Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Originally scheduled for 14/02/2023 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, D. Owen ac G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/04222

Bwriedir cael cae artiffisial 3G ar gyfer chwarae rygbi a phêl-droed a bydd yn cymryd lle’r cae rygbi gwair presennol.  Bydd y cynigion yn cynnwys llifoleuadau newydd.  Bydd wyneb synthetig mân-dyllog yn cael ei osod ar y trac rhedeg graean presennol sydd o amgylch terfyn y safle yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, Stryd Marged, Rhydaman, SA18 2NW;

PL/04596

Caniatâd cynllunio llawn ar gyfer gweithdy gwasanaethu lorïau, canolfan dosbarthu a storio teiars a swyddfeydd ategol, Llain 12, Safle Cyflogaeth Strategol Cross Hands, Heol Parc Mawr, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RE;

PL/04746

Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (mynediad, ymddangosiad, tirweddu, cynllun a graddfa) mewn perthynas â 36 o gartrefi a gwaith cysylltiedig yn unol â Chaniatâd Cynllunio W/38125 (a ganiatawyd fel rhan o apêl Cyf: APP/M6825/A/20/3249883) a rhyddhau amodau cysylltiedig 2, 4, 5, 6 ac 11 y caniatâd cynllunio amlinellol, ar dir i'r de o Dôl y Dderwen, Llan-gain, Sir Gaerfyrddin, SA2 4BE.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau