Adeiladu a gweithredu cyfleuster ailgylchu
gwastraff anadweithiol, prosesu gwastraff a gwaith cysylltiedig i
gynnwys adeiladu bwnd sgrinio yn Chwarel Cilyrychen,
Llandybïe, Rhydaman SA14 3JE
(NODER:
1. Roedd Mr H. Towns wedi datgan
buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y buddiant
hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei
hystyried.
2. Ni aeth y Cynghorydd R.
Sparkes i'r ymweliad safle cynharach ac
nid oedd yn bresennol wrth i'r cais hwn gael ei
ystyried.
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu ar gyfer Mwynau a
Gwastraff at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n
gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio ar 15 Awst 2024) er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y
safle ac asesu ei effaith ar yr amgylchedd lleol.
Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad
ysgrifenedig (ac atodiad) y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn
rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r cynnig,
crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y
polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth
asesu'r cais.
Bu
aelod lleol yn annerch y Pwyllgor mewn perthynas â'r cais a
oedd yn cynnwys cyfeirio at:
· Dim manteision
i'r gymuned heb unrhyw swyddi newydd yn cael eu creu,
· effaith mwy o
draffig lorïau ar y brif ffordd ac ar hyd y ffyrdd bach o
Saron a Phen-y-groes gan fynd heibio ysgolion Blaenau a
Llandybïe;
· dim cyfeiriad at
y ffaith bod rhai adroddiadau ecoleg wedi'u gwneud y tu allan i'r
tymor
· dim cyfeiriad at
adroddiad d?r sylfaenol wedi'i wneud i asesu effaith y datblygiad
arfaethedig
· agosrwydd at
gartref plant cyfagos a gerddi cefn eiddo preswyl
· yr effaith ar
safon byw preswylwyr lleol
· y pwynt cyfyng ar
y briffordd ger yr ysgol gynradd leol
· uchder y bwnd ger
eiddo preswyl sy'n blocio sain i ryw raddau ond hefyd yn blocio
golau a ac mae plannu coed yn cynyddu'r uchder
· dim gwasgwr ar y
safle i alluogi'r Pwyllgor i asesu ei effaith s?n bosibl ar
breswylwyr lleol
· gosod datblygiad
diangen ar y gymuned.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff i
gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor ynghylch y cais a rhoddodd wybod
fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais
(yn amodol ar yr amodau) am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
|