Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, C. Davies, LL. M. Davies, D. Nicholas a J. Seward. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: The Chair reported that she had the previous week, together with Councillor Edward Thomas, visited a lady in Llandeilo celebrating her 112th birthday. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio wrth y Cyngor fod y cyfnodau ymgynghori sy'n ymwneud â Llinell Beilonau Tywi/Teifi Green Gen a chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn dod i ben ac anogodd aelodau i gyfrannu at y broses ar gyfer y ddau ymgynghoriad hynny. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd H.L. Davies yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd D. Jones yn Ddarpar Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENNU TRETH Y CYNGOR AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 2024/25 PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2024/2025, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddent yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol. Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor. PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2024/25 yn cael eu mabwysiadu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD POLISI TALIADAU 2024/25 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: 1. Roedd y Cynghorwyr J.M Charles, D.M. Cundy, A. Davies, B. Davies, C.A. Davies, T. Davies, T.A.J. Davies, A. Evans, D.C. Evans, N. Evans, R.E. Evans, S. Godfrey-Coles, J. Hart, T. Higgins, P.M. Hughes, R. James, A.C. Jones, H. Jones, A. Leyshon, M.J.A. Lewis, K. Madge, M. Palfreman, W.E. Skinner, E. Rees, B.A.L. Roberts, a F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cynghorwyr hynny y cyfarfod; 2. Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod. 3. Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad ar ei ran. 4. Gan fod Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd B.A.L. Roberts, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, cadeiriodd yr Is-gadeirydd y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, yr adroddiad a amlinellai fod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y Gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddent yn Brif Swyddogion. Dywedwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl a bod ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir y diwrnod hwnnw. Dywedwyd bod y Panel, yn ei gyfarfod y flwyddyn flaenorol, wedi gofyn bod yr opsiynau yn cael eu cyflwyno ar gyfer adolygu model cyflogau presennol y Cyd-gyngor Cenedlaethol a dileu'r gorgyffwrdd rhwng graddau, yn enwedig ar waelod y raddfa gyflog. Yn unol â'r cais hwnnw, roedd papur ar wahân (a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn rhoi manylion dau gynnig ar gyfer dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D ac A i E ynghyd â chostau. Roedd y Panel Tâl, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024, wedi ystyried y ddau opsiwn, yng nghyswllt yr hinsawdd ariannol heriol, a chytunodd i gyflwyno cynnig 1 (h.y. dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D, gan gynnwys y graddau hynny) ym mis Ebrill 2025, os bydd yn ariannol hyfyw gwneud hynny. Byddai'r argymhelliad hwnnw yn cael ei drafod yn Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd yr Undebau Llafur ym mis Ebrill 2024. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, yn ogystal â'r ymrwymiad a roddwyd eisoes mewn perthynas â chyfraddaucyflog byw y Living Wage Foundation, fod yr Awdurdod hefyd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19 CHWEFROR 2024 PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mewn ymateb i gwestiwn am y Strategaeth Cyllideb Refeniw a'r diffyg yn y cyllidebau presennol y mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Sir yn ei wynebu, dywedwyd wrth y Cyngor fod y sefyllfa yn ymwneud â chyllidebau ysgolion yn arbennig o gyfnewidiol ar hyn o bryd ac y byddai'n dod yn gliriach wrth iddynt bennu eu cyllidebau yn ystod yr wythnosau nesaf.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ROBERT JAMES A DOT JONES "Yn y bôn, mae gwasanaethau bysiau ysgol ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion yn gallu teithio'n ddiogel i'r ysgol ynghyd â helpu i leddfu tagfeydd drwy leihau'r miloedd o deithiau unigol mewn ceir bob dydd.
Ym mis Chwefror, cafodd yr aelodau lleol wybod bod y gwasanaethau bws L23, L24 a L27 yn Llanelli wedi cael eu canslo pan wnaeth y darparwr lleol y penderfyniad anodd i dynnu ei ddarpariaeth yn ôl. Nid yw hwn yn achos ar ei ben ei hun, yn Sir Gaerfyrddin nac yng Nghymru, ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl a'r mynediad i wasanaethau bysiau ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r Cyngor hwn:
- Yn galw ar y Cabinet i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer sicrhau bod gan bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin yr hawl a'r gallu i gael mynediad i wasanaethau bysiau ysgol dibynadwy. - Yn credu y dylid cynnal uwchgynhadledd frys gyda'r darparwyr preifat sy'n weddill i asesu hyfywedd pob llwybr ac ystyried a oes cyfleoedd i ddod â llwybrau yn ôl. - Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ar frys ei hadolygiad diweddaraf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a lobïo dros gefnogi hefyd ddisgyblion sy'n byw o fewn 3 milltir i ysgol gyfun i deithio ar fws i'r ysgol" Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd S.L. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)
Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Rob James a Dot Jones:-
"Yn y bôn, mae gwasanaethau bysiau ysgol ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion yn gallu teithio'n ddiogel i'r ysgol ynghyd â helpu i leddfu tagfeydd drwy leihau'r miloedd o deithiau unigol mewn ceir bob dydd.
Ym mis Chwefror, cafodd yr aelodau lleol wybod bod y gwasanaethau bws L23, L24 a L27 yn Llanelli wedi cael eu canslo pan wnaeth y darparwr lleol y penderfyniad anodd i dynnu ei ddarpariaeth yn ôl. Nid yw hwn yn achos ar ei ben ei hun, yn Sir Gaerfyrddin nac yng Nghymru, ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl a'r mynediad i wasanaethau bysiau ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r Cyngor hwn: · Yn galw ar y Cabinet i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer sicrhau bod gan bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin yr hawl a'r gallu i gael mynediad i wasanaethau bysiau ysgol dibynadwy. · Yn credu y dylid cynnal uwchgynhadledd frys gyda'r darparwyr preifat sy'n weddill i asesu hyfywedd pob llwybr ac ystyried a oes cyfleoedd i ddod â llwybrau yn ôl. · Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ar frys ei hadolygiad diweddaraf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a lobïo dros gefnogi hefyd ddisgyblion sy'n byw o fewn 3 milltir i ysgol gyfun i deithio ar fws i'r ysgol"
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig
PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN AELODAU: Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU, TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH "A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?" Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?"
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith
Roedd cyflwyno deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, yn gorfodi awdurdodau lleol i gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar bob ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn lle'r terfyn diofyn blaenorol o 30mya. Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio'n gyfreithiol yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel ffyrdd lle ceir system o oleuadau stryd. Mae hyn yn gyffredinol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ffyrdd yn nhrefi Sir Gaerfyrddin a'r rhan fwyaf o bentrefi. I roi'r terfyn diofyn newydd ar waith mewn aneddiadau ac ardaloedd trefol mwy, bu'n rhaid i awdurdodau lleol newid yr arwyddion terfyn cyflymder ar ffin yr ardal yn unig i gynnwys yn awtomatig yr holl ffyrdd cyfyngedig y tu mewn i'r ardal. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydnabod bod hyn yn gymhleth.
Mae nifer o ffyrdd, er enghraifft yr A484 o Lanelli drwy Gaerfyrddin ac ymlaen i Gastellnewydd Emlyn, sydd bellach â nifer o rannau â therfyn cyflymder 20mya drwy ardaloedd aneddiadau fel Heol y Sandy, Porth Tywyn, tref Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn, ond sydd â therfynau cyflymder uwch rhwng yr aneddiadau. O ganlyniad, efallai y bydd gan un ffordd lawer o ddarnau sydd wedi newid yn ddiofyn o 30mya i 20mya. I ateb y cwestiwn, mae dadansoddiad o ddata yn ein system fapio yn dangos bod 2567 o ddarnau ffyrdd â goleuadau stryd sydd wedi newid yn ddiofyn i 20mya. Fodd bynnag, dylid cydnabod hefyd bod o leiaf 300 o blith y 2567 o ddarnau ffyrdd hyn eisoes â chyfyngiadau 20mya cyn y ddeddfwriaeth, a hynny yn ardal Llanelli yn unig. Pan oedd terfynau 20mya presennol ar waith yn flaenorol yn rhinwedd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, bu'n rhaid dirymu'r Gorchmynion er mwyn i gyfyngiad y ddeddfwriaeth ehangach gael blaenoriaeth. Bu’n rhaid dirymu cyfanswm o 76 o Orchmynion Rheoleiddio Traffig lle roedd pob Gorchymyn yn cwmpasu un stryd neu grwpiau o strydoedd.
Un o brif amcanion y Cyngor Sir wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd darparu cysondeb i ddefnyddwyr ffyrdd. Mewn nifer o achosion, roedd gan ffyrdd penodol oleuadau stryd dros ran ohonynt yn unig. Roedd hyn yn digwydd fel arfer tuag at ffin yr anheddiad lle roedd datblygiad yn ymestyn y tu hwnt i derfyn y goleuadau stryd. Mewn achosion o'r fath, byddai angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i ymestyn y terfyn 20mya i ddechrau'r ardal anheddiad fel bod defnyddwyr ffyrdd yn deall yn glir eu bod yn mynd i mewn i amgylchedd trefol. Roedd 417 o ddarnau ffyrdd yn cael eu trin fel hyn drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth awdurdodau lleol yng Nghymru y gallent wneud eithriadau i'r terfyn diofyn o 20mya i gadw terfyn o 30mya mewn amgylchiadau penodol a rhoddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.1 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-
Y Cynghorydd Robert Evans - Gr?p Llafur
Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd R.E Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU A PHANELAU'R CYNGOR A GYNIGIR GAN Y GRWP LLAFUR 1. Cynghorydd Michael Thomas i gymryd eu sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio 2. Cynghorydd Peter Cooper i gymryd eu sedd wag ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed 3. Cynghorydd Tina Higgins i gymryd eu sedd wag ar y Gweithgor Adolygu’r Cyfansoddiad
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau canlynol a gynigiwyd gan y Gr?p Llafur i aelodaeth Pwyllgorau a Phanelau:
· Y Cynghorydd Michael Thomas i lenwi'r sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio. · Y Cynghorydd P. Cooper i lenwi'r sedd wag ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed. · Y Cynghorydd Tina Higgins i lenwi'r sedd wag ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad. |