Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 7fed Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards a D. Jones

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 546 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/37678

Cynnig i osod mast telathrebu 22.5m sy'n cynnwys tri antena, dwy ddysgl microdon, ynghyd â soser loeren ar bolion pell, cabinetau offer ategol a cheblau gyda chlos â ffens ar dir i'r de o Ystrad Ffin, Rhandir-mwyn, Llanymddyfri, SA20 0PG

E/39715

Clirio gordyfiant a chreu maes parcio graean newydd i leihau tagfeydd ar Heol Pen-y-banc yn ystod diwrnodau gêm a nosweithiau hyfforddi yng Nghlwb Rygbi Pen-y-banc. Heol Pen-y-banc, Rhydaman, SA18 3QS

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail y byddai'r anawsterau parcio presennol a geir yn yr ardal ar ddiwrnodau gêm/hyfforddi yn cael eu lleddfu drwy ddarparu'r maes parcio arfaethedig ac ni fyddai unrhyw draffig cerbydau ychwanegol yn cael ei greu. Roedd y cynnig hefyd yn golygu y byddai modd creu mynediad i'r cae chwarae at ddefnydd cerbydau brys yn unig a byddai mesurau lliniaru bioamrywiaeth yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r datblygiad

 

Cyfeiriwyd yn gyffredinol at ddatblygwyr yn ymgymryd â gwaith ar y safle cyn cyflwyno cais cynllunio a mynegwyd barn bod yn rhaid iddynt gysylltu â'r Adran Gynllunio os oeddent yn bwriadu clirio safle i'w ddatblygu

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad.

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 430 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

4.1

bod cais cynllunio W/40091 yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor yn ystyried:

 

a)    Bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros yr annedd yn seiliedig ar y lefelau stoc presennol, maint cyffredinol erwau'r fferm a graddfa gwaith y fferm.

 

b)    O ran lleoliad y datblygiad, nid oedd unrhyw adeilad priodol arall ar iard y fferm. Roedd gan Bolisi H5 y CDLl ragdybiaeth yn erbyn troi'r adeiladau gwledig sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith yn breswylfa. Roedd yn amhriodol adeiladu estyniad/rhandy ar gyfer y ffermdy presennol oherwydd byddai'n edrych dros eiddo cyfagos a byddai unrhyw ddatblygiad i ochr chwith adeiladau'r fferm yn atal datblygiad fferm yn yr ardal honno yn y dyfodol.

 

c)    Bod y cais yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â chenedlaethau'n parhau i ffermio.

 

4.2

Bod caniatâd yn cael ei roi yn amodol ar yr amod bod yr annedd newydd arfaethedig yn cael ei hystyried yn Annedd Menter Wledig ac ynghlwm wrth adeiladau'r fferm i'w hatal rhag cael ei gwerthu yn y dyfodol fel endid ar wahân i'r fferm

4.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio i ychwanegu amodau priodol ychwanegol at y caniatâd cynllunio er mwyn cynnwys y gofyniad i ddarparu llain welededd wrth fynedfa'r safle ar gyfer diogelwch priffyrdd

 

W/40091

Annedd menter wledig ar dir yn Llwynonnill Fawr, Heol Llanddarog, Llanddarog, SA32 8AL

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail bod yr ymgeiswyr wedi bod yn ffermio ers rhyw 40 mlynedd ac roeddent bellach am symud i'r annedd arfaethedig i sicrhau dilyniant teuluol er mwyn i un o'u meibion symud i'r ffermdy presennol i helpu gyda gwaith y fferm. Roedd ganddynt 1300 o ddefaid ar y fferm 90 hectar (roeddent yn berchen arno) a 20 hectar (roeddent yn ei rentu) a'r bwriad oedd arallgyfeirio i wartheg bîff. Roedd y fferm hefyd yn gweithredu busnes gwellt a gwair. Gan fod holl adeiladau presennol y fferm yn cael eu defnyddio ac nad oeddent ar gael i'w haddasu'n annedd, dadleuwyd bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi H5 Cynllun Datblygu Lleol Caerfyrddin ac mai bwriad y Polisi Gwledig oedd hyrwyddo gofynion ffermio.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at adroddiad y Pennaeth Cynllunio yn manylu ar y rhesymau dros argymell gwrthod cais W/40091 ar y sail bod y cynnig yn groes i Bolisïau GP1 a GP2 y Cynllun Datblygu Lleol. Er y rhoddwyd ystyriaeth i'r rhesymau hynny dros wrthod y cais, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, oherwydd teimlwyd:-

 

1.     Bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros yr annedd yn seiliedig ar y lefelau stoc presennol, maint cyffredinol erwau'r fferm a graddfa gwaith y fferm.

2.     O ran lleoliad y datblygiad, nid oedd unrhyw adeilad priodol arall ar iard y fferm. Roedd gan Bolisi H5 y CDLl ragdybiaeth yn erbyn troi'r adeiladau gwledig sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith yn breswylfa. Roedd yn amhriodol adeiladu estyniad/rhandy ar gyfer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

5.1

3YDD RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3 Rhagfyr, 2020 gan eu bod yn gywir.

5.2

15FED RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2020 gan eu bod yn gywir.