Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 16eg Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D.M. Cundy

4: PL/01050 - Dymchwel rhifau 8-16 Stryd y Farchnad ac ailddatblygu i ddarparu datblygiad arcêd defnydd cymysg gan gynnwys gwesty, unedau manwerthu, swyddfeydd a bar/bwyty (dosbarth A1/A3/B1/C1);

Mae mewn cyswllt rheolaidd â phensaer y cynllun ac mae’n aelod o bwyllgorau y mae'r ddau'n aelodau ohonynt;

D. Jones

 

 

4: PL/01050 - Dymchwel rhifau 8-16 Stryd y Farchnad ac ailddatblygu i ddarparu datblygiad arcêd defnydd cymysg gan gynnwys gwesty, unedau manwerthu, swyddfeydd a bar/bwyty (dosbarth A1/A3/B1/C1);

Mae ar yr un pwyllgorau â rhywun sy'n rhan o'r cynllun;

J.D. James

 

 

4: PL/01050 - Dymchwel rhifau 8-16 Stryd y Farchnad ac ailddatblygu i ddarparu datblygiad arcêd defnydd cymysg gan gynnwys gwesty, unedau manwerthu, swyddfeydd a bar/bwyty (dosbarth A1/A3/B1/C1);

Mae'n lled adnabod unigolyn sy'n rhan o'r cynllun;

Eirwyn Williams

 

 

3: PL/00725 - Diddymu amodau 7, 11, 13, a 22 ar W/31728 (manylion am archeolegydd penodedig, datganiad ynghylch y dull adeiladu, manylion am glerc gwaith ecolegol a hydrolegol, astudiaeth o ran derbyniad signal teledu) tir i'r gogledd o Esgairliving Farm, Rhydcymerau, Llandeilo, SA19 7RG.

Bydd polyn trydan sy'n gysylltiedig â'r cynllun yn croesi tir y Cynghorydd Williams.

 

3.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 601 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gan fod y Cynghorydd J.E. Williams wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39819

[Nid W/39810]

Newid defnydd y tir yn gwrtil preswylfa a newid ysgubor yn rhandy i'r brif breswylfa, Gellir Drygar, Heol Trawsdre, Cefneithin, Llanelli, SA14 7HL;

 

PL/00725

 

 

Diddymu amodau 7, 11, 13, a 22 ar W/31728 (manylion am archeolegydd penodedig, datganiad ynghylch y dull adeiladu, manylion am glerc gwaith ecolegol a hydrolegol, astudiaeth o ran derbyniad signal teledu) tir i'r gogledd o Esgairliving Farm, Rhydcymerau, Llandeilo, SA19 7RG.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 737 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd D.M Cundy a'r Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiannau yn y mater hwn yn gynharach, a gadawodd y Cynghorwyr y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno. Roedd y Cynghorydd J.D. James wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod.]

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/01050

Dymchwel rhifau 8-16 Stryd y Farchnad ac ailddatblygu i ddarparu datblygiad arcêd defnydd cymysg gan gynnwys gwesty, manwerthu, ac unedau swyddfa a bar/bwyty (dosbarth A1/A3/B1/C1);