3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 452 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/01280
|
Cais am annedd aml-lefel a'r holl waith cysylltiedig
ar dir gerllaw 19 Parc yr Onnen, Caerfyrddin, SA31 1ED
(Sylwer: mae caniatâd yn amodol ar Gytundeb
Adran 106 i
sicrhau cyfraniad ariannol at dai fforddiadwy).
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a
ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y
manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd:-
·
Pryderon yn ymwneud â
mynediad i'r safle gan nad oedd caniatâd wedi'i roi i
ehangu'r ffordd fynediad;
·
byddai'r mynediad
arfaethedig yn effeithio'n ddifrifol ar amwynder rhif 19 Parc yr
Onnen;
·
Gwrthodwyd caniatâd
o'r blaen yn rhannol ar sail mynediad a'r angen i ledu'r
ffordd;
·
Colli
preifatrwydd;
Ymatebodd yr ymgeisydd, yr Uwch-swyddog
Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio Priffyrdd)
i'r materion a godwyd.
|
PL/01438
|
Cais am annedd newydd yn lle'r un presennol yn
Rosedale, 29 Ffordd Cross Hands, Gors-las, Llanelli, SA14 6RR
|
PL/01800
|
Cais am falconi ar ochr de-orllewinol yr eiddo i
gymryd lle balconi a gafodd ei symud yn flaenorol yn Llwyn yr
Hebog, Cwm Ifor, Llandeilo, SA19 7AS
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a
ailbwysleisiai'r pwyntiau canlynol y
manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd:-
·
Dim balconi
blaenorol;
·
Colli
preifatrwydd;
·
Roedd y deunyddiau a
gynigiwyd ar gyfer y balconi yn
amhriodol
·
Byddai goleuadau y tu allan
yn ardal y balconi yn effeithio ar ystlumod.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu
i'r materion a godwyd.
|
PL/03134
|
Cadw defnydd rhan o d? annedd fel llety gwyliau
hunangynhwysol ar safle Glanlash,
Caerbryn, Rhydaman, SA18 3EJ
|
PL/03205
|
Newid defnydd o A1 i fflat preswyl 1 ystafell wely
gan gynnwys mân newidiadau i'r wedd allanol yn 62 Heol
Caerfyrddin, Cross Hands, SA14
6SU
(Sylwer: mae caniatâd yn amodol ar Gytundeb
Adran 106 i
sicrhau cyfraniad ariannol at dai fforddiadwy. Os na chaiff
cytundeb cyfreithiol ei lofnodi neu os na thelir y cyfraniad
gofynnol cyn pen 12 mis, mae'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wedi'i
awdurdodi i wrthod y cais.).
|
PL/03550
|
Cadw cyfleuster parcio a theithio ar raddfa lai a
seilwaith cysylltiedig yn safle Parcio a Theithio Nant-y-ci,
Llanllwch, Caerfyrddin, SA33 5DR
|
3.2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais
cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd i'w wrthod:-
PL/03034
|
Cais am ddau gaban ar
olwynion a chyfleusterau cysylltiedig at ddibenion llety i
dwristiaid yn Llwyndewi, Meidrim,
Caerfyrddin, SA33 5PD
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol o blaid y
cais ar y sail ei fod yn unol ag amcanion strategol twristiaeth ar
raddfa fach yng nghefn gwlad ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau
gan gymdogion na'r Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu
a'r Uwch-gyfreithiwr i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael
ei ystyried.
Yn groes i argymhelliad y
Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd bod y cais yn cael ei wrthod, roedd y Pwyllgor o’r farn
bod y cais yn dderbyniol yng nghyd-destun Polisïau
TSM1, TSM2 a TSM3
...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|