Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies
01267 224059
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.
Davies a M. Thomas
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
M.J.A. Lewis
|
3.
3: PL/03189 –
Adeiladu pedwar byngalo dormer a chreu
mynediad newydd gan gynnwys dymchwel y breswylfa bresennol ac
adeiladau allanol cysylltiedig, Bryn Bedw, Rhydargaeau,
Caerfyrddin, SA32 7DT
|
Mae'n adnabod dau o'r gwrthwynebwyr.
|
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 372 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio
canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/01654
|
Byngalo ar wahân a
garej ar dir sy'n rhan o Gwelfor, Heol Llanelli, Trimsaran,
Cydweli, SA17 4AG
|
PL/02561
|
Dau d? ar wahân ar dir
oddi ar Drem y Cwm, Llangynin, Caerfyrddin, SA33 4JQ
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a fynegodd
bryderon ynghylch sut yr oedd y datblygiad ehangach wedi datblygu
dros y blynyddoedd a gofynnodd am i'r datblygiad hwn sicrhau bod y
cyfraniad datblygiad tai fforddiadwy yn cael ei wneud
(A106).
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu a'r
Rheolwr Blaen-gynllunio i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad
gael ei ystyried.
|
PL/03189
|
Adeiladu pedwar byngalo
dormer a chreu mynediad newydd gan gynnwys dymchwel y breswylfa
bresennol ac adeiladau allanol cysylltiedig, Bryn Bedw,
Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7DT
(SYLWER: Gan fod y
Cynghorydd M.J.A Lewis wedi datgan buddiant yn y cais hwn eisoes,
nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid y cais
hwn).
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a
ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. Roedd y rheini'n
cynnwys pryderon bod y pentref yn cael ei lethu gan ddatblygu,
gan roi mwy o straen ar ei seilwaith. Yr effaith ar gapasiti'r
ysgolion cynradd a meithrin cyfagos heb unrhyw gynlluniau i
ehangu'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg leol ac mae'r feithrinfa yn
llawn. Yr effaith ddibwys ar y Gymraeg a nodwyd yn natganiadau'r
ymgeisydd a oedd yn ddi-sail. Yn ogystal, byddai'r datblygiad yn
ychwanegu at y
traffig ar yr A485 sydd eisoes yn uchel, y
problemau gwelededd a'r cerbydau sy'n goryrru a byddai cael mwy o
fynediad i'r ffordd yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol
hon.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog
Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
|
|