Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 12fed Medi, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M.J.A. Lewis a D.E. Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/04400

 

Amrywio Amod 2 ar Gais Cynllunio S/36948 (er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl) ym Mhentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, Llanelli.

 

PL/05349

 

Datblygiad preswyl ar dir oddi ar Heol Hathren, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8JR

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:

 

  • Diogelwch preswylwyr oherwydd cynnydd yn y traffig
  • Priffyrdd, parcio a mynediad i gerbydau
  • Tarfu wrth adeiladu'r datblygiad gan gynnwys pryderon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
  • Effaith ar yr amgylchedd
  • Dim mynediad uniongyrchol o'r safle datblygu i'r brif ffordd
  • Nifer y datblygiadau diweddar yn yr ardal gyfagos.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

PL/07616

 

Gweithrediadau peirianneg sy'n cynnwys ffurfio man gwastad i alluogi gwaith datblygu yn y dyfodol ar dir i'r de o Ganolfan Ailgylchu Nant-y-caws, Heol Llanddarog, Nantycaws, Caerfyrddin, SA32 8BG

 

 

 

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 3 Medi, 2024.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED AWST, 2024 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Awst 2024 yn gofnod cywir.