Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 7fed Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.D. James, D. Owen, G. B. Thomas a M. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/07181

 

 

Cais am addasu adeilad amaethyddol yn ddefnydd cymysg i gynnwys man cynnal digwyddiadau a phriodasau a chodi dau adeilad fel estyniadau yn Green Grove Farm (Ôl-weithredol) [Ailgyflwyno PL/05233 a wrthodwyd ar 04/12/2023], Greengrove, Llangadog, SA19 9AS

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai rai o'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Roedd y pryderon a fynegwyd yn ymwneud â'r canlynol:

 

  • Effaith s?n/cerddoriaeth uchel yn deillio o'r digwyddiadau a fyddai'n cael eu cynnal ar safle'r cais ar amodau byw preswylwyr ag anableddau dysgu ac anghenion arbennig yn Glasallt Fawr.

 

  • Nid oedd to'r adeilad wedi'i inswleiddio ac nid oedd hyn wedi'i ystyried yn y Cynllun Rheoli S?n.

 

  • Ystyriwyd ei bod yn amheus a fyddai gwesteion yn cadw at yr amodau a nodir yn y Cynllun Rheoli S?n yn ymwneud â chau ffenestri a drysau a bod cerddoriaeth yn dod i ben yn ystod y terfynau amser penodedig.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

PL/07742

 

 

Newid defnydd ysgubor yn fwthyn gwyliau, Gellilednais, Uplands, Caerfyrddin, SA32 8DZ

 

 

PL/08091

 

Amrywio Amod 1 o S/40692 (Bwriad i adeiladu hyd at 202 o unedau gyda gwaith tirlunio a seilwaith cysylltiedig) er mwyn caniatáu 5 mlynedd arall ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl - Cwm y Nant (Tir i'r gogledd o Gors-Fach), Dafen, Llanelli, SA14 8NB

 

 

PL/08205

 

Bloc amwynderau parhaol newydd i gymryd lle'r bloc amwynderau dros dro presennol, Parc Gwledig Pen-bre, Heol y Ffatri, Pen-bre, Porth Tywyn, SA16 0EJ

 

4.

ADRODDIAD APELAU pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 28 Hydref 2024.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at PL/05392 a nodir yn Nhabl 3 yr adroddiad. Dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi fod yr Awdurdod Cynllunio wedi gwrthod y datblygiad i ddechrau oherwydd materion yn ymwneud â darparu Tai Fforddiadwy ac yn hyn o beth roedd wedi dal at ei safbwynt yn unol â'i Gynllun Datblygu Lleol a'r Canllawiau Cynllunio Atodol perthnasol.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr apêl wedi'i chadarnhau ac y byddai hyn bellach yn galluogi'r datblygwr i fwrw ymlaen heb unrhyw gyfraniad at Dai Fforddiadwy.

 

Dywedwyd bod yr Awdurdod Cynllunio wedi ei siomi o nodi rhai o'r sylwadau a wnaed yn Llythyr Penderfyniad yr Arolygydd sef nad oedd yr Awdurdod Cynllunio wedi bod o gymorth ac y dylai fod wedi ymgysylltu â'r datblygwr yn gynharach. Nodwyd, fodd bynnag, na chafodd y ffaith bod y datblygwr wedi gwrthod talu'r ffi ofynnol am ymgysylltu o ran datganiad hyfywedd, fel y'i nodir ym mholisïau'r Awdurdod, ei hadlewyrchu yn llythyr penderfyniad yr Arolygydd.

 

Ategodd rhai aelodau'r Pwyllgor yr ymdeimlad o siom a fynegwyd gan yr Awdurdod Cynllunio a dywedwyd y dylid cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Arolygiaeth Gynllunio i gyfleu siom yr Awdurdod â rhai elfennau o'r apêl.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1

nodi'r adroddiad.

 

4.2

Bod y Cynghorydd R. Sparks, fel yr aelod lleol, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Arolygiaeth Gynllunio yn mynegi siom y Pwyllgor o ran elfen Tai Fforddiadwy ei phenderfyniad ar gyfer PL/05392, ynghyd â rhai sylwadau eraill a wnaed.

 

5.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 2 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Chwarter 2 am y cyfnod Gorffennaf i Fedi 2024 ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer data chwarterol a chronnol ar gyfer 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi set o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys "Dangosyddion Cenedlaethol" a'r rhai a nodwyd gan y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi grynodeb byr o brosesau Gorfodi'r Awdurdod a nododd y byddai rhagor o wybodaeth ac arweiniad yn cael eu rhoi i aelodau yn sesiwn datblygu'r Pwyllgor Cynllunio ar 17 Rhagfyr 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 HYDREF 2024 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am gynnwys yr ymddiheuriadau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd R. Sparks yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y newid uchod, llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024 gan eu bod yn gofnod cywir.