Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.C. Jones a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Dot Jones

5  – Cais S/39358 newid defnydd preswylfa o Ddosbarth C3 i Gartref preswyl plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF

Roedd y g?r yn gysylltiedig â'r ymgeisydd o'r blaen;

Y Cynghorydd Dot Jones

 

6 - Cais W/39441 bwriad i agor Canolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands yn Uned 1, Parc Maes Yr Eithin, Cross Hands, Llanelli, SA14 6SY;

Wedi siarad am y mater hwn mewn cyfarfodydd cymuned lleol.

John Thomas (Uwch-swyddog Rheoli Datblygu)

6 - Cais W/39822 estyniad i ddarparu storfa o ran peiriannau, gwellt a gwasarn yn Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6UT

Ymgeisydd yn berthynas

 

4.

S/38285 - ADEILADU DATBLYGIAD PRESWYL SY'N CYNNWYS HYD AT 210 O UNEDAU YNGHYD Â GWAITH TIRWEDDU A SEILWAITH CYSYLLTIEDIG AR DIR YN NOC Y GOGLEDD, SEASIDE, LLANELLI, SA15 2LY pdf eicon PDF 709 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.1 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 12 Rhagfyr 2019) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor weld yr effaith y gallai'r datblygiad ei chael yn weledol ac o ran y rhwydwaith ffyrdd lleol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/38285 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac ar yr amod ychwanegol na fydd unrhyw waith yn dechrau ar y safle hyd nes bod y gwaith bwriadedig o wella priffyrdd ar hyd yr A484 yn Sandy wedi'i gwblhau.  

5.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 657 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/39454

Newidiadau, adnewyddu a helaethu yn ogystal â dymchwel y strwythurau diangen a'r wal derfyn. Newid defnydd rhannau o'r adeilad i fod yn ddosbarth A1 (adwerthu), A3 (bwytai a chaffi), B1 (busnes) a D2 (ymgynnull a hamdden, prif ran neuadd y farchnad i fod â defnydd cymysg (dosbarthiadau A1, B1 a D2) yn hen neuadd y farchnad, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, SA19 6AE

 

 

6.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 645 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/39358

Newid defnydd preswylfa o ddosbarth C3 i Gartref preswyl plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF

[Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn gweld y safle a'r briffordd leol.

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle ac i asesu'r effaith ar y briffordd.

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39644

Bwriad i greu estyniad yn y blaen ac yn y cefn ac ychwanegu ffenestri dormer newydd, cynyddu llinell bresennol y grib i 350mm a newidiadau i oleddf y to yn 43 Heol Pen Llwyn Gwyn, Bryn, Llanelli, SA14 9UH;

 

S/39750

1) Estyniad unllawr newydd y tu cefn, 2) dymchwel y garej, ystafell aml-bwrpas a'r sied presennol a chreu estyniad ar y llawr gwaelod i ddarparu cegin/ystafell fwyta ac ystafell aml-bwrpas newydd yn eu lle. 3) dymchwel portsh mynediad ochr presennol ac adeilad portsh mynediad newydd yn ei le yn 37 Oaklands, Llanelli, SA14 8DE

 

 

7.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 928 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

6.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

W/39590

Bwriad i newid defnydd y tir o dir pori i wersyllfa - i gynnwys 1 cwt bugail moethus a phum pabell yn Penrhiwsych, Glantren Lane, Llanybydder, SA40 9SA

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle ac asesu'r effaith ar y briffordd.

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

·                Mae'r lôn sy'n arwain i'r safle yn gul ac ond ychydig o leoedd pasio sydd ar gael.

·                Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r lonydd yn aml yn defnyddio mynedfeydd preifat megis lleoedd pasio ac yn achosi rhwystr;

·                Mae cerbydau'n rhwystro lôn oherwydd eu bod yn gorfod aros hyd nes bod gatiau trydan y safle'n agor.

·                Mynediad acíwt o'r lôn i'r safle;

·                Pryderon yn ymwneud â diogelwch a cholli preifatrwydd.

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd.

 

6.2       PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37398

Cais am adeiladu un breswylfa newydd ar dir ger y Glyn, Drefelin, Llandysul, SA44 5XB;

 

W/39414

Darparu dau blot adeiladu ar dir ger Mwynfan, Heol Brynhaul, Pontyates, Llanelli, SA15 5TD;

W/39441

 

 

Bwriad i agor Canolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands yn Uned 1, Parc Maes yr Eithin, Cross Hands, Llanelli, SA14 6SY;

 

[Noder - Gan fod y Cynghorydd D Jones wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

W/39668

 

 

Newid defnydd y siêd defaid ac ?yn i gynelau c?n ym Mlaenffrwd, Heol Blaen-y-coed, Trawsmawr, Caerfyrddin, SA33 6EJ

 

W/39822

 

 

Estyniad i ddarparu storfa i beiriannau, gwellt a gwasarn yn Nantygelli, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6UT;

 

[Noder - Gan fod J Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

8.

COFNODION - 12 RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau