Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Owen, R. Sparks, G.B. Thomas a M. Thomas.

 

[Sylwer: Er ei bod wedi anfon ymddiheuriadau, ymunodd y Cynghorydd D. Owen â'r cyfarfod cyn bod eitem 3 ar yr agenda yn cael ei hystyried].

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T. Davies

3.1 PL/08735: Newid defnydd hen glwb nos yn unedau llety preswyl i gyn-aelodau o Luoedd Arfog EF (Sui Generis) gan gynnwys estyniadau ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, ac adeilad newydd i gadw biniau a beiciau yn 33 Stryd Murray, Llanelli, SA15 1BQ

 

Y Cynghorydd T. Davies wedi bod yn gweithio gyda'r ymgeisydd ar y gwaith hwn.

 

S. Williams

PL/08735: Newid defnydd hen glwb nos yn unedau llety preswyl i gyn-aelodau o Luoedd Arfog EF (Sui Generis) gan gynnwys estyniadau ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, ac adeilad newydd i gadw biniau a beiciau yn 33 Stryd Murray, Llanelli, SA15 1BQ

 

Y Cynghorydd S. Williams wedi bod yn gweithio gyda

HelpingHomeless Veterans UK i drawsnewid yr adeilad.

Mr H. Towns – Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi

3.2 - Cais cynllunio PL/06580: Datblygiad preswyl arfaethedig, ffordd fynediad a seilwaith cysylltiedig ar dir ym Mharc Pencrug a gwaith draenio cysylltiedig ar dir ym Mharc Pencrug a Maes y Farchnad, Llandeilo

Mr H. Towns yn byw o fewn tua 500 llath i'r safle ac mae rhan o'r cais yn cyfeirio at ardal o dir o'r enw 'Maes y Farchnad' sydd wrth ymyl eiddo ei rieni.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

3.1

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/08735

Newid defnydd hen glwb nos yn unedau llety preswyl i gyn-aelodau o Luoedd Arfog EF (Sui Generis) gan gynnwys estyniadau ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, ac adeilad newydd i gadw biniau a beiciau yn 33 Stryd Murray, Llanelli, SA15 1BQ

 

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr T. Davies a S. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi].

 

 

3.2

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:

 

PL/06580

Datblygiad preswyl arfaethedig, ffordd fynediad a seilwaith cysylltiedig ar dir ym Mharc Pencrug a gwaith draenio cysylltiedig ar dir ym Mharc Pencrug a Maes y Farchnad, Llandeilo

 

[NODER:  Roedd Mr H. Towns wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi].

 

Y RHESWM: I weld y safle yng ngoleuni'r pryderon a godwyd mewn perthynas â chreu traffig a chysylltedd.  Byddai Ymweliad Safle yn galluogi'r Pwyllgor i gynnal asesiad o'r cais gan ystyried cyd-destun a thopograffeg y safle.