Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M. Charles

3.              3: PL/01737 – Preswylfa ddeulawr newydd yn lle'r hen un, Pencae, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JP

Ymgeisydd yn berthynas agos.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 887 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/20622

Datblygu hyd at bymtheg o dai a ffordd fynediad gysylltiedig - Tir ym Mronwydd Arms, Caerfyrddin.

 

(NODER:

1.Mae caniatâd hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 sy'n cynnwys cyfraniad tuag at gyfleusterau chwarae yn yr ardal.

2. Y Pennaeth Cynllunio i gael ei awdurdodi i drafod cyfraniad gyda'r datblygwr a rhoi gwybod i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd Cynllunio am y trafodaethau hynny)

S/40672

Gwaredu amodau 4 (Deiliaid a'u dibynyddion), 5 (Adfer tir) a 6 (Caniatâd dros dro am 4 blynedd) o S/38535 – Helaethu'r Safle Teithwyr a roddwyd ar 28/02/20 – Tir Hillside View, Yr Hendy, Llanelli, SA14 8JX.

PL/00103

Cadw'r llecyn manwerthu presennol ac 1 fflat breswyl a chreu 4 fflat breswyl hunangynhwysol ychwanegol o fewn ôl troed byngalo preswyl pâr. Cynigion i gynnwys adeiladu estyniad dormer i'r to er mwyn hwyluso datblygiad yn 45 Heol Penllwynrhodyn, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9NN.

·       (NODYN

·       1. Am 1:00pm, wrth ystyried y cais hwn, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog, yn unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.

2. Ar ôl penderfynu ar y cais hwn, torrodd y Pwyllgor am ginio am 1.30pm gan ailymgynnull am 2.00pm.]

PL/00588

Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer 13 preswylfa a rhyddhau amodau cysylltiedig 4,5,6,7,8,9,10,11 a 12 yn unol â chaniatâd amlinellol (cyf S/36817) – Tir yn hen Wasanaeth Labordy Cenedlaethol CNC, Lôn Pen y Fai , Ffwrnes, Llanelli, SA15 4EL.

 

Roedd sylw wedi dod i law gan breswylydd lleol ynghylch mynediad i'w eiddo wrth adeiladu'r datblygiad, pe bai caniatâd cynllunio'n cael ei roi, a gofynnodd am sicrwydd y byddai mynediad yn cael ei gynnal bob amser. Roedd hefyd o'r farn y byddai ymweliad safle (fel y cytunwyd gan y pwyllgor ar 27 Mai) o fudd i drigolion lleol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod ei fod wedi derbyn llythyr gan breswylydd lleol ac aeth ymlaen i ddarllen ei gynnwys i'r pwyllgor. Roedd yn cynnwys cyfeiriad at leoliad lleiniau 2,3 a 4 o fewn y datblygiad sy'n edrych dros ei eiddo ac y byddai o ganlyniad, yn colli preifatrwydd ynghyd ag awgrym y dylid cyfyngu'r datblygiad i 10 o breswylfeydd.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PL/01737

Preswylfa ddeulawr newydd yn lle'r hen un – Pencae, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JP

 

(NODER: Gan fod y Cynghorydd M. Charles eisoes wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, gwnaeth ail-ddatgan y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei gylch)

PL/02156

Estyniad llawr cyntaf yng nghefn yr eiddo, adeiladu t? allan preswyl ategol yn lle'r hen un a datblygiad cysylltiedig iddo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 AWST 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Awst 2021 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau