Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. James, D. Owen, G.B. Thomas ac E. Williams.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

I.R. Llewellyn - Rheolwr Blaen-gynllunio

3.              3: PL/04504 - Hoffem godi 3 chwt bugail ar dir ger ein preswylfa. Rydym yn bwriadu rhentu'r cytiau fel llety gwyliau (Ailgyflwyno PL/03609 a wrthodwyd ar 28.04.22), Bryngwinau, Llandyfân, Rhydaman, SA18 2UD

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1         PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/03227

Dymchwel y warws a'r swyddfa presennol ac ailddatblygu'r safle i greu adeilad fydd yn cynnwys ystafell arddangos, warws, a swyddfa ar gyfer busnes plymio a gwresogi yn Sunny Mead,Llanybydder SA40 9RB

 

(NODER: AM 1.00 p.m. ac yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 23, ataliodd y Pwyllgor Reolau Sefydlog wrth ystyried hyn er mwyn galluogi'r cyfarfod i barhau y tu hwnt i dair awr)

PL/03333

Creu 10 llain ychwanegol i deithwyr i'r gorllewin o PL/00775 (Lleiniau 5-14) gyda'r cynllun amgen, gwelliannau ecolegol a thirwedd ac estyniad i ffordd fynediad fewnol a gymeradwywyd (Cam III) ar dir ym Maes y Dderwen, Llangennech, Llanelli, SA14 8UW

   

 

 

3.2         PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, a hynny am y rhesymau canlynol:-

 

(i)              Roedd y safle wedi'i leoli'n agos at yr anheddiad diffiniedig agosaf sef Glanaman ac;

(ii)            Byddai'r datblygiad yn helpu i hyrwyddo cerdded a beicio ac yn cefnogi egwyddorion Teithio Llesol  :-

 

ac ar sail ei benderfyniad:

 

·                 Bod y cais yn cael ei hysbysebu fel Gwyriad oddi wrth Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

·                 Os, ar ôl i'r cyfnod rhybudd ar gyfer y Gwyriad ddod i ben, na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar yr amodau priodol.

 

 

PL/04504

Hoffem godi 3 chwt bugail ar dir ger ein preswylfa. Rydym yn bwriadu rhentu'r cytiau fel llety gwyliau (Ailgyflwyno PL/03609 a wrthodwyd ar 28.94.22),Bryngwinau, Llandyfân, Rhydaman, SA18 2UD

 

(NODER: Gan fod Mr. I.R. Llewellyn, y Rheolwr Blaen-gynllunio, wedi datgan buddiant yn y cais hwn eisoes, ailadroddodd ei fuddiant a gadael y Siambr tra bo'r cais yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor).    

 

Gwnaed sylw gan yr aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail yr ystyrid bod y cais yn dod o fewn Polisi TSM2 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, gan fod y cytiau arfaethedig yn debyg i garafanau teithiol, wedi'u gosod ar olwynion ac felly'n gallu cael eu tynnu, roedd ceisiadau tebyg wedi'u cymeradwyo mewn mannau eraill yn y Sir, roedd y gwrych cyfagos wedi cael ei leihau i 2.4m o uchder, nid oedd dim gwrthwynebiad wedi dod i'r cynnig, roedd y tir dan sylw'n anaddas ar gyfer ffermio ac yn addas ar gyfer arallgyfeirio. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai'n helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol trwy ddarparu tri chwt i'w rhentu am ddau draean o'r flwyddyn a chreu £54k i'r gymuned

 

Wrth ystyried y cais, gwnaed cyfeiriadau gan y Pwyllgor at natur fechan y datblygiad arfaethedig. Mynegwyd barn, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, ni fyddai'n cael
effaith andwyol ar gefn gwlad agored, ac er bod y lleoliad yn ynysig, roedd o fewn pellter cerdded i'r anheddiad agosaf a byddai'n hyrwyddo twristiaeth

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gais Cynllunio PL/03374 a bod yr aelod lleol yn cefnogi'r cais. Gofynnwyd a ellid newid y geiriad fel ei fod yn darllen 'aelod lleol'

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13egHydref, 2022 yn gywir, yn amodol ar yr uchod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau