Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 22ain Hydref, 2024 12.15 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies, M. Donoghue, D. Owen a R. Sparks.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

3.1 – Cais Cynllunio PL/02167 – Adeiladu a gweithredu cyfleuster ailgylchu gwastraff anadweithiol, prosesu gwastraff a gwaith cysylltiedig i gynnwys adeiladu bwnd sgrinio yn Chwarel Cilyrychen, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3JE

Mae ei fab yn rhentu tir gan TRJ, rhiant-gwmni'r ymgeisydd

Mr H. Towns – Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi

3.1 – Cais Cynllunio PL/02167 – Adeiladu a gweithredu cyfleuster ailgylchu gwastraff anadweithiol, prosesu gwastraff a gwaith cysylltiedig i gynnwys adeiladu bwnd sgrinio yn Chwarel Cilyrchen, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3JE

Roedd un o'r gwrthwynebwyr i'r cais yn ffrind personol agos

 

3.

YSTRIED YR ADRODDIAD YNGHYLCH Y CAIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'I SAFLE YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CAIS:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

CAIS CYNLLUNIO PL/02167 - ADEILADU A GWEITHREDU CYFLEUSTER AILGYLCHU GWASTRAFF ANADWEITHIOL, PROSESU GWASTRAFF A GWAITH CYSYLLTIEDIG GAN GYNNWYS ADEILADU BWND SGRINIO, CHWAREL CILYRYCHEN, LLANDYBÏE, RHYDAMAN, SA18 3JE pdf eicon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd G.B Thomas a Mr H Towns wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

2.     Gan nad oedd y Cynghorydd W.E Skinner wedi bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle blaenorol, nid oedd yn gallu cymryd rhan yn y broses ystyried)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, gan fod y Cynghorydd G.B Thomas wedi datgani buddiant yn y cais cynllunio hwn yn gynharach, fod y cyfarfod bellach heb gworwm. O ganlyniad, nid oedd y Pwyllgor yn gallu bwrw ymlaen ag ystyried y cais a byddai'r ystyriaeth yn cael ei gohirio i gyfarfod yn y dyfodol.

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 MEDI 2024 pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12  Medi 2024 yn gofnod cywir.