Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 6ed Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Hefyd estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Rhodri Griffiths i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn ei benodiad yn Bennaeth Lle a Chynaliadwyedd y Cyngor.  

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 686 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/37086

Cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol i godi 8 seilo allanol parod â gorffeniad/adeiladwaith alwminiwm h.y. 6 seilo 3.5m ar draws x 12m o uchder a 2 seilo 3.5m ar draws x 10m o uchder. Defnyddir y seilos i storio gronynnau/pelenni polyfinyl clorid a ddefnyddir i gynhyrchu proffil ffenestr polyfinyl clorid (upvc) heb blastig, Victorian House, Ystad Ddiwydiannol Capel Hendre, Rhydaman, SA18 3SJ

PL/00151

Datblygiad Tai sy'n cynnwys 4 Llain – Tir i'r Gogledd o Gapel Soar, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9NY

PL/00542

Gosod paneli haul ar do nifer o adeiladau swyddfeydd ar safle Parc Dewi Sant – Adeilad 8, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB

PL/02602

Cais am ddatblygiad preswyl, tir ger 172 Pant Bryn Isaf, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9EJ

 

(NODER: Mae caniatâd hefyd yn amodol ar i'r cais fodloni gofynion yr Awdurdod Glo)

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at sylwadau'r aelod lleol ynghylch cais cynllunio PL/00799 yng nghofnod 3.1 yn gwrthwynebu'r cais. Eglurwyd nad oedd yr aelod wedi gwrthwynebu'r cais, dim ond gwneud rhai sylwadau ynghylch materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr a'i bod wedi bwriadu cymeradwyo'r cais yn amodol ar ganlyniad y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr eglurhad uchod, lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 yn gywir.