3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 487 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD caniatáu'r
ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/04067
|
Adeiladu 14 o breswylfeydd fforddiadwy
(safle eithriedig) gyda gwaith seilwaith cysylltiedig ar dir ger
Heol Cilycwm, Llanymddyfri, SA20 0DU
|
PL/06479
|
Datblygiad Un Blaned yn cynnwys
un caban, un storfa goed, un gweithdy gwehyddu, un t? gwydr a
gweithdy, un sied storio, arae o baneli solar, llain lysiau gan
gynnwys cawell ffrwythau, perllan, dwy goedlan, gwely helyg a dôlar dir gyferbyn â
Th? Derwen, Penybanc, Llandeilo,
SA19 7TA
|
PL/06651
|
Newid defnydd tafarndy presennol
yn breswylfa yn Nhafarny Deri, Heol Ebenezer, Llanedi, Abertawe, SA4 0YT
|
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau gan yr Aelod lleol a wrthwynebai'r
cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:
· Roedd Tafarn y Deri
yn fusnes llewyrchus.
·Roedd y safle yn cael ei
feddiannu gan deulu a oedd yn rheoli'r dafarn ac a oedd yn lletya
ac yn annog grwpiau elusennol lleol.
· Byddai newid y lle'n breswylfa yn
golled fawr i'r pentref, a oedd yn llwyr gefnogi
Tafarn y Deri.
· Roedd yn darparu cyflogaeth i
bobl ifanc leol.
Ymatebodd y swyddogion i'r
materion a godwyd.
|
3.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais
cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â rhan
ogleddol safle'r cais.
PL/05187
|
Codi preswylfeydd newydd,
mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall
ar dir yn ,Cefncaeau,
Llanelli
|
3.3 PENDERFYNWYD
gwrthod y cais
cynllunio canlynol am y
rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth
Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
PL/06529
|
Annedd Angen Lleol (Ailgyflwyno
PL/04500 a wrthodwyd ar 18/10/2022) ar dir yn Old Hunt Kennels,
Llandybïe, Rhydaman, SA183NX
|
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a
oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· Pryderon y byddai methiant ar ran
yr Awdurdod i ddarparu cartrefi a gwaith i bobl leol yn cael
effaith ar yr ardal leol.
· Dim ond ychydig y tu allan i
ardal y Cynllun Datblygu Lleol oedd y safle datblygu ac roedd mewn
ardal oedd eisoes ag adeiladau.
· Roedd yr ymgeiswyr yn cefnogi'r
economi leol a phe baent yn cael eu gorfodi i symud byddai hynny'n
cael effaith ar yr ardal.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog
Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.
|
PL/06880
|
Adeiladu annedd (Ailgyflwyno PL/05554 a wrthodwyd ar
14/08/2023) ar dir yn 60 Heoly
Felin, Pontyberem, Llanelli, SA155DB
|
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|