Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB / MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.M. Cundy a J.D. James.

 

Gan mai hwn oedd y cyfarfod olaf cyn yr etholiadau, rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i’r Cynghorwyr a oedd ym ymddeol sef y Cynghorwyr Ieuan Davies, Joseph Davies, Irfon Jones ac Eirwyn Williams am eu cyfraniadau at waith y Pwyllgor Cynllunio a dymunodd yn dda iddynt. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i’r holl swyddogion a fu’n ei gefnogi yn ei rôl yn ogystal â chefnogi’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Diolchwyd i’r Cadeirydd am yr arweiniad yr oedd wedi’i roi i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd   

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Cyng. B.D.J. Phillips

3: PL/03336 - Cais am breswylfa 3 ystafell wely ar dir gyferbyn â Maes y Werin, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EL

Mae’r Cyng. Phillips yn perthyn yn agos i’r ymgeisydd a’r asiant;

Cyng. S.J.G. Gilsabey

3: PL/03398 - Newid defnydd tir gwag er mwyn gosod cynhwysydd storio, Trinity Methodist Church, Stryd y Bont, Cydweli, SA17 4UU

Mae’r Cyng. Gilasbey yn aelod o Gyngor Tref Cydweli a Phwyllgor Lles Cyngor Tref Cydweli.  

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

        PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/02356

Newid defnydd y tir er mwyn gosod 5 llain cwt bugail, gwneud gwaith seilwaith cysylltiedig a gwelliannau ecolegol, Abercoran Farm, Talacharn, Caerfyrddin, SA33 4RD

PL/03336

Cais am breswylfa 3 ystafell wely ar dir gyferbyn â Maes y Werin, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EL

(NODER: Roedd y Cynghorydd B.D.J. Phillips wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried).

 

(Noder: Mae caniatâd yn destun Cytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy)

PL/03398

Newid defnydd tir gwag er mwyn gosod cynhwysydd storio, Trinity Methodist Church, Stryd y Bont, Cydweli, SA17 4UU

(NODER: Roedd y Cynghorydd S.J.G. Gilasbey wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried).

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 31AIN MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 31ain Mawrth, 2022, gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau