Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies a M. Thomas

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M.J.A. Lewis

3.             3: PL/03189 –

Adeiladu pedwar byngalo dormer a chreu mynediad newydd gan gynnwys dymchwel y breswylfa bresennol ac adeiladau allanol cysylltiedig, Bryn Bedw, Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7DT

 

Mae'n adnabod dau o'r gwrthwynebwyr.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/01654

Byngalo ar wahân a garej ar dir sy'n rhan o Gwelfor, Heol Llanelli, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AG

 

PL/02561

Dau d? ar wahân ar dir oddi ar Drem y Cwm, Llangynin, Caerfyrddin, SA33 4JQ

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a fynegodd bryderon ynghylch sut yr oedd y datblygiad ehangach wedi datblygu dros y blynyddoedd a gofynnodd am i'r datblygiad hwn sicrhau bod y cyfraniad datblygiad tai fforddiadwy yn cael ei wneud (A106).

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Rheolwr Blaen-gynllunio i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

PL/03189

Adeiladu pedwar byngalo dormer a chreu mynediad newydd gan gynnwys dymchwel y breswylfa bresennol ac adeiladau allanol cysylltiedig, Bryn Bedw, Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7DT

 

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn y cais hwn eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid y cais hwn).

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. Roedd y rheini'n cynnwys pryderon bod y pentref yn cael ei lethu gan ddatblygu, gan roi mwy o straen ar ei seilwaith. Yr effaith ar gapasiti'r ysgolion cynradd a meithrin cyfagos heb unrhyw gynlluniau i ehangu'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg leol ac mae'r feithrinfa yn llawn. Yr effaith ddibwys ar y Gymraeg a nodwyd yn natganiadau'r ymgeisydd a oedd yn ddi-sail. Yn ogystal, byddai'r datblygiad yn ychwanegu at y traffig ar yr A485 sydd eisoes yn uchel, y problemau gwelededd a'r cerbydau sy'n goryrru a byddai cael mwy o fynediad i'r ffordd yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol hon.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau