Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Joseph Davies

3. PL/00778 - Addasiadau ac estyniad i'r llawr cyntaf / to yn S?n y Gân, Llangadog, SA19 9HP

[cafodd yr eitem ei thynnu'n ôl]

Ymgeisydd yn berthynas.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 563 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr eitem hon wedi cael ei thynnu'n ôl, hyd nes y ceir adolygiad o'r dogfennau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a lefelau ffosffad yr oedd angen eglurhad pellach arnynt ar lefel genedlaethol i bob awdurdod lleol.

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 451 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr eitem hon wedi cael ei thynnu'n ôl, hyd nes y ceir adolygiad o'r dogfennau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a lefelau ffosffad yr oedd angen eglurhad pellach arnynt ar lefel genedlaethol i bob awdurdod lleol.

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 661 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr eitem hon wedi cael ei thynnu'n ôl, hyd nes y ceir adolygiad o'r dogfennau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a lefelau ffosffad yr oedd angen eglurhad pellach arnynt ar lefel genedlaethol i bob awdurdod lleol.

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

I DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 16 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN YMWNEUD Â GWYBODAETH MEWN PERTHYNAS Â "GWYBODAETH Y GELLID HONNI BRAINT GYFREITHIOL BROFFESIYNO MEWN PERTHYNAS Â HI MEWN ACHOSION LLYS CYFREITHIOL, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

GWRTHOD CANIATÂD CYNLLUNIO CYFEIRNOD S/21597

Cofnodion:

[Noder: Roedd y Cynghorwyr I.W Davies, C. Jones a G.B Thomas wedi gadael y cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon gan nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2019 a 14 Tachwedd, 2019 pan ystyriwyd y cais.  Fel aelod dirprwyol o'r pwyllgor, gadawodd y Cynghorydd D. Cundy y cyfarfod hefyd yn ystod ystyriaeth o'r eitem hon.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar yr apêl yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio, Cyfeirnod S/21597 cofnod penderfyniadau dyddiedig 14 Tachwedd 2019.  Nododd y Pwyllgor fod 8 rheswm polisi dros wrthod y cais (4 ar sail sylweddol).

 

Dywedodd y swyddogion eu bod wedi bod yn paratoi achos y Cyngor i amddiffyn yr apêl a rhannwyd y cyngor a ddarparwyd gan y Cwnsler.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod swyddogion cynllunio yn hysbysu'r Apelydd bod yr Awdurdod yn bwriadu amddiffyn yr Apêl fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau