Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 30ain Mehefin, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 69189754#. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.D. James.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Cynghorydd/Cynghorwyr

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Gilasbey

4.1 - S/38282

Bwriad i adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 174 o ddisgyblion a Meithrinfa ar gyfer 30 o blant sy'n cynnwys mynediad cysylltiedig, maes parcio, cae chwaraeon, maes chwarae amlddefnydd a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. Ar dir i'r dwyrain o Barc Pendre, Cydweli, SA17 4AJ

Mae'r Cynghorydd Gilasbey wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect ac felly roedd ganddi eisoes farn ar y mater.

 

Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gwenllian

Cydweli

D. Cundy;

C. Jones;

D. Jones;

A. Lenny;

D. Phillips;

G.B. Thomas.

4.3 - S/39358 –

Newid defnydd yr eiddo o breswylfa Dosbarth C3 i Gartref Preswyl Plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF.

Nid oedd y cynghorwyr yn bresennol yng nghyfarfod ymweliad safle'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 967 KB

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/40029

Adeiladu pedair preswylfa, a'r holl waith cysylltiedig ar dir yn Ffordd y Glowyr, Betws, Rhydaman,

SA18 2JZ

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1     PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/38282

Bwriad i adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 174 o ddisgyblion a Meithrinfa ar gyfer 30 o blant sy'n cynnwys mynediad cysylltiedig, maes parcio, cae chwaraeon, maes chwarae amlddefnydd a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. Ar dir i'r dwyrain o Barc Pendre, Cydweli, SA17 4AJ

 

(NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.)

 

S/39961

Estyniad deulawr arfaethedig ac addasu garej yn rhannol yn 14 Llys Cilsaig, Dafen, Llanelli, SA14 8QT

 

 

4.2     PENDERFYNWYD y dylid derbyn y rhesymau gwrthod, yn seiliedig ar y rhesymau a ddarparwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Chwefror 2020, a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio: -

 

S/39358

Newid defnydd yr eiddo o breswylfa dosbarth C3 i Gartref Preswyl Plant dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF

 

(NODER: Nid oedd y  Cynghorwyr D. Cundy, C. Jones, D. Jones, A. Lenny, D. Phillips a G.B. Thomas ,ar ôl datgan diddordeb yn gynharach, yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020, ac er iddynt aros yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau, ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio ar benderfyniad yr adroddiad).

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 992 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1     PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39871

Addasu sgubor yn llety gwyliau ym Mhantybarcud, Felindre, Llandysul, SA44 5XJ

 

W/40201

Dymchwel y gegin, yr ystafell ymolchi a'r adeilad allanol presennol. Adeiladu estyniad unllawr â tho gwastad i'r breswylfa er mwyn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi yn 53 Hillcroft, Heol Blaenhirwaun, Drefach, Llanelli, SA14 7AJ.

 

 

5.2     PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/39913 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y barnwyd fod y datblygiad arfaethedig yn unol â Pholisïau H5, SP15 a TSM4, a bod yr amodau angenrheidiol yn cael eu gosod.

 

W/39913

Addasu prif adeilad y tu-allan, dymchwel ac ailadeiladu adeilad presennol y tu allan ynghyd â gwneud estyniad cysylltiol er mwyn ffurfio dwy uned llety gwyliau yn y Bwlch, Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9NW

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] ei fod wedi derbyn e-bost gan yr asiant yn egluro bod yr adeilad newydd a gynigwyd, er ei fod ar ffurf deulawr, yn darparu llety unllawr yn unig. Fodd bynnag, roedd yr asiant yn deall ac yn gwerthfawrogi'r rheswm drafft dros wrthod y cais yng nghyd-destun y polisi.

 

Gwnaed sylw gan yr Aelod lleol, a nododd ei fod yn cefnogi’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, a nododd mai nod y datblygiad oedd addasu hen dwlc mochyn yn llety i ymwelwyr trwy ailddefnyddio'r cerrig gwreiddiol er mwyn cadw cymeriad yr adeilad.  Cyfeiriwyd at adroddiad a ddatblygwyd gan Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Caerfyrddin gan nodi pryderon bod ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl ac yr ateb i gynaliadwyedd oedd annog Twristiaeth lle bo hynny'n bosibl.  Mynegodd yr Aelod lleol yn gryf na ddylid atal yr ymgeiswyr rhag dilyn y datblygiad arfaethedig a oedd yn hybu twristiaeth yn yr ardal.  Yn ogystal, yn groes i argymhelliad y Swyddogion i wrthod y cais, y teimlad oedd y byddai'r estyniad yn welliant ac nad oedd yn cael ei ystyried yn newid helaeth, ac o ganlyniad, cynigiwyd caniatáu'r cais, ac eiliwyd hynny.

 

Ategodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr argymhellwyd gwrthod y cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y datblygiad arfaethedig yn gyfystyr â newid, ymestyn ac ailadeiladu helaeth i hwyluso'r broses o greu dwy uned wyliau ac oherwydd hyn, fe'i hystyriwyd yn groes i Bolisïau TSM4 a H5 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Caerfyrddin 2014 a pharagraff 3.4.1 o Nodyn Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd Chwefror 2014.

 

Consensws y Pwyllgor oedd bod dehongliad y cais yn oddrychol.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr amodau angenrheidiol.

 

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

6.1

11EG CHWEFROR 2020; pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Chwefror, 2020 yn gofnod cywir.

 

 

6.2

27AIN CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 yn gywir.

 

 

6.3

4YDD MAWRTH 2020. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020, gan eu bod yn gywir.