Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 484 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.3.1        PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00596

Addasu 2 ysgubor yn llety gwyliau gyda garej â lle i dri char yn yr ysguboriau ym Mryn Niwl, Meidrim, Caerfyrddin SA33 5QS

PL/01088

Creu un llain i deuluoedd sy’n deithwyr gydag un uned breswyl sefydlog, carafan deithiol, ystafell ddydd/aml-bwrpas a man parcio a gwelliannau i'r mynediad presennol a gwelliannau tirlunio ar dir a llain yng nghefn Rhodfa Frondeg, Llanelli, SA15 1QD

PL/02740

Gosod peiriant casglu presgripsiynau awtomataidd ym Meddygfa Avenue Villa, Heol Brynmor, Llanelli, SA15 2TJ

 

3.3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod:-

 

PL/01515 

Cais i adeiladu annedd menter wledig (ailgyflwyno cais w/39836 a gafodd ei wrthod ar 03/12/2020) ar dir sy'n rhan o Fferm Trewern, Ffordd Llysonnen, Abernant, Caerfyrddin, SA33 5EW

 

Yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i wrthod y cais, roedd y Pwyllgor o'r farn fod y cais yn dderbyniol yng nghyd-destun paragraff 4.4.1 o TAN6 'Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy' gan fod cyfiawnhad menter wledig dros yr annedd yn seiliedig ar y canlynol:

 

1.    Roedd angen byw ar y safle er mwyn i'r fenter weithredu'n briodol ac er diogelwch a lles y stoc.

2.    Y lefelau stocio presennol a maint gweithrediadau'r fferm.

3.    Roedd gan yr ymgeisydd 3 blynedd o gyfrifon ariannol yn dangos bod y fenter yn gadarn yn ariannol.

4.    Ni fyddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar ymddangosiad a chymeriad traddodiadol y lleoliad oherwydd y clwstwr presennol o dai gerllaw.

 

Mae'r cais yn gyson â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â pharhad y cenedlaethau o ran ffermio.

 

Rhoddir caniatâd cynllunio yn amodol ar y canlynol:-

 

1.    Bod yr annedd newydd arfaethedig yn cael ei hystyried yn Annedd Menter Wledig gyda'r amodau safonol yn cael eu gweithredu.

2.    Bod y t? arfaethedig yn cael ei glymu gan amod i dir y fferm er mwyn ei atal rhag cael ei werthu yn y dyfodol fel endid ar wahân i'r fferm ei hun.

3.    Bod y llety presennol yn cael ei symud cyn pen dau fis o feddiannu'r t? arfaethedig.

4.    Bod yr amodau priffyrdd fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn cael eu gweithredu.

 

3.3.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/40030

Annedd menter wledig arfaethedig i gynnwys mynediad i gerbydau, a gosod gwaith trin carthion bach, yn Moelfryn, Pantybwlch, Castellnewydd Emlyn, SA38 9JE

 

Trafododd y Pwyllgor y cais a chytunodd yr aelodau, gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â'r amodau fel y nodwyd yn yr adroddiad ac y cytunwyd arnynt flaenorol gan y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020, y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

14EG HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 14 Hydref, 2021 gan eu bod yn gywir.

 

4.2

26AIN HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 26 Hydref, 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau