Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 47093491# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.S. Edmunds, L.D. Evans, H.I. Jones, T.J. Jones a B.A.L. Roberts.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

 

 

 

·             Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i'r Cynghorydd Ann Davies a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei mam-yng-nghyfraith ar ddiwedd mis Hydref;

 

·             Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i deulu'r cyn-Gynghorydd Lynne Davies. Bu Lynne yn aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin tan 1999, a bu'n gwasanaethu ward Penygroes;

 

·             Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o gynrychioli'r Awdurdod ddydd Sul yng Ngwasanaeth Dydd y Cofio yn Neuadd y Dref, Llanelli. Ychwanegodd fod y digwyddiadau blynyddol hyn yn bwysig i ni gofio'r rhai a roddodd eu bywydau ym mhob rhyfel, ac er y cynhaliwyd y gwasanaeth ar raddfa lawer llai, bu'n anrhydedd bod yn bresennol ar ran y Cyngor. 

 

·             Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor o nodau Ymgyrch y Rhuban Gwyn, a fyddai'n cael ei chydnabod ar 25 Tachwedd 2020, ac anogodd aelodau i arwyddo'r rhuban a gwneud yr addewid "i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod". Byddai'r Cyngor yn codi baner y Rhuban Gwyn yn Neuadd y Sir ac yn Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.  

·             Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Amanda Fox a enillodd wobr gymunedol Peter Rees fel cydnabyddiaeth o'i hymdrechion i helpu cymuned Porth Tywyn yn ystod Pandemig Covid 19;

 

·             Diolchodd y Cynghorydd Dot Jones i'r Frigâd Dân, y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Heddlu a'r gymuned leol am eu cymorth ar ôl i d? yn y Tymbl gael ei daro gan fellten, gan ddinistrio y tu mewn i'r eiddo. Roedd D?r Cymru a Western Power hefyd wedi gweithio'n gyflym i adfer cyfleustodau yr effeithiwyd arnynt. Ychwanegodd fod preswylwyr yr eiddo wedi rhoi'r arian a godwyd yn lleol o ganlyniad i'r digwyddiad i'r orsaf Dân ac Ambiwlans leol a oedd wedi cytuno yn dilyn hynny i brynu diffibriliwr ar gyfer yr ardal. Diolchodd y Cynghorydd Jones hefyd i swyddogion adain Tai y Cyngor am eu cymorth.

 

·             Bu i'r Cynghorydd Emlyn Dole, ar ran y Cynghorydd Liam Bowen, longyfarch Jonny Clayton, un o weithwyr y cyngor ac un o drigolion Pontyberem, ar ei lwyddiant diweddar yn ennill Cwpan y Byd Dartiau;

 

·             Gofynnodd y Cynghorydd Mair Stephens i'r Aelodau a allent gefnogi'r apêl teganau flynyddol fel bod plant llai ffodus yn gallu mwynhau agor anrhegion fore Nadolig;

 

·             Dymunodd y Cadeirydd ben-blwydd hapus i Mrs. Nan Percival, Glan yr Ystrad, Glanyfferi yn 100 oed;

 

·             Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Covid-19 yn y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Dole ei fod yn croesawu'r newyddion bod cyfradd yr haint yn gostwng yn araf a bod y Llywodraeth wedi ymestyn y cynllun ffyrlo i fis Mawrth 2021. Dywedwyd wrth y Cyngor bod grantiau cymorth busnes yn parhau i gael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin a bod 4086 o daliadau wedi'u gwneud hyd yma, sef cyfanswm o dros £46m. Hefyd, derbyniwyd dros 2000 o geisiadau am grant ar gyfer Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

COFNODION Y CYNGOR - 22 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2020 yn gofnod cywir yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd D.E. Williams yn y rhestr o'r rheiny oedd yn bresennol a chynnwys enw'r Cynghorydd P.M Hughes o dan 'Ymddiheuriadau am Absenoldeb'.

 

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

PROSIECT SEILWAITH DIGIDOL, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn y cyfarfod ar 19 Hydref 2020 (gweler cofnod 4), wedi rhoi ystyriaeth i'r Achos Busnes arfaethedig, a'r buddsoddiad dilynol, ar gyfer Prosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Awdurdod arweiniol dynodedig ar ei gyfer. Byddai'r Prosiect yn helpu i ddarparu'r seilwaith sylfaenol hanfodol sydd ei angen i gefnogi ac ategu Strategaeth Ddigidol ehangach y rhanbarth ac yn helpu i sicrhau bod gan y rhanbarth Seilwaith Digidol sydd wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a fydd yn darparu'r sylfeini trawsnewidiol ar gyfer ymyriadau'r Fargen Ddinesig a thwf rhanbarthol ehangach.

Roedd yr Aelodau'n gwbl gefnogol o'r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad a dywedwyd wrthynt y gellid cael gwybodaeth am y sefyllfa band eang bresennol ym mhob un o'u wardiau gan swyddogion os oeddent yn dymuno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“4. cymeradwyo'r Achos Busnes arfaethedig a'r buddsoddiad dilynol mewn Seilwaith Digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

4.2 rhoi pwerau dirprwyedig i Uwch-berchennog Cyfrifol y prosiect i wneud mân newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen er mwyn cael cymeradwyaeth ar lefel llywodraeth leol, rhanbarthol a chenedlaethol.”

 

[NODER: Yn y rhan hon o'r cyfarfod, sef 11.00 a.m., cynhaliwyd dwy funud o dawelwch i gofio'r rhai a oedd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel.]

 

6.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 19EG HYDREF 2020 pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

8.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

9.

NEWIDIADAU I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:

 

PHENDERFYNWYD:-

 

9.1     penodi'r Cynghorydd Suzy Curry yn lle'r Cynghorydd Fozia Akhtar ar y Pwyllgor Trwyddedu;

 

9.2    penodi'r Cynghorydd Rob James yn lle'r Cynghorydd Suzy Curry ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

10.

PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:-

 

Cynghorydd Rob James  - Gr?p Llafur.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan fod y Cynghorydd Rob James wedi cymryd lle'r Cynghorydd Suzy Curry ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd [gweler cofnod 9.1 uchod] gofynnwyd i'r Cyngor ystyried penodi Cadeirydd newydd ar gyfer y Pwyllgor hwnnw. Yn unol â gofyniad y Cyfansoddiad, gofynnwyd i Arweinwyr gyflwyno eu henwebeion. Yr unig enw a gyflwynwyd oedd y Cynghorydd Rob James.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Rob James yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

11.1

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau