Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD gwrthod y ceisiadau cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:-:-
|
||||||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 1 A 2 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth i adroddiad perfformiad y gwasanaeth cynllunio, ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2 am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30Medi 2022 ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio ac, yn nodedig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol mewn perthynas â 2021/22.
O ran cwestiwn ar ddangosydd 3 a nifer y targedau mawr y penderfynwyd arnynt y tu allan i'r dyddiad targed, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio eu bod yn ymwneud yn bennaf â cheisiadau cynllunio hanesyddol, a byddai rhai ohonynt wedi bod yn y system am gyfnod sylweddol. Wrth i'r adran weithio trwy'r ceisiadau sy'n weddill, byddai'r ffigurau'n gwella gydag amser.
O ran Dangosydd 12 a'r cais am gostau apêl, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod y nodyn a fanylwyd yn y dangosydd sy'n ymwneud â 2019 wedi'i gynnwys mewn camgymeriad ac y byddai'n cael ei dynnu o adroddiadau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'n trefnu bod adroddiad ar ffigyrau'r trydydd Chwarter yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 TACHWEDD 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriwyd at Gais Cynllunio PL/04526 ac at gyflwyniad hwyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Caerfyrddin, yr oedd ei gynnwys wedi'i ddarllen i'r Pwyllgor. Gofynnwyd i'r cofnodion gael eu diwygio i gofnodi'r mater.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 10 Tachwedd, 2022 yn gywir. |