Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.A. Davies.  [SYLWER: Roedd y Cynghorydd J.A. Davies yn bresennol o 11:20].

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 559 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/01154

 

Datblygiad preswyl ar dir ger Heol Glyndwr, Pont-iets

 

(Sylwer: mae caniatâd hefyd yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106).

 

Gofynnwyd am i'r cyfraniad a ddeilliai o Gytundeb Adran 106 gael ei roi tuag at barc chwarae gerllaw'r orsaf danwydd yn y pentref.

 

 

PL/02213

 

Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer 2 breswylfa a rhyddhau amodau cysylltiedig 5, 9, 10 a 12 caniatâd cynllunio amlinellol  W/32038 (preswylfeydd fforddiadwy (tai eithrio) (ailgyflwyno cais W/29836) ar dir ger y Stryd Fawr, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5JN.

 

(Sylwer: mae'r caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn flaenorol yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106).

 

Mewn ymateb i gais, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r Cynllun Tai Fforddiadwy yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad parhaus o ddarparu hyfforddiant i Gynghorau Cymuned er mwyn sicrhau bod aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynllunio.

 

Cafodd cais ei wneud am i faterion yn ymwneud ag effaith y datblygiad o safbwynt draenio d?r arwyneb gael eu hystyried yn llawn gan yr Awdurdod.

 

 

PL/02798

 

 

Newid a helaethu'r Pinewood Lodge.  Ailgyflwyno cais ar gyfer PL/01052 a wrthodwyd yn flaenorol, Pinewood Lodge, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33 6BE.

 

 

PL/03011

 

Estyniad i breswylfa gan gynnwys dymchwel rhan o breswylfa flaenorol (ôl-weithredol), Castell Teifi, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8JN.

 

 

PL/03049

 

Cais am adeiladu adeilad ar wahân newydd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r busnes storio menter wledig presennol a fydd yn creu lle storio/unedau storio ychwanegol ar y llawr gwaelod isaf a swyddfa a man hamdden ar y llawr gwaelod uchaf, Dragon Guard Storage, Heol Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9LP.

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol yn cefnogi'r cais ar sail yr arfarniad a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.  Yn benodol, mynegodd yr aelod lleol na fyddai'n peri unrhyw niwed i gymeriad a golwg yr ardal; ni fyddai unrhyw ofynion draenio ac yn ogystal, bwriad y cynnig oedd gwneud y defnydd gorau o'r safle er mwyn bodloni'r galw a nodwyd, heb unrhyw effaith andwyol ar amodau byw trigolion cyfagos.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6ED IONAWR, 2022. pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau