Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M.J.A. Lewis. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 547 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 PENDERFYNWYD y dylid gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn gallu cynnal asesiad pellach o ran draenio d?r brwnt i fodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru:
3.3 S/34402 - Dymchwel hen Ysgol Copperworks a datblygu hyd at 9 o gartrefi newydd ar safle hen Ysgol Babanod Copperworks, ar dir yn Nheras Morlan, Porth Tywyn, SA16 0ND
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cais wedi'i dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd (sef Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn).
Mynegodd y Cadeirydd ei siom o ran y modd yr oedd yr ymgeisydd wedi ymddwyn yn y mater hwn. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi penderfynu cymeradwyo'r cais yn 2017, yn amodol ar yr amodau, a chwblhau cytundeb Adran 106. Ers hynny, roedd y Gwasanaeth Cynllunio a'r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi ceisio cwblhau cytundeb Adran 106, ond hynny heb unrhyw gynnydd gan yr ymgeisydd, yr asiant na'i gyfreithwyr.
Mynegodd y Pwyllgor siom mai dim ond ar ôl cyhoeddi'r agenda y rhoddwyd gwybod i'r Awdurdod bod y safle bellach wedi'i werthu ac roedd hyn wedi gwastraffu amser swyddogion ac adnoddau cyhoeddus. |
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3YDD CHWEFROR, 2022 PDF 282 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 3 Chwefror, 2022, gan eu bod yn gywir. |