Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 77174084# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  D.C. Evans; D. Harries; H.I. Jones; T.J. Jones; K. Madge a B.A.L Roberts

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jeff Edmunds i'r cyfarfod ar ôl bod yn dost yn ddiweddar a dymunodd wellhad llwyr iddo;

·       Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Andre McPherson ar ei briodas ddiweddar;

·       Mynegodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Kevin Madge yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar;

·       Bu i'r Cynghorydd Liam Bowen longyfarch Nigel Owens am gyrraedd y garreg filltir o ddyfarnu 100 o gemau prawf rygbi rhyngwladol, y cyntaf mewn hanes i gyflawni'r gamp honno, a hefyd i Kieran Hardy ar ennill ei ail gap rygbi dros Gymru, roedd y ddau ohonynt yn drigolion yn Ward Pontyberem;

·       Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Covid-19 yn y Sir. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dole at y cyfraddau cynyddol o Covid 19 a derbyniadau i'r ysbyty yn y Sir ac at y pwysau yr oedd hynny'n ei achosi ar y Gwasanaeth Iechyd. Er ei fod yn croesawu brechlyn Covid-19 a gafodd ei gyflwyno'n ddiweddar, anogodd holl drigolion y Sir i helpu i leihau'r pwysau hwnnw drwy ddilyn rheolau a chanllawiau Llywodraeth Cymru i gadw eu hunain, a'u cymunedau'n ddiogel;

·       Gwahoddodd y Cadeirydd arweinwyr grwpiau gwleidyddol y Cyngor i annerch y Cyngor, a chyfeiriodd pob un ohonynt at y cyfnodau anodd a achoswyd gan bandemig Covid gan fynegi eu gwerthfawrogiad a'u diolchgarwch i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled a'u haberthau er mwyn cadw cymunedau'n ddiogel yn y sir a rhoi cefnogaeth a chymorth i'r rhai sy'n agored i niwed a'r rheiny sydd fwyaf mewn angen. Mynegwyd gwerthfawrogiad hefyd i ddarparwyr a gwirfoddolwyr eraill yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn y sir am eu cefnogaeth.

 

Adleisiodd aelodau eraill y Cyngor sylwadau arweinwyr y grwpiau.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 11 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd A.D.T. Speake yn y rhestr o'r rheiny oedd yn bresennol.

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Tachwedd 2020 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin a Chanol Tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn lle, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol. Fodd bynnag, pe bai angen cais cynllunio ffurfiol, byddai'n rhaid cyflwyno hynny fel y gwneir ar hyn o bryd. Cadarnhawyd ymhellach fod gwaith ar adeiladau rhestredig wedi'i eithrio o'r Gorchmynion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

6.1

Bod cwmpas y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo i'w ystyried drwy gyfrwng y broses adrodd ddemocrataidd;

6.2

Bod y Gorchmynion Datblygu Lleol yn cael eu paratoi ar gyfer y trefi perthnasol gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau ffurfiol fel y bo'n briodol ac adrodd ymhellach ar eu cwmpas, eu cynnwys a'u graddau daearyddol arfaethedig;

6.3

Cymeradwyo cyhoeddi'r Gorchymyn Datblygu Lleol terfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf 6;

6.4

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion baratoi tystiolaeth i gefnogi'r Gorchymyn Datblygu Lleol;

6.5

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud mân newidiadau golygyddol a ffeithiol;

6.6

Diwygio'r cynllun ar gyfer Gorchymyn Datblygu Lleol Canol Tref Caerfyrddin i gynnwys Heol Awst, Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd.

 

6.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

2AIL TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.2

16EG TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.3

23AIN TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LOUVAIN ROBERTS pdf eicon PDF 189 KB

Mae tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i nodi gwahanol ddigwyddiadau.

Er ei fod yn rhoi llawer o fwynhad i bobl, mae'n gallu achosi cryn dipyn o ofn i bobl eraill ac anifeiliaid hefyd.

Mae’r anifeiliaid yr effeithir arnynt nid yn unig yn dioddef trallod seicolegol ond mae hyn hefyd yn gallu achosi iddynt hunan-niweidio.

 

Galwaf felly ar Gyngor Sir Caerfyrddin i'w gwneud yn ofynnol i'r holl arddangosfeydd Tân Gwyllt Cyhoeddus o fewn ffiniau Awdurdodau Lleol gael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i drigolion gymryd y rhagofalon angenrheidiol o ran lles eu hanifeiliaid a lles pobl agored i niwed.

 

Mynd ati i hyrwyddo Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl agored i niwed.  Gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r risgiau.

 

Ysgrifennu at Lywodraeth y DU/Cymru, a’u hannog i gyflwyno Deddfwriaeth i gyfyngu ar uchafswm lefel s?n y tân gwyllt i 90 dB o ran y rhai sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

 

Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i stocio 'fersiwn mwy tawel' o'r tân gwyllt a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus ac ati

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Louvain Roberts yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a'i bod wedi gofyn i'w Rhybudd o Gynnig gael ei dynnu'n ôl o'r cyfarfod.

 

Nododd y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i dynnu'n ôl.

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW):-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau