Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer
01267 224029
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr N.
Evans a D.E Williams.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cynghorydd/Swyddog
|
Rhif y
Cofnod
|
Y Math o
Fuddiant
|
Y Cynghorydd J.K. Howell
|
3: PL/04739 -
Codi preswylfa
menter wledig a gwaith cysylltiedig yn Nhreale, Felindre, Llandysul, SA44 5XU
|
Wedi cefnogi'r ymgeiswyr / cais yn
ysgrifenedig.
|
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 435 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/04739
|
Codi preswylfa menter wledig a
gwaith cysylltiedig yn Nhreale,
Felindre, Llandysul, SA44 5XU
(NODER: Roedd y Cynghorydd J.K. Howell wedi datgan
buddiant yn y cais hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw
ond arhosodd yn y cyfarfod. Ni wnaeth y Cynghorydd P.
Cooper, A. Leyshon, T.
Davies and D. Owen gymryd rhan yn yr eitem hon na phleidleisio yn ei
chylch gan nad oedd wedi bod yn rhan o'r penderfyniad gwreiddiol a
wnaed gan y pwyllgor ar 25 Mai 2023).
|
PL/05763
|
Adeiladu wal claddfa silwair, to
a gwaith cysylltiedig dros y gladdfa silwair bresennol, tir sy'n
rhan o Maenllwyd, Llan-saint, Cydweli, SA17 5HZ
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a
ddywedodd, er ei fod yn gefnogol i'r cais gan ei bod yn
angenrheidiol cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau D?r (Rheoli
Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, fod ganddo bryderon am yr effaith y
byddai'r datblygiad yn ei chael.
Cyfeiriwyd at yr effaith niweidiol ar
yr economi ymwelwyr, yn benodol y maes carafanau cyfagos sy'n creu
cyflogaeth ac yn cynhyrchu refeniw mawr ei angen ar gyfer yr
ardaloedd cyfagos.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth
i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
3.2 PENDERFYNWYD gwrthod
y ceisiadau cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn
Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:
PL/05635
|
Codi byngalo unllawr pwrpasol newydd sy'n cydymffurfio o ran
anabledd i ddiwallu anghenion anabledd, 34 Clos Coed Derw,
Pen-y-groes, Llanelli, SA14 7RD
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a oedd
yn cefnogi’r cais mewn perthynas ag amgylchiadau personol
yr ymgeisydd. Dywedodd fod angen t? wedi'i addasu
yn yr ardal sy'n agos at aelodau'r teulu oherwydd bod ei iechyd
wedi dirywio. Hefyd dywedwyd nad oedd y datblygiad ond ychydig y tu
allan i'r terfynau datblygu.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth
i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
PL/05971
|
Estyniad unllawr i breswylfa ar ffurf rhandy mam-gu, 14 Heol
Parcdir, Rhydaman, SA18 3TF
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol i
gefnogi'r cais ar y sail nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i
law ac na fyddai maint yr adeilad yn cael effaith ar yr ardal
gyfagos.
Cyfeiriwyd at amgylchiadau personol yr
ymgeisydd a'r teulu. Nodwyd mai pwrpas y rhandy oedd
caniatáu i'r ymgeisydd ofalu am aelod o'r teulu y mae ei
iechyd wedi bod yn dirywio.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth
i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
|
4. |
ADRODDIAD APELIADAU PDF 193 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r
Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn
rhoi gwybodaeth am apeliadau cynllunio a gyflwynwyd fel yr oedd ar
10 Gorffennaf, 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r
adroddiad.
|
5. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22AIN MEHEFIN 2023 PDF 97 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023, gan eu bod yn
gywir.
|