Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Madge.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 806 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40692

Bwriad i adeiladu hyd at 202 o unedau gyda gwaith tirlunio a seilwaith cysylltiedig - Cwm y Nant (Tir i'r gogledd o Gors Fach), Dafen, Llanelli, SA14 8NB

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol ynghylch y cais a oedd yn cynnwys pryderon a chwestiynau mewn perthynas â:

·         Mynediad i safle'r datblygiad oherwydd y cynnydd mewn traffig.

·         Problemau posibl o ran parcio.

·         Pryderon diogelwch yngl?n â'r pyllau lleihau.

·         Pryderon ynghylch draenio d?r budr a llifogydd.

·         Problemau rheoli safle fel llwch a mwd yn ystod y gwaith adeiladu.

·         Darpariaeth ddigonol o Gyllid 106 tuag at addysg.

 

Ymatebodd swyddogion i'r materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad.

PL/01773

Newid dwy ysgubor amaethyddol yn llety i dwristiaid a rhandy preswyl ar Fferm Pencoed, Ffordd Pencoed Isaf, y Bynea, Llanelli, SA14 9TW

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

·         Cynnydd yn y traffig.

·         Pryderon diogelwch ar y ffyrdd.

·         Diffyg llefydd i dynnu i mewn.

·         Problemau presennol wrth gyffordd Heol yr Orsaf.

·         Diffyg llwybr troed.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd.

PL/02054

Dymchwel yr estyniadau un llawr presennol yn y cefn ac ailadeiladu estyniad deulawr yn y cefn - 29 Heol Stepney, Pwll, Llanelli, SA15 4AA

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 24 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau