Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 25ain Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, T. Davies a D. Owen.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd J.K. Howell

3: PL/04739 – Codi preswylfa menter wledig a gwaith cysylltiedig yn Nhreale, Felindre, Llandysul,

SA44 5XU

Wedi cefnogi'r ymgeiswyr / cais yn ysgrifenedig.

Y Cynghorydd R. Sparks

3: PL/05366 – Cyfnewid carafán a llawr estyll cyfreithlon am breswylfa â garej yn rhan ohoni (Ailgyflwyno yn dilyn gwrthod PL/04327) yn The Caravan, Springwells Farm, Llanboidy,  Hendy-gwynar Daf, SA34 0EB

Roedd yn adnabod yr ymgeiswyr.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1      PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/03849

Amrywio Amod 3 o W/35339 (codi giatiau), Cartref Cynnes, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HT

 

3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i'w wrthod am y rhesymau gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor:

 

PL/04739

Codi preswylfa menter wledig a gwaith cysylltiedig yn Nhreale, Felindre, Llandysul, SA44 5XU

 

[Sylwer - Roedd y Cynghorydd J.K. Howell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn:

 

a)    Bod Cyfiawnhad Menter Wledig ar gyfer y breswylfa, ar sail maint cyffredinol erwau'r fferm a graddfa bresennol gwaith y fferm, a bod maint y breswylfa'n dderbyniol.

b)    Bod y cais yn unol â darpariaethau Nodyn Cyngor Technegol 6 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â pharhad y cenedlaethau o ran ffermio.

c)    Bod modd clymu'r breswylfa bresennol ac arfaethedig i'r daliad amaethyddol drwy gytundeb adran 106.

 

3.2.2   PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod. 

3.2.3 Bod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ynghylch amodau priodol i'w gosod a thrafodaethau gyda'r ymgeisydd mewn perthynas ag unrhyw gytundebau A106.

 

3.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

PL/05366

Cyfnewid carafán a llawr estyll cyfreithlon am breswylfa â garej yn rhan ohoni (Ailgyflwyno yn dilyn gwrthod PL/04327) yn The Caravan, Springwells Farm, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0EB

 

[Sylwer - Datganodd y Cynghorydd R. Sparks fuddiant wrth i'r swyddog gyflwyno'r cais hwn, a gadawodd y cyfarfod yn syth. Nid oedd yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ystyried y cais].

 

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN EBRILL, 2023 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 27 Ebrill, 2023 gan eu bod yn gywir.

 

5.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 4 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 4 am y cyfnod 1 Ionawr 2022 hyd at 31 Mawrth 2023, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys data cymharol ar gyfer 2022/23.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi set helaeth o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol.

 

Prif ddangosyddion perfformiad yr adroddiad, yr adroddwyd yn ei gylch yn genedlaethol i Lywodraeth Cymru, oedd Dangosyddion 2 a 10 ynghyd â chyfres o ddangosyddion lleol.

 

Wrth grynhoi perfformiad, nododd yr aelodau, ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23, y rhagorid am y tro cyntaf ar y targed perfformiad cynllunio blynyddol ar gyfer Dangosydd 2 (Llywodraeth Cymru PAM/018), wrth i benderfyniad gael ei wneud ynghylch 89% o'r holl geisiadau cynllunio o fewn y dyddiad targed.    Roedd y dangosyddion perfformiad lleol yn dangos gwelliant parhaus, gan gynnal a datblygu ar y cynnydd mewn perfformiad ers 2021/22. Ar ben hynny, roedd yr adroddiad yn nodi, o ran dangosydd perfformiad 14, gorfodaeth, yn Chwarter 4 roeddid wedi ymchwilio i 80% o'r achosion o fewn y dyddiad targed o 84 diwrnod gan gyrraedd y targed o 80% am y tro cyntaf.

 

Estynnwyd diolch i'r Swyddogion am gyflawni gwelliannau cadarnhaol mewn perfformiad. Cyfeiriwyd at Dangosydd 11, apeliadau a benderfynwyd yn erbyn argymhelliad swyddogion. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio nad oedd ffigyrau ar gael oherwydd nad oedd unrhyw apeliadau wedi cael eu clywed a oedd yn ymwneud â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau nad oedd yr achosion hynny lle roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad y swyddog yn cael eu cynnwys gan na fyddai'r penderfyniadau hynny'n arwain at apêl bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.