2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y
Cynghorydd
|
Rhif y
Cofnod
|
Y Math o
Fuddiant
|
Y Cynghorydd E.
Skinner
|
3: PL/04799 -
Adleoli'r porth awtomatig presennol i
gerbydau a'r panel rheoli mynediad gyda ffensys cysylltiedig a
gwaredu'r gât i gerddwyr ar dir i'r de o Rifau 175 ac 162,
Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF
|
Mae'n aelod o Glwb Golff a Chlwb
Gwledig Penrhyn Machynys sydd â diddordeb tir yn y
cais.
Datganodd y Cynghorydd Skinner ei
ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod cyn bod y cais yn cael ei
ystyried
|
Y Cynghorydd E.
Williams
|
3: PL/03279 –
Dymchwel y siop fwyd bresennol i hwyluso
ailddatblygiad preswyl, ynghyd â mynediad cysylltiedig i
gerbydau a cherddwyr, meysydd parcio, amwynderau, siopau beiciau a
llefydd cadw biniau, gwaith tirweddu a datblygu ategol: paratoi'r
safle, clirio, trin, ail-broffilio a gosod gwasanaethau a seilwaith
newydd yn Archfarchnad Lidl, Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31
1LS.
2.
|
Mae'r Cynghorydd Williams yn berchen ar
fflat yn T? Rhys sydd gerllaw'r datblygiad arfaethedig.
Datganodd y Cynghorydd Williams
ei ddiddordeb personol a gadawodd y cyfarfod cyn bod y cais yn cael
ei ystyried.
|
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 388 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio
canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle
a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
PL/03279
|
Dymchwel y siop fwyd
bresennol i hwyluso ailddatblygiad preswyl, ynghyd â mynediad
cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, meysydd parcio, amwynderau,
siopau beiciau a llefydd cadw biniau, gwaith tirweddu a datblygu
ategol: paratoi'r safle, clirio, trin, ail-broffilio a gosod
gwasanaethau a seilwaith newydd yn Archfarchnad Lidl, Heol y Prior,
Caerfyrddin, SA31 1LS.
|
|
[NODER: Bu i'r Cynghorydd
Elwyn Williams ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd
y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd
arni.]
Darllenodd y Cadeirydd sylw ysgrifenedig gan
yr Aelod Lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn
adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn
cynnwys:-
·
Nifer y pryderon a godwyd yn
dilyn y broses Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais yn ymwneud
â
-
nifer arfaethedig yr
unedau/eu dwysedd, eu deiliadaeth, amynderau;
-
effaith y cynnig ar eiddo ar
hyd y Rhodfa;
-
y diffyg mannau parcio yn
enwedig o ran gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.
·
bod y cynllun ar gyfer pobl
dros 55 oed yn unig. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw amod i'r perwyl
hwn.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro
i'r materion a godwyd.
|
PL/04799 -
|
Adleoli'r porth awtomatig
presennol i gerbydau a'r panel rheoli mynediad gyda ffensys
cysylltiedig a gwaredu'r gât i gerddwyr ar dir i'r de o Rifau
175 ac 162, Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF
|
|
[NODER: Datganodd y
Cynghorydd Edward Skinner fuddiant personol yn yr eitem hon a
gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn y
pleidleisiwyd arni.]
Derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais
gan ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd a thynnu sylw at y pryderon ynghylch y bwriad i
waredu'r gât i gerddwyr, a gâi ei defnyddio'n helaeth
gan lawer o bobl, ac felly dylid ei symud i'r lleoliad
newydd.
Yn dilyn y sylwadau, cynigiwyd nad oedd
angen ymweliad safle gan fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan
swyddogion yn ddigonol, a chymeradwywyd y cynnig.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi
a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei
ystyried.
|
PL/06289
|
Adeiladu 12 o breswylfeydd
gyda seilwaith cysylltiedig ar dir i'r de o Barc Gitto, Llwynhendy,
Llanelli, SA14 9LB
|
|
Oherwydd ymrwymiad arall, bu'n rhaid i'r
Aelod lleol adael y cyfarfod cyn rhoddid ystyriaeth i'r eitem hon,
felly darllenodd y Cadeirydd, yn ei habsenoldeb, sylwadau
ysgrifenedig yn gofyn am ymweliad safle er mwyn ystyried draenio a
llifogydd mewn eiddo yn yr ardal yn ddiweddar. Codwyd pryder
ynghylch pwmpio d?r budr i'r orsaf bwmpio leol, nad oedd ar adegau
yn gallu ymdopi â llif y d?r. Byddai dwy breswylfa ychwanegol
yn cael rhagor o effaith ar allu'r orsaf bwmpio i
ymdopi.
Yn dilyn cyflwyniad y swyddog ac ystyried y
sylwadau, cynigiwyd peidio â mynd ar ymweliad safle a chafodd
hynny ei gymeradwyo.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi
a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|