Yn gyfansoddiadol, cyfrifoldeb y Cyngor  oedd mabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond bellach y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys penderfyniadau IRPW ar gyfer 2021/22 a oedd yn daladwy o 1 Ebrill 2021. Cynghorwyr a benodir i swyddi newydd Byddai Cyflogau Uwch/Dinesig yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael unrhyw gyflog diwygiedig o ddechrau'r flwyddyn ddinesig (19 Mai 2021).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1       yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, i fabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2021/22, fel y nodir yn Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad;

9.2       cymeradwyo'r newidiadau cyfansoddiadol, sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac unrhyw argymhellion ychwanegol a gyflwynwyd gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad;

9.3       bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen;

9.4   yn amodol ar argymhellion 9.1 – 9.3 uchod, a hefyd ar yr amod bod ‘Cyfrifoldeb am Swyddogaethau, Swyddogaeth D.7. ‘Dyletswydd i ddarparu cymorth yn etholiadau Senedd Ewrop', bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn cael ei fabwysiadu.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau