Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05353

Ffurfio llwybr cyfunol newydd i gerddwyr a beicwyr rhwng Ysgol Bro Dinefwr, Ffair-fach a Nantgaredig, yn ogystal â gwaith peirianneg a thirweddu cysylltiedig (Llwybr Dyffryn Tywi – Cam Dwyreiniol), tir ar hyd llwybr yr hen reilffordd gyda mân wyriadau rhwng Nantgaredig a Ffair-fach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin;

 

3.2        PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, am y rhesymau a nodir isod ac yn amodol ar gwblhau cytundeb Adran 106 i reoli gwerthiant o'r eiddo yn y dyfodol fel tai fforddiadwy a gosod amodau tirlunio priodol:-

 

(1)        Sail anghenion lleol;

(2)         Ystyriwyd bod lleoliad a gosodiad yr annedd arfaethedig yn briodol. 

 

PL/05786

Adeiladu annedd sy’n gymwys o dan y polisi anghenion lleol, Plas Newydd, Llan-gain, Caerfyrddin, SA33 5AY;

 

Cafwyd sylwadau gan yr aelod lleol i gefnogi'r cais ar sail Anghenion Lleol, y ffaith bod ôl troed yr annedd wedi ei leihau ers y cais gwreiddiol a bod hyn yn cael ei ystyried yn dderbyniol, ac y byddai sgrinio addas yn lliniaru pryderon ynghylch y safle.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

3.3    PENDERFYNWYD nodi bod y ceisiadau canlynol yr agenda wedi cael eu tynnu yn ôl:

 

PL/05042

Cais am gyfanswm o 4 pod glampio gyda mannau eistedd preifat o flaen yr unedau, ynghyd â chaban gwasanaethau, man parcio a throi, amwynderau ailgylchu/gwastraff a storfa feiciau ddiogel. Mae digon o le rhwng y podiau ar draws y safle. Hefyd, bwriedir gosod llwybrau troed cysylltiedig a gwneud gwaith tirweddu ar y safle. Cyfeiriwch at y cynllun safle arfaethedig am fanylion pellach. Y math o bodiau glampio fydd podiau Glasgwym a ddarperir gan Quality Pods Wales. Mae’r llain wedi’i lleoli ger yr A483, yn agos i Gil-y-cwm a Llanymddyfri. Bydd y safle glampio arfaethedig yn darparu llety syml a disylw yng nghefn gwlad ar gyfer twristiaid sy’n ymweld ag atyniadau’r ardaloedd hyn ar seibiannau byr a gwyliau penwythnos, a bwriedir iddo ddarparu llety drwy gydol y flwyddyn, Brynllan, Cil-y-cwm, Llanymddyfri, SA20 0SY;

PL/05354

Cadw annedd sengl, Pantbach, Heol Treventy, Cross Hands, Llanelli, SA14 6TE.

 

4.

APELIADAU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar y wybodaeth ganlynol yn ymwneud ag apeliadau cynllunio:-

·     Disgrifiad o'r camau apelio;

·     Rôl a chyfrifoldebau'r partïon;

·     Sut i roi sylwadau ar apêl;

·     Amserlenni apelio;

·     Apeliadau a gyflwynwyd ar 12/06/2023;

·     Apeliadau ar y gweill ar 12/06/2023;

·     Penderfynwyd ar yr apeliadau rhwng 01/04/2023 a 12/06/2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

5.

COFNODION - 25AIN MAI 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 25  Mai, 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau