Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. M. Edwards, A.L. Fox a B.D.J. Phillips.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.D. Evans

7.2 - Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i adleoli Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd o 75 i 120.

Mab-yng-nghyfraith yn gweithio yn Ysgol Heol Goffa.

L.M. Stephens

8.3 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021/22).

Aelod o'r teulu yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes

H.A.L. Evans

8.1 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021 (Cyfrif Refeniw Tai).

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai.

S.J. G. Gilasbey

8.1 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021 (Cyfrif Refeniw Tai).

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor

P.M. Hughes

8.3 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021/22).

Yn byw ar safle busnes.

E. Dole

8.3 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021/22).

Aelod o'r teulu yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ysgrifennu at Ei Mawrhydi y Frenhines i gyfleu cydymdeimlad dwysaf Cyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

·         Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor fod y Lleng Brydeinig Frenhinol, Llandeilo wedi colli ei Llywydd / Cyn-gadeirydd a'i chefnogwr gydol oes, D T Davies, OBE, MM yn 2020.  Rhoddwyd gwybod bod y Lleng Brydeinig Frenhinol, Llandeilo yn codi arian ar gyfer meinciau coffa.  Y bwriad yw gosod un ym Mharc Penlan, Llandeilo a'r llall yn Nryslwyn. Byddai'r meinciau yn coffáu dyn mawr a hefyd y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n dathlu 100 mlynedd eleni.  Byddai'r Cynghorydd Edward Thomas (Cadeirydd Cangen Llandeilo) yn croesawu unrhyw roddion.

·         Rhoddwyd gwybod bod yna dân difrifol yn y t? yn Talar Wen, Pencarreg, ddydd Mercher, 5 Ebrill lle collodd y preswylydd bob dim, ond yn ffodus, ni chafodd hi a'i mab eu hanafu.  Roedd swyddogion o'r Adran Tai wedi bod yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i lety arall. Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch diffuant i bawb oedd yn gysylltiedig â’r mater.

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar eu llwyddiant diweddar wrth ennill cystadleuaeth siarad cyhoeddus Saesneg a siarad cyhoeddus Cymraeg ar lefel Cymru.

·         Mynegodd y Cynghorydd Jeanette Gilasbey ei llongyfarchiadau i Jonathan Gravell ar ddod yn Uchel-Siryf nesaf Dyfed.

·         Mynegodd y Cynghorydd Emlyn Dole ei longyfarchiadau i bawb a safodd yn yr etholiadau diweddar a diolchodd i'r asiantau a'u cefnogodd. Mynegwyd llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Cefin Campbell ar gael ei ethol yn Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.  Croesawyd y Cynghorydd Ann Davies hefyd fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig. 

·         Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jim Jones yn ôl yn dilyn cyfnod o salwch.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

4.1

3 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 581 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021 yn gofnod cywir.

4.2

10 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 yn gofnod cywir.

5.

YSTYRIED ENWEBU CADEIRYDD Y CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2021/2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd J. Eirwyn Williams yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

6.

YSTYRIED ENWEBU IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2021/2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL enwebu'r Cynghorydd K. Lloyd yn Ddarpar Is-Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 450 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021 (gweler cofnod 6) wedi rhoi ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am yr addasiadau a wnaed i Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 a’r Amcanion Llesiant a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018.  Gwnaed yr addasiadau i adlewyrchu'r blaenoriaethau sy'n datblygu, effaith Pandemig Covid-19, Brexit a newid yn yr hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu argymhelliad y Bwrdd Gweithredol y dylai'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018 gael eu haddasu, fel yr adroddwyd, i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Covid-19, Brexita newid yn yr hinsawdd.

7.2

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I ADLEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 517 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar gynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

ar y sail ganlynol:

·         nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;

·         bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ynghylch y cynnig statudol a chafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac roedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac, ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori;

·         ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol; 

bod y cynigion felly i adleoli Ysgol Heol Goffa a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael eu rhoi ar waith.

7.3

CYLCH GWAITH BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad yn diwygio Cylch Gwaith Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLy dylid mabwysiadu argymhellion y Bwrdd Gweithredol i gymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a'i gynnwys yng nghyfansoddiad y cyngor.

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

22 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.A.L Evans a S.J.G Gilasbey wedi datgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021.

8.2

22 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

8.3

12 EBRILL 2021 pdf eicon PDF 291 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: 1.  Roedd y Cynghorydd L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.

2.  Roedd y Cynghorwyr P. M. Hughes ac E. Dole wedi datgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021.

9.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 11.1 – 11.18 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau