Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, T. Davies a D. Owen.
|
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i'w wrthod am y rhesymau gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor:
3.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN EBRILL, 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 27 Ebrill, 2023 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 4 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 4 am y cyfnod 1 Ionawr 2022 hyd at 31 Mawrth 2023, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys data cymharol ar gyfer 2022/23.
Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi set helaeth o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol.
Prif ddangosyddion perfformiad yr adroddiad, yr adroddwyd yn ei gylch yn genedlaethol i Lywodraeth Cymru, oedd Dangosyddion 2 a 10 ynghyd â chyfres o ddangosyddion lleol.
Wrth grynhoi perfformiad, nododd yr aelodau, ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23, y rhagorid am y tro cyntaf ar y targed perfformiad cynllunio blynyddol ar gyfer Dangosydd 2 (Llywodraeth Cymru PAM/018), wrth i benderfyniad gael ei wneud ynghylch 89% o'r holl geisiadau cynllunio o fewn y dyddiad targed. Roedd y dangosyddion perfformiad lleol yn dangos gwelliant parhaus, gan gynnal a datblygu ar y cynnydd mewn perfformiad ers 2021/22. Ar ben hynny, roedd yr adroddiad yn nodi, o ran dangosydd perfformiad 14, gorfodaeth, yn Chwarter 4 roeddid wedi ymchwilio i 80% o'r achosion o fewn y dyddiad targed o 84 diwrnod gan gyrraedd y targed o 80% am y tro cyntaf.
Estynnwyd diolch i'r Swyddogion am gyflawni gwelliannau cadarnhaol mewn perfformiad. Cyfeiriwyd at Dangosydd 11, apeliadau a benderfynwyd yn erbyn argymhelliad swyddogion. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio nad oedd ffigyrau ar gael oherwydd nad oedd unrhyw apeliadau wedi cael eu clywed a oedd yn ymwneud â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau nad oedd yr achosion hynny lle roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad y swyddog yn cael eu cynnwys gan na fyddai'r penderfyniadau hynny'n arwain at apêl bosibl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|