Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Phillips.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cyng. S.M. Allen

3: PL/04018 – Gwaith Cynllunio Ôl-weithredol yn: Allen & Partners Veterinary Services – cwblhawyd yn 2016 – gan gynnwys gwelliannau i'r Cynllun Safle arfaethedig ar gyfer mynediad o'r briffordd ac iddi ar gyfer gwell cynllun safle a darpariaethau parcio. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys codi 2 Loches Canopi i ddarparu mynediad/lle aros dan do u tu allan i Allen and Partners Veterinary Surgery, Maes y Felin, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0QN

Mae ganddo gysylltiad personol agos ag un o'r ymgeiswyr

Y Cyng. M. Thomas

3: PL/04643 – Adeiladu wal gynnal gaergawell, Clayton House, Heol Gwscwm, Porth Tywyn, SA16 0BT

Wedi siarad â nifer o'r preswylwyr, ymweld â'r safle a siarad â'r ymgeiswyr ac ysgrifennu ar eu rhan

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 956 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39937

Proposed Residential Development at land adjacent to Maes y Berllan, Llangyndeyrn, Kidwelly, SA17 5BL

PL/04018

Gwaith Cynllunio Ôl-weithredol yn: Allen & Partners Veterinary Services - a gwblhawyd yn 2016 - gan gynnwys gwelliannau i'r Cynllun Safle arfaethedig ar gyfer mynediad o'r briffordd ac iddi ar gyfer gwell cynllun safle a darpariaethau parcio. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys codi 2 Loches Canopi i ddarparu mynediad/lle aros dan do y tu allan i Allen And Partners Veterinary Surgery, Maes y Felin, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0QN

 

(Noder: Roedd y Cynghorydd S.M. Allen wedi datgan buddiant yn gynharach yn y cais hwn; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor)

PL/04643

Adeiladu wal gynnal gaergawell, Clayton House, Heol Gwscwm, Porth Tywyn, SA16 0BT

 

(Noder: Roedd y Cynghorydd M. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'w mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor)

PL/04823

Amrywio amod 1 o Gais Cynllunio S/38106 (estyniad o ran amser], ar safle 5 a 6, tir ger hen Safle Grillo, Porth Tywyn, SA16 0LT

PL/04824

Amrywio Amod 1 o Gais Cynllunio S/38251 (er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl), hen Waith Grillo, Heol Harbwr, Porth Tywyn, SA16 0LY

PL/04825

Amrywio Amod 1 o gais cynllunio S/38105 (estyniad o ran amser) ar Safle 4, Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain), Porth Tywyn, SA16 0LT

 

3.2     PENDERFYNWYD gohirio rhoi ystyriaeth i'r cais canlynol er mwyn gallu ymweld â'r safle

PL/04430

Datblygiad preswyl ar dir oddi ar Heol y Parc, Hendy, Abertawe, SA4 0XZ

 

(Noder: Am 1.20 p.m. wrth ystyried yr eitem hon gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod. Bu i'r Is-gadeirydd yn cadeirio)

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

·       Gwrthwynebiadau gan 75 o breswylwyr lleol a'r Cyngor Cymuned

·       Diogelwch priffyrdd

·       Diffyg parcio oddi ar y stryd a pharcio i ymwelwyr

·       Roedd y CDLl wedi nodi'r safle ar gyfer 5 t?. Roedd y cais presennol ar gyfer 7 ac ni nodwyd y safle ar gyfer datblygiad o fewn y CDLl sy'n dod i'r amlwg

·       Colli cynefinoedd bywyd gwyllt a choridor bywyd gwyllt

·       Materion perchnogaeth tir

·       Cyflwyno cynlluniau diwygiedig ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori

·       Presenoldeb clymog Japan

·       Polisi Cynllunio 6 yn cefnogi gwrthod y safle

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

 

Yn dilyn y sylwadau uchod, cafodd ei gynnig a'i gario bod ystyriaeth o'r cais yn cael ei ohirio er mwyn gallu ymweld â'r safle i weld y safle mewn perthynas â phryderon y gwrthwynebwyr

 

3.3     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol tra'n aros am gyflwyno a gwerthuso gwybodaeth ychwanegol

PL/03849

Amrywio Amod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir.

5.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 3 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Chwarter 3 ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022 ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio ac , yn nodedig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer chwarteri blaenorol yn 2021/22.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau