Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Donoghue, N. Evans, K. Howell a R. Sparks.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00832

Datblygiad tai ar gyfer hyd at 7 uned breswyl ar dir y tu ôl i Garth, Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7HY

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Yn bennaf, roedd y pryderon yn ymwneud â'r datblygiad sylweddol yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y straen a roddwyd ar y ddarpariaeth addysg o fewn yr ardal a'r effaith niweidiol ar y Gymraeg. Yn ogystal, nodwyd materion yn ymwneud â'r orsaf bwmpio carthffosiaeth leol ac eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch diogelwch priffyrdd oherwydd agosrwydd y datblygiad arfaethedig i gyffordd ar ael bryn. O ran hyn, ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn ychwanegu at y traffig sydd eisoes yn uchel ar yr A485, problemau gwelededd a cherbydau yn goryrru. 

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a ailadroddodd y pryderon a fynegwyd gan drigolion lleol fel y nodir yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ac a oedd yn ymwneud â materion diogelwch priffyrdd a achosir gan gerbydau sy'n gyrru'n gyflymach na'r terfyn cyflymder, ynghyd â cholli preifatrwydd, yn enwedig o ganlyniad i'r gofyniad i leihau llystyfiant o fewn eiddo cyfagos.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

PL/02491

Newid defnydd o fod yn Fan Agored/Hamdden i fod yn Ddosbarthiad D1 ar gyfer y bwriad i adleoli History Shed Experience Community Interest Community i gynnwys adeiladu Adeilad Arddangos a swyddfeydd, pedwar bwthyn, dwy ysgubor bolion a thoiledau cyhoeddus ar dir ger Maes Parcio oddi ar Stryd y Bont, (Tir yng Nglan yr Afon, ger Trinity Methodist Church), Cydweli, SA17 4UU.

 

Daeth sylwadau i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Yn bennaf, roedd y pryderon yn ymwneud â cholli mannau agored cyhoeddus, problemau s?n ac amddiffyn, y goblygiadau niweidiol ar fywiogrwydd tref, a'r materion hygyrchedd cysylltiedig o ganlyniad i'r ffaith bod angen y maes parcio ar gyfer trigolion oedrannus ac anabl. 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod y tir yn destun cyfamod a'r effaith niweidiol ar ecoleg y safle a'r ardal yn rhinwedd y datblygiad a'r aflonyddwch y byddai'r datblygiad yn ei achosi.

 

Mynegwyd hefyd nad oedd dogfennaeth y cais yn ddigonol, gyda mesuriadau arwynebedd llawr anghywir wedi'u nodi, a nodwyd bod angen gwybodaeth ychwanegol ar ffurf adroddiad ar yr effaith ar leoliad y castell a'r asedau hanesyddol dynodedig eraill, er mwyn gallu gwneud penderfyniad cytbwys. Hefyd, cyfeiriwyd at yr hyn yr ystyrid yn weithrediad gwael o broses ymgynghori'r Cyngor Tref. 

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PL/04147

Cais am breswylfa ar wahân ar lain ger 1 Bay View, y Pwll, Llanelli, SA15  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Gorffennaf, 2022 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau