Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 2ail Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. D. James.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 355 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/05005

 

 

Byngalo ar wahân a Garej ar dir sy'n rhan o Gwelfor, Heol Llanelli, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AR

 

 

PL/05016

 

 

Gwaith allanol gan gynnwys addasu ac agoriadau ffenestri a drysau newydd, teras to ac iard ganolog i hwyluso Hwb Caerfyrddin yn Uned A, Rhodfa Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA

 

 

PL/05071

 

Estyniad i'r llawr cyntaf ym Mhant y D?r Fach, Heol T? Llwyd, Llanedi, Abertawe, SA4 0FJ

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:-

·    problemau posibl o ran cael mynediad,

·    diffyg cyfleusterau parcio,

·    cynnydd yn y lefelau s?n,

·    system garthffosiaeth heb ei chysylltu â'r brif system, a

·    eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

 

PL/05085

 

Caniatâd Cynllunio Amlinellol ar gyfer Eiddo Preswyl 3/4 Ystafell Wely ar Dir Cyfagos i 21 Rhodfa Parc Howard, Llanelli, SA15 3LQ

 

Darllenodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu e-bost gan aelod lleol a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd.  Roedd y pryderon mewn perthynas â'r canlynol:-

·    Diffyg lle parcio a phryderon diogelwch ffyrdd ac

·    Eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

 

PL/05112

 

Adeiladu tair preswylfa ar wahân a gwaith cysylltiedig ar Dir oddi ar Clos Gwyn, Heol y Neuadd, Y Tymbl, Llanelli, SA14 6AJ

 

 

3.2    PENDERFYNWYD caniatáu y cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod.

 

 

PL/04946

 

 

Bwriad i adfer preswylfa a adawyd gan gynnwys troi adeilad allanol cyfagos yn rhan o'r breswylfa a'r holl waith cysylltiedig i gynnwys estyniad cymedrol ar yr ochr i gysylltu'r ddau adeilad ym Mlaenaufforest, Ffarmers, Llanwrda, SA19 8QH

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gan gynnwys:-

·    Roedd y breswylfa arfaethedig yn cydymffurfio â Pholisi H8.

·    Roedd yr arolwg strwythurol yn cefnogi bod y strwythur yn gadarn yn ffisegol.

·    Roedd y datblygiad ar gyfer teulu lleol a oedd yn cyfrannu i'r gymuned leol.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

Bu i'r Pwyllgor ystyried:

a)    Bod y datblygiad yn adfer yr hen breswylfa ac yn unol â Pholisi H8 y CDLl.

b)    Bod y strwythur presennol yn gadarn yn ffisegol a dim ond gwaith adfer oedd ei angen.

 

3.2.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod.

3.2.3 Bod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ynghylch yr amodau priodol i'w gosod er mwyn cynnwys cyfraniadau Tai Fforddiadwy.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

2AIL CHWEFROR, 2023 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023 yn gywir.

4.2

16EG CHWEFROR, 2023 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2023 yn gywir.