Datblygiad preswyl arfaethedig, ffordd
fynediad a seilwaith cysylltiedig ar
dir ym Mharc Pencrug a gwaith draenio cysylltiedig ar dir ym Mharc
Pencrug a Maes y Farchnad, Llandeilo
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat
y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler
cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Mawrth 2025), a
drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas
â phryderon a godwyd ynghylch traffig a chysylltedd. Yn
ogystal, byddai Ymweliad Safle yn galluogi'r Pwyllgor i gynnal
asesiad o'r cais gan ystyried cyd-destun a thopograffeg y
safle.
Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad
ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi
arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r cynnig, crynodeb
o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y
polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth
asesu'r cais.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyeddyn
argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
Daeth
sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y
manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd gan gyfeirio'n benodol at y materion traffig a
thrafnidiaeth a'r diffyg ymgynghori.
Yn
ogystal, cafwyd sylw gan yr aelod lleol yn gwrthwynebu'r cais ar
sail y ffaith bod diffyg cysylltedd â'r dref, y siopau ac
ysgolion drwy'r fynedfa arfaethedig ar ystâd bresennol Parc
Pencrug a oedd ymhell o fod yn addas.
Effaith y datblygiad o ran dylunio, cynllun, creu lleoedd a chreu
nodweddion cynnal i ymateb i dopograffeg y safle. Cyfeiriwyd at y
pryderon a godwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru a lefel y pryderon a
fynegwyd gan drigolion lleol; a’r diffyg ymgynghori /
rhyngweithio digonol â'r datblygwyr.
Ymatebodd yr Ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r
materion a godwyd.
|