Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 27ain Chwefror, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Terry Davies, Michelle Donoghue ac Edward Skinner.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.M. Charles

3.1 - PL/05488

Addasu adeilad allanol diangen cysylltiedig yn rhandy preswyl, Barley Mount, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JX

Mae'r ymgeisydd yn berthynas agos iddo.

J.M. Charles

3.1 - PL/05490

Addasu Adeilad Allanol Presennol yn 2 Uned Wyliau i'w Gosod, Barley Mount, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JX

 

Mae'r ymgeisydd yn berthynas agos iddo.

W.T. Evans

3.1 – PL/06106
Ailddatblygu'r ffermdy diangen presennol yn d? fforddiadwy tair ystafell wely ynghyd â gwaith allanol, T? Isaf, Heol Nazareth, Pont-iets, Llanelli, SA15 5TB

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05488

ADDASU ADEILAD ALLANOL DIANGEN CYSYLLTIEDIG YN RHANDY PRESWYL, BARLEY MOUNT, LLANARTHNE, CAERFYRDDIN, SA32 8JX

 

(NODER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd M. Charles y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried yr eitem hon.)

 

PL/05490

ADDASU ADEILAD ALLANOL PRESENNOL YN 2 UNED WYLIAU I'W GOSOD, BARLEY MOUNT, LLANARTHNE, CAERFYRDDIN, SA32 8JX

 

(NODER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd M. Charles y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried yr eitem hon.)

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd bod y cais yn cael ei wrthod, yn amodol ar gynnwys amod bod cyfraniad Tai Fforddiadwy Adran 106 yn cael ei bennu.

 

PL/05488

AILDDATBLYGU'R FFERMDY DIANGEN PRESENNOL YN D? FFORDDIADWY TAIR YSTAFELL WELY YNGHYD Â GWAITH ALLANOL, T? ISAF, HEOL NAZARETH, PONT-IETS, LLANELLI, SA15 5TB

 

(NODER: 

  • Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd W.T. Evans y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried yr eitem hon.)
  • Roedd y Cynghorydd J.M. Charles fel Is-gadeirydd yn cadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ac yn cynnwys:-

 

  • ei bod yn credu bod y cynnig yn cydymffurfio â darpariaethau Polisi H8 y CDLl Adnewyddu Anheddau Adfeiliedig neu Anheddau wedi'u Gadael, a Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a TAN20 Cynllunio a'r Gymraeg.
  • Bod yr eiddo wedi bod yn nheulu'r ymgeisydd ers y 1900au;
  • Bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio ag Adran 106 (mewn egwyddor)
  • Bod y teulu'n awyddus i adfer yr hyn oedd yn cael ei ystyried yn adfail a'i newid yn gartref teuluol.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Aman Gwendraeth] a'r Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

Yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd bod y cais yn cael ei wrthod, roedd y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn dderbyniol yng nghyd-destun Polisïau H8, TAN20 a pharagraffau 2.11 a 2.12 TAN6.

 

Cafodd ei gynnig a'i eilio y dylid caniatáu'r cais dim ond yn amodol ar gynnwys amod y byddai'r ymgeisydd yn darparu cyfraniad tai fforddiadwy Adran 106.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi, pe bai'r Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y swyddog, y byddai hysbysiad i'r wasg yn cael ei gyhoeddi a byddai cyfnod gwyro yn dechrau.  Yn dilyn y cyfnod gwyro, byddai adroddiad yn nodi unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried.

 

 

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 17 Chwefror, 2025.

 

Wrth gydnabod dymuniadau’r Aelodau i gael cyfle i arsylwi ar Wrandawiad Cynllunio yn y dyfodol, rhoddodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi wybod i'r Pwyllgor am gyfle oedd ar ddod, gan ddweud y byddai Gwrandawiad Cynllunio yn cael ei gynnal ar 30 Ebrill 2025 yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli pe byddent yn dymuno bod yn bresennol ac arsylwi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 IONAWR 2025 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025 gan eu bod yn gywir.