Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 27ain Mai, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M. Charles

3.             3. Rhanbarth y Dwyrain - Penderfynu Ar Geisiadau Cynllunio - [E/32703]

Aelod o Gyngor Cymuned Llanegwad.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 705 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

[Noder: Gan fod y Cynghorydd M. Charles wedi datgan buddiant yn y cais canlynol yn gynharach fel aelod o Gyngor Cymuned Llanegwad, cyflwynodd sylwadau fel yr Aelod Lleol, ond nid oedd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau na'r bleidlais.]

 

E/32703

ADEILADU, GOSOD A GWEITHREDU TYRBIN GWYNT 100KW HYD AT 47M I FLAEN Y LLAFN, YNGHYD Â SEILWAITH ATEGOL SY'N CYNNWYS LLWYBR MYNEDIAD A CHYSYLLTIAD Â'R RHWYDWAITH DOSBARTHU TRYDAN LLEOL, TIROEDD PENCAU, GER FFERM LLWYNGWYN, FELIN-GWM, CAERFYRDDIN, SA32 AR GYFER NORVENTO WIND ENERGY UK LTD - TREVOR HOWE

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais ar ran y Cyngor Cymuned a'r preswylwyr hynny ac yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roedd yn cynnwys pryderon ynghylch y goblygiadau ar y cynefin a'r bywyd gwyllt.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 566 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle. Bydd yr ymweliad safle yn cael ei drefnu yn amodol ar Reoliadau/Canllawiau Covid Llywodraeth Cymru ac yn unol â hwy ac yn dilyn asesiad risg a gynhelir gan yr Awdurdod hwn.

 

PL/00588

CAIS MATERION A GADWYD YN ÔL AR GYFER 13 O ANHEDDAU A CHYFLAWNI AMODAU CYSYLLTIEDIG 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11 A 12 YN UNOL Â CHANIATÂD AMLINELLOL (CYF. S/36817) - TIR GWASANAETH LABORDY CENEDLAETHOL CYFOETH NATURIOL CYMRU GYNT, LÔN PEN Y FAI , FFWRNES, LLANELLI, SA15 4EL

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac roedd y prif bryderon yn ymwneud â'r canlynol:-

 

·       Uniondeb y cynlluniau,

·       Yr effaith andwyol ar amwynder trigolion cyfagos

·       Y newid mewn lefelau o ganlyniad i'r datblygiad yn golygu ei fod yn ormesol wrth ystyried yr eiddo cyfagos gan achosi preswylwyr i golli preifatrwydd yn enwedig mewn perthynas â llain 1.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Mynegwyd bod rhai aelodau'n ei chael yn anodd clywed holl bwyntiau'r gwrthwynebydd gan fod ansawdd y sain yn wael, ac ar ôl derbyn y sylwadau gan y gwrthwynebwyr a oedd yn bresennol drwy e-bost, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Aelodau'r Pwyllgor glywed pob gwrthwynebiad drwy eu darllen yn glywadwy i'r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y pryderon a godwyd mewn perthynas â'r gwrthwynebiadau ynghylch colli preifatrwydd a gwedd y datblygiad, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal archwiliad safle er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r effaith ar yr eiddo cyfagos. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Er mwyn ceisio cyngor cyfreithiol, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 15 munud am 11:45am. Am 12:00pm, ailymgynullodd y Pwyllgor ac o ystyried y gwrthwynebiadau, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle yn amodol ar Reoliadau Covid Llywodraeth Cymru ac ar ôl i'r Awdurdod hwn gynnal asesiad risg.

 

 

4.

HYD Y CYFARFOD pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Am 1.00 p.m., yn unol â Rheol 9 o Weithdrefn y Cyngor, tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr a chynigiodd fod y cyfarfod yn cael ei ohirio tan 1.30 p.m. Fodd bynnag, roedd gan nifer o aelodau gyfarfodydd eraill wedi'u trefnu ar gyfer y prynhawn hwnnw ac nid oeddent yn gallu dychwelyd am 1.30 p.m. Felly

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio ystyried yr eitemau canlynol tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a gynhelir ddydd Mawrth, 8 Mehefin, 2021 am 10:00am:-

 

·       E/40650 - Dymchwel ysgol a chodi datblygiad preswyl 6 preswylfa, dyluniad manwl o'r lleoliad, dyluniad, gwedd allanol a gwaith tirweddu yn y datblygiad, Ysgol Gynradd Gymunedol Nantygroes, Milo, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3NZ

 

·       PL/01427 – Estyniad deulawr ar ochr y breswylfa, 67 Heol Pontarddulais, T?-croes, Rhydaman, SA18 3QA

 

·       Llofnodi bod cofnodion cyfarfod y pwyllgor ar 29 Ebrill, 2021 yn gofnod cywir