Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 8fed Rhagfyr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.B. Thomas

3: PL/04317 – Preswylfa angen lleol ar dir ger Pen Rhos, Llanelli, SA14 7HA 

Yn berchen ar dir y gallai teulu adeiladu cartrefi arno

C. A. Jones

3.              3: PL/04868 - Adeiladu preswylfa ar gyfer anghenion lleol ym Mhlas Newydd, Llangain, Caerfyrddin, SA3 5AY

Roedd yr adroddiad yn awgrymu iddi benderfynu ynghylch y cais eisoes

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD gwrthod y ceisiadau cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:-:-

 

PL/04317

Preswylfa angen lleol ar dir ger Pen Rhos, Llanelli, SA14 7HA

 

(NODER: Yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, datganodd y Cynghorydd G. B Thomas ddiddordeb ar y sail yr oedd yn berchen ar dir y gallai ei blant, pe byddent yn dychwelyd i'r ardal, wneud cais am adeiladu cartrefi arno. Arhosodd yn y cyfarfod ond ymataliodd rhag pleidleisio)

 

Derbyniwyd sylwadau gan yr aelodau lleol yn cefnogi'r cais gan ailadroddyr hyn oedd wedi’i ddweud yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Roedd y rheini’n cynnwys amgylchiadau personol a chysylltiadau’r ymgeisydd â’r ardal, nid oedd yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r angen i fod ar gofrestr tai’r cyngor, nid oedd unrhyw leiniau/anheddau addas ar werth yn yr ardal, yr angen i gadw teuluoedd ifanc yn yr ardaloedd gwledig. Roedd yr ymgeisydd wedi nodi bod y safle o fewn gr?p o dai, roedd adeiladau preswyl a masnachol eraill yn agos iawn ac roedd ceisiadau anghenion lleol eraill a oedd wedi cael caniatâd cynllunio e.e. W/36522 yn Abernant lle roedd yr adeilad a gymeradwwyd yn fwy na’r hyn  a gynigir ar hyn o bryd ar gyfer safle'r cais.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.  

PL/04868

Adeiladu preswylfa ar gyfer anghenion lleol ym Mhlas Newydd, Llangain, Caerfyrddin, SA3 5AY

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd C.A. Jones wedi datgan buddiant yn y cais hwnyn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried).

 

4.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 1 A 2 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth i adroddiad perfformiad y gwasanaeth cynllunio, ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2 am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30Medi 2022 ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio ac, yn nodedig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol mewn perthynas â 2021/22.

 

O ran cwestiwn ar ddangosydd 3 a nifer y targedau mawr y penderfynwyd arnynt y tu allan i'r dyddiad targed, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio eu bod yn ymwneud yn bennaf â cheisiadau cynllunio hanesyddol, a byddai rhai ohonynt wedi bod yn y system am gyfnod sylweddol. Wrth i'r adran weithio trwy'r ceisiadau sy'n weddill, byddai'r ffigurau'n gwella gydag amser.

 

O ran Dangosydd 12 a'r cais am gostau apêl, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod y nodyn a fanylwyd yn y dangosydd sy'n ymwneud â 2019 wedi'i gynnwys mewn camgymeriad ac y byddai'n cael ei dynnu o adroddiadau yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'n trefnu bod adroddiad ar ffigyrau'r trydydd Chwarter yn cael ei  gyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gais Cynllunio PL/04526 ac at gyflwyniad hwyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Caerfyrddin, yr oedd ei gynnwys wedi'i ddarllen i'r Pwyllgor. Gofynnwyd i'r cofnodion gael eu diwygio i gofnodi'r mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 10 Tachwedd, 2022 yn gywir.