Agenda a Chofnodion

Treth y Cyngor a Datganiad Polisi Taliadau, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 10fed Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. M. Edwards, A.L. Fox, A. James, T.J. Jones ac A.G. Morgan.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r Adran Addysg;

S.J.G. Gilasbey

7 - Adolygiad o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu (Deddf Trwyddedu 2003)

Ysgrifennydd Clwb Rygbi Cydweli;

S.J.G. Gilasbey

8 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol 22 Chwefror 2021 [Cofnodion 3,7 ac 8 ohonynt]

Cofnod 3 – yn ymwneud â 2 ysgol yn y ward; Cofnod 7 – dim cyfeiriad at natur benodol y buddiant]; Cofnod 8 – Aelod o'r teulu yn denant;

K. Lloyd

 

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae aelodau o'r teulu yn cymryd rhan yng Nghynllun Cysylltu Bywydau Sir Gaerfyrddin ac yn ofalwyr;

K. Lloyd

 

9 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Yn meddu ar gyfranddaliadau yn Carmarthenshire Energy Ltd.;

T.A.J. Davies

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei chwaer-yng-nghyfraith yn Bennaeth Gwasanaeth gyda'r Cyngor;

K. Madge

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei ferch yn gweithio i'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol;

R. James

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei bartner yn gweithio i Lyfrgell Llanelli;

T.M. Higgins

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei nith yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd;

E. Dole

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei fab yn gweithio i'r Cyngor;

D.M. Cundy

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Perthynas yn gweithio i'r Cyngor;

C.A. Davies

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mae ei chwaer yn gweithio i'r Adran Addysg;

S.L. Davies

8 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol 22 Chwefror 2021 [Cofnod 8 ohonynt]

Aelod o'r teulu yn berchen ar eiddo y mae yn ei rentu;

P.M. Hughes

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Cyngor;

D. Nicholas

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei ferch yn gweithio i Adain Gynllunio'r Cyngor;

D.C. Evans

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei wraig yn gweithio i'r Cyngor;

R.E. Evans

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd;

J.S. Edmunds

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Dau aelod o'r teulu yn gweithio i'r Cyngor;

L.R. Bowen

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei wraig yn gweithio i Adain Gyfieithu'r Cyngor;

G.R. Jones

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei wraig yn gweithio i'r Adran Addysg;

J.D. James

8 – Cofnodion y Bwrdd Gweithredol 22 Chwefror 2021 [Cofnod 9 ohonynt]

Natur benodol y buddiant heb ei nodi;

B.A.L. Roberts

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Mab-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

G.H. John

6 – Datganiad Polisi Tâl 2021/22

Ei ferch yn gweithio i'r Is-adran Dai.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau fod croeso o hyd i roddion ar gyfer yr her gerdded yr oedd yn ymgymryd â hi ar hyn o bryd i godi arian ar gyfer ei ddwy elusen ddewisol, sef Prostate Cancer UK ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder. Hyd yma roedd wedi cerdded 44 milltir ac roedd ambell rodd eisoes wedi dod i law, gyda rhoddion pellach wedi eu haddo gan Gynghorwyr a rhai cynghorau tref. Ychwanegodd ei fod hefyd wedi gosod eitemau i'w gwerthu er lles yr elusennau ar y fforwm prynu a gwerthu ar fewnrwyd y Cyngor a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth;

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Jones at y ffaith fod rheilffordd Llangennech wedi'i hailagor yn ddiweddar a thalodd deyrnged i bawb a fu'n rhan o'r ymateb cychwynnol i'r ddamwain a'r gwaith o ailadeiladu'r rheilffordd ar ôl hynny. Yn benodol, diolchodd i'r ddau yrrwr trên a wnaeth achub y pentref a'r ardal gyfagos rhag trychineb fwy drwy weithredu'n gyflym i ddadfachu'r wagenni, gan ychwanegu ei bod yn bosibl y gallai'r Cyngor gydnabod hyn mewn rhyw ffordd;

 

·       Talodd y Cynghorydd Tyssul Evans deyrnged i weithredoedd y gwasanaeth tân lleol yn dilyn tân mewn t? yn Ffos-las yn ddiweddar.  Diolchodd hefyd i Jonathan Willis a Jonathan Morgan o Adran Cymunedau'r Cyngor am sicrhau bod y teulu'n cael llety dros dro, ac i'r Cynghorwyr Linda Evans a Kim Broom am eu cymorth;

 

·       Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith y byddai'n flwyddyn cyn hir ers i'r wlad ddechrau ar ei chyfnod cyntaf o gyfyngiadau oherwydd y pandemig Covid 19 a soniodd am yr ymateb rhagorol gan staff, partneriaid y cyngor, a'r cyhoedd dros y cyfnod hwnnw i sicrhau diogelwch a lles pawb. Ychwanegodd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal maes o law o'r modd y deliwyd â'r pandemig, ac y parheir i wneud hynny, ac y byddai tystiolaeth yn cael ei chyflwyno ynghyd ag asesiadau o benderfyniadau a wnaed. Rhoddwyd sicrwydd bod y Cyngor yn gweithio mor galed ag erioed i sicrhau diogelwch cymunedau yn Sir Gaerfyrddin. O ran ailagor ysgolion, pwysleisiodd, er y byddai hyn yn gam pwysig yn y broses adfer, y dylai pawb gadw at y canllawiau a gyhoeddwyd. Soniodd hefyd am y gwaith llwyddiannus o gyflwyno'r rhaglen frechu yng Nghymru a diolchodd i bawb a oedd yn ymwneud â sicrhau ei bod yn parhau ar y trywydd iawn gan gynnwys staff ar y rheng flaen, y timau a oedd yn sicrhau bod y canolfannau brechu torfol yn barod ac yn weithredol mewn cyfnod byr iawn.  Diolchodd hefyd i'r practisau meddygon teulu a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen;

 

·       Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith bod busnesau yn Llanelli wedi pleidleisio â
 mwyafrif llethol i barhau ag Ardal Gwella Busnes [AGB] Ymlaen Llanelli am 5 mlynedd arall ac roedd y Cyngor yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda thîm yr AGB i drefnu digwyddiadau mor llwyddiannus â'r rheiny a gynhaliwyd dros y 5 mlynedd flaenorol a gyfrannodd at ganol tref bywiog;

 

·       Ategodd yr Arweinydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

AILBENODI AELOD CYFETHOLEDIG I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad a argymhellai bod Mrs Mary Dodd yn cael ei hail-benodi yn aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau ar ôl i'w thymor presennol yn y swydd ddod i ben ar 14 Ebrill 2021. Mrs Dodd oedd un o aelodau cyfetholedig mwyaf profiadol y Pwyllgor Safonau ac ar y pryd roedd yn gwasanaethu fel is-gadeirydd y Pwyllgor. Roedd dau o aelodau mwy profiadol y Pwyllgor i fod i ymddeol ym mis Rhagfyr 2021 a oedd yn golygu bod cadw arbenigedd Mrs Dodd yn arbennig o bwysig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mrs Mary Dodd am dymor pellach o 4 blynedd yn y swydd fel aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau o 14 Ebrill 2021.

 

5.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM FLWYDDYN ARIANNOL 2021/22 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau adroddiad a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2021/2022, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor.

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2021/22 yn cael eu mabwysiadu.

 

6.

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2021/22 pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:

1.     Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, D.M. Cundy, T.A.J. Davies, C.A. Davies, E. Dole, D.C. Evans, J.S. Edmunds, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P.M Hughes, G. John, G.R. Jones, R. James, K. Lloyd, K. Madge, D. Nicholas a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach ac, ar wahân i'r Cynghorwyr K. Lloyd, T.A.J. Davies a G. John, gadawsant y cyfarfod;

2.     Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a'r Partner Busnes Arweiniol (Adnoddau Dynol) a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn codi ynghylch yr adroddiad a swyddogion a oedd yn  hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.].

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a amlinellai bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

Roedd Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad Polisi Tâl am 2021/22yn cael ei gymeradwyo yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

 

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2003) pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd S.J.G. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond arhosodd yn y cyfarfod].

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021 (cofnod 5 o'r ddogfen honno) wedi ystyried adroddiad ar yr adolygiad o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu. Roedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymgynghoriad ynghylch mabwysiadu Asesiad o'r Effeithiau Cronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Yn ôl y ddeddfwriaeth ar y pryd roedd yn ofynnol bod y Polisi Trwyddedu yn cael ei adolygu o leiaf bob pum blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.  Cynhaliwyd adolygiad llawn ddiwethaf yn 2015.

 

Roedd yr Adain Drwyddedu wedi adolygu'r ddogfen bolisi, ar y cyd ag adran gyfreithiol y Cyngor, yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd yn sgil ymgynghoriad helaeth, canllawiau diwygiedig y llywodraeth, gwelliannau i'r Ddeddf Trwyddedu a chyfraith achosion diweddar.

 

Diolchwyd i'r is-adran Drwyddedu am ei gwaith yn cynnal yr adolygiad.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol

 

7.1.1   “bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo”;

7.1.2  “bod yr Asesiad o'r Effeithiau Cronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin fel y manylir yn Adran 10 o'r polisi.”

 

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 22AIN CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: roedd y Cynghorwyr S.L. Davies ac S.J.G. Gilasbey wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach ond gwnaethant aros yn y cyfarfod. Ailadroddodd y Cynghorydd H.A.L. Evans y datganiadau yr oedd wedi'u gwneud fel y nodir yng nghofnodion y Bwrdd Gweithredol ond arhosodd yn y cyfarfod gan na thrafodwyd y materion].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021.

 

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

“Ddwy flynedd yn ôl, pasiodd Cyngor Sir Caerfyrddin gynnig yn datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol a chefnogodd y nod bod yr awdurdod hwn yn dod yn awdurdod carbon sero-net yn y naw mlynedd nesaf. Teimlwn nad yw pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau ein bod fel awdurdod yn cyrraedd y targed hwn ac yn nodi'r pryderon difrifol hyn sy'n cael eu hadleisio gan drigolion Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Cyngor hwn:

- yn pryderu ynghylch arafwch ein hawdurdod wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sy'n cael effaith ddinistriol ar gymunedau.
- Yn credu, oni bai bod adnoddau sylweddol yn cael eu neilltuo i fuddsoddi mewn cerbydau trydan neu gerbydau nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer ein fflyd, gan gynnwys ailgylchu cerbydau, ôl-ffitio ein hadeiladau, cynllun plannu coed ar raddfa fawr ledled Sir Gaerfyrddin, a chynhyrchu ynni yn lleol, na fyddwn yn cyrraedd ein targed. Nid yw prosiect cyfalaf y Cyngor yn mynd yn ddigon pell i ymateb i'r her hon ar hyn o bryd.
- Yn ofni bod parhau i ddatblygu ar gaeau gwyrdd yn niweidio'r amgylchedd ac yn fygythiad mawr i gymunedau o ran llifogydd.
- Yn nodi mai Cyngor Sir Gaerfyrddin, er gwaethaf y galw gan y cyhoedd a phwysau gwleidyddol, yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru o hyd i beidio â chasglu gwydr o d? i d? i gefnogi ein hymdrechion ailgylchu.
- Yn croesawu'r newyddion bod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cytuno i symud 24% o'i chyfranddaliadau i gronfeydd "reduced fossil fuel free", ac eto'n credu bod yn rhaid iddi fynd ymhellach cyn gynted â phosibl.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond arhosodd yn y cyfarfod].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Ddwy flynedd yn ôl, pasiodd Cyngor Sir Caerfyrddin gynnig yn datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol a chefnogodd y nod bod yr awdurdod hwn yn dod yn awdurdod carbon sero-net yn y naw mlynedd nesaf. Teimlwn nad yw pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau ein bod fel awdurdod yn cyrraedd y targed hwn ac yn nodi'r pryderon difrifol hyn sy'n cael eu hadleisio gan drigolion Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r Cyngor hwn:

- yn pryderu ynghylch arafwch ein hawdurdod wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sy'n cael effaith ddinistriol ar gymunedau.

- Yn credu, oni bai bod adnoddau sylweddol yn cael eu neilltuo i fuddsoddi mewn cerbydau trydan neu gerbydau nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer ein fflyd, gan gynnwys ailgylchu cerbydau, ôl-ffitio ein hadeiladau, cynllun plannu coed ar raddfa fawr ledled Sir Gaerfyrddin, a chynhyrchu ynni yn lleol, na fyddwn yn cyrraedd ein targed. Nid yw prosiect cyfalaf y Cyngor yn mynd yn ddigon pell i ymateb i'r her hon ar hyn o bryd.

- Yn ofni bod parhau i ddatblygu ar gaeau gwyrdd yn niweidio'r amgylchedd ac yn fygythiad mawr i gymunedau o ran llifogydd.

- Yn nodi mai Cyngor Sir Gaerfyrddin, er gwaethaf y galw gan y cyhoedd a phwysau gwleidyddol, yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru o hyd i beidio â chasglu gwydr o d? i d? i gefnogi ein hymdrechion ailgylchu.

- Yn croesawu'r newyddion bod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cytuno i symud 24% o'i chyfranddaliadau i gronfeydd "reduced fossil fuel free", ac eto'n credu bod yn rhaid iddi fynd ymhellach cyn gynted â phosibl.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais,

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Cynnig.

 

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

11.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £55m ar gyfer teithio llesol, sydd, yn ôl a ddeallaf, wedi'i gynllunio i annog awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol ac annog llwybrau beicio a cherdded i'r gwaith.

A ydych yn credu bod cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer llwybr beicio rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin yn uchelgeisiol ac yn arloesol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn neu a fydd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ac AS Lleol, yn creu anhawster arall?” 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £55m ar gyfer teithio llesol, sydd, yn ôl a ddeallaf, wedi'i gynllunio i annog awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol ac annog llwybrau beicio a cherdded i'r gwaith. A ydych yn credu bod cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer llwybr beicio rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin yn uchelgeisiol ac yn arloesol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn neu a fydd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ac AS Lleol, yn creu anhawster arall?” 

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Mae Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn gyfle gwych i arddangos y gorau o Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect yn uchelgeisiol a bydd yn dod â manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mawr i'r ardal. O safbwynt economaidd mae astudiaethau wedi dangos y byddai'n darparu rhwng £800k a £2.4m y flwyddyn i'r ardal gan greu rhwng 17 a 47 o swyddi ar adeg o angen mawr i'r sector twristiaeth. O safbwynt teithio llesol mae'r llwybr yn cysylltu 5 cymuned â'i gilydd ar hyd Dyffryn Tywi, heb gynnwys Caerfyrddin a Llandeilo, yn ogystal ag â chyflogaeth, ysbytai, addysg a'r sector adwerthu. Bydd yn rhoi dewis amgen diogel a deniadol i gymunedau ac ymwelwyr yn lle cefnffordd yr A4 sydd â nifer fawr o ddamweiniau sy'n achosi anafiadau personol. Mae adolygiad o'r data damweiniau sydd ar gael ar gyfer ardal Dyffryn Tywi yn dangos bod 17 o ddamweiniau wedi'u cofnodi ar hyd yr A40 yn y 5 mlynedd cyn 2018 – roedd hyn yn cynnwys 2 wrthdrawiad angheuol. O safbwynt yr amgylchedd byddai'r llwybr yn darparu cyfle enfawr i bobl deithio'n gynaliadwy a hynny gan fwynhau manteision ein sir wych. Mae'r llwybrau cerdded a beicio yn teithio drwy ardal sydd â digonedd o fioamrywiaeth. Rwyf yn gwerthfawrogi'r angen i ddatgarboneiddio, yr angen i hyrwyddo teithio llesol, yr angen i wella llesiant ein cenedl a'r angen i fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o'r economi ymwelwyr wrth i'r gymdeithas ddod allan o'r pandemig covid. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi annog awdurdodau i fod yn uchelgeisiol. Pwysleisiodd mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf, pe bai rhan o lein reilffordd segur, er enghraifft, yn ei darparu a fyddai'n cysylltu cymunedau, y gallai fod yn gymwys am arian grant. Mae gennym brif gynlluniau teithio llesol ar gyfer pob un o'n prif drefi ac aneddiadau. Rydym hefyd yn cynnwys llwybr Dyffryn Tywi sy'n brosiect rhagorol a fydd yn helpu ein cymunedau i adfer o effeithiau trychinebus y 12 mis diwethaf a sicrhau manteision i bawb gan gynnwys cymorth. Rydym wedi cyflwyno cynnig am grant eto eleni drwy Raglen Grant y Gronfa Drafnidiaeth Leol i gefnogi ein gwaith i gyflawni'r llwybr. Ni allwn ond gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi ein huchelgais i weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni ar gyfer ein cymunedau, darparu atyniad o'r radd flaenaf i dwristiaid a chyflawni'r manteision economaidd blynyddol posibl i'r sir, yn enwedig y sectorau twristiaeth a lletygarwch sydd wedi cael y fath ergyd yn ystod y 12  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.1

12.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiad canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd D.M. Cundy i gymryd lle'r Cynghorydd P.M. Edwards fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Cynllunio.

 

13.

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 13.1 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

14.

PENDERFYNAID A WNAED pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol: