Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd S.M. Allen. |
|||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 DNS/00709 - (Cyf PEDW: DNS/3260565) -Fferm solar arfaethedig ar y ddaear, gallu cynhyrchu oddeutu 36 MW dros 65 hectar o dir gyda hyd oes o hyd at 40 mlynedd. Fferm Wynt Bryn y Rhyd, Llanedi, Abertawe, SA4 0FD
Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llanedi, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorai, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y cais.
Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd (Dros Dro), yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru. Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod DNS/00709.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|