Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Madge a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00739

Adeiladu adeilad ffrâm bren ar wahân ar gyfer bwyta yn yr awyr agored gyda man storio yn Old Forest Arms, Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 508 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1 PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/01243

Garej newydd gyda llety hyblyg yn y llofft i ddarparu swyddfa yn y cartref/llety ategol yn 15 Rhodfa'r Brenin Sior, Llanelli, SA15 5LY

 

4.2 PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod a hefyd gosod amod priodol arall, a fydd yn cael ei eirio gan y Pennaeth Cynllunio, a fydd yn nodi gofyniad i blannu cloddiau/coed fel math o sgrin o flaen yr eiddo preswyl i’r de-ddwyrain o safle’r cais:-

 

PL/01105

Addasu byngalo tair ystafell wely i d? chwe ystafell wely yn Woodland Manor, Ffordd Pontardulais, Llangennech, Llanelli, SA14 8YA

Cafwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais a oedd yn ailadrodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac roedd yn cynnwys pryderon o ran yr effaith bosibl y gallai'r datblygiad arfaethedig ei chael ar breifatrwydd eiddo cyfagos yn rhinwedd cwympo coed ar y safle yn flaenorol, gosod ffenestri ar lawr cyntaf y datblygiad sy'n edrych dros yr eiddo hynny a lleoliad busnes salon ewinedd yn y garej.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Wrth ystyried y sylwadau ar yr effaith bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar eiddo preswyl cyfagos i'r de ddwyrain, mynegodd y Pwyllgor y farn y dylid darparu rhyw fath o sgrinio naturiol ychwanegol i ddiogelu eu preifatrwydd er enghraifft drwy blannu coed/cloddiau.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

5.1

4 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.

 

5.2

16 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 16 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau