Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y
Cynghorwyr M.J.A. Lewis a
G.B. Thomas.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y
Cynghorydd/Swyddog
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
Y
Cynghorydd B.D.J. Phillips
|
3:
PL/00799 - Datblygiad Un Blaned ar dir i'r de o Flaenhiraeth, Henllan Amgoed, Hendy-gwyn ar
Daf, SA34 0SG
|
Mae'r
ymgeisydd yn gwsmer i'r busnes.
|
Y
Cynghorydd S.M. Allen
|
3:
PL/02848 - Cais cynllunio llawn arfaethedig ar gyfer datblygiad o
gartrefi preswyl, mynediad i'r briffordd, parcio, tirlunio a gwaith
seilwaith cysylltiedig ar dir i'r de o Erw’r Brenhinoedd,
Llandybie, Rhydaman, SA18 2TQ
|
Mae'n
aelod gwirfoddol o Gymdeithas Tai Bro Myrddin.
|
E.
Bryer
|
3:
PL/02533 - Gwaredu Amod 11 o E/27795 (un breswylfa (anghenion
lleol)) yng Ngwenlliw, Dryslwyn,
Caerfyrddin, SA32 8RF
|
Ymgeisydd yn berthynas.
|
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 633 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r
ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
E/38576
|
Preswylfa unllawr â lle byw yn y to a garej integrol ar
dir yn ymyl rhif 15 Heol Plas Gwyn, Pen-y-groes, Llanelli, SA14
7RY
|
PL/00799
|
Datblygiad Un Blaned ar dir i'r de o
Flaenhiraeth, Henllan Amgoed,
Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0SG
(NODER:
Roedd y Cynghorydd B.D.J. Phillips wedi datgan buddiant yn y cais
hwn yn gynharach, ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y
cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried;
Cafwyd sylw
gan aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac ailadroddodd ychydig o'r
pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y
Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon penodol mewn perthynas
â'r cyflenwad d?r, a rheoli'r ieir sydd ar y
safle.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a
godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
PL/02848
|
Cais cynllunio llawn
arfaethedig ar gyfer datblygiad o gartrefi preswyl, mynediad i'r
briffordd, parcio, tirlunio a gwaith seilwaith cysylltiedig ar dir
i'r de o Erw’r Brenhinoedd, Llandybie, Rhydaman, SA18
2TQ
(NODER:
Roedd y Cynghorydd S.M. Allen wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn
gynharach, ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra
oedd yr eitem yn cael ei hystyried;
|
PL/02849
|
Cymeradwyo'r holl faterion a
gadwyd yn ôl mewn perthynas â datblygu swyddfeydd ac
adeiladau diwydiannol ysgafn newydd ar Blot 3 gan
gynnwys
adeiladau/strwythurau,
tirlunio a
seilwaith ategol
cysylltiedig yn Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross
Hands
Plot 3, Cross Hands
|
3.2
PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y
manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/35028
|
Preswylfa ddeulawr, 15A Bryncaerau, Trimsaran, Cydweli, SA17 4DW
|
PL/02285
|
Dymchwel y bloc stablau presennol (a
adeiladwyd yn rhannol) a chodi preswylfa yn ei le (angen lleol) ar
dir gyferbyn â Th? Liliwen,
Nant-y-caws, Caerfyrddin, SA32 8EP
Cafwyd
sylw gan yr aelod lleol a oedd yn cefnogi’r cais ar y
sail:
·
Bod y cais o fewn
cyfyngiadau'r pentref newydd.
·
Ni fyddai'r ymgeiswyr yn
gallu fforddio gadael cartrefi eu rhieni pe bai'r cais yn cael ei
wrthod.
·
Bod y gwaith adeiladu'n
cydymffurfio â graddfa, golwg a thirwedd yr ardal.
·
Bod y cais yn bodloni'r
meini prawf ar gyfer tai fforddiadwy.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth
i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
PL/02533
|
Gwaredu Amod 11 ar E/27795 (un
breswylfa (anghenion lleol)) yng Ngwenlliw, Dryslwyn, Caerfyrddin, SA32
8RF
(NODER:
Roedd E. Bryer (Swyddog Gwasanaethau Datblygu) wedi datgan buddiant
yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a
gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei
hystyried).
Cafwyd
sylw gan yr aelod lleol a oedd yn cefnogi’r cais ar y
sail:
·
Oherwydd amgylchiadau
personol a'i sefyllfa ariannol bresennol, roedd yr ymgeisydd yn
wynebu'r posibilrwydd o golli ei gartref.
·
Lleolwyd yr eiddo yng
nghanol clwstwr o dai a elwir yn Nantarwenlliw ac nad oedd eiddo eraill yn y
cyffiniau wedi bod ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|
4. |
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 2 PDF 410 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r
Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio
ar gyfer Chwarter 2. Roedd yr adroddiad hwn yn adlewyrchu Chwarter
2 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 30 Medi 2021. Roedd
hefyd yn cynnwys y data chwarterol cymharol ar gyfer Chwarter 1 a
2020/21.
Gofynnwyd pam roedd dangosyddion perfformiad rhif 14
(Canran yr achosion gorfodi sydd wedi cau yr
ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod) a 15 (Canran yr amser a gymerwyd i
ymchwilio i achosion gorfodi (mewn diwrnodau)) yn dangos dirywiad yn Chwarter 2 o gymharu
â Chwarter 1.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y ffigurau'n adlewyrchu'r heriau
sy'n gysylltiedig â gorfodi, ond roedd ffigurau'n
anghydbwysedd dros dro a fyddai'n gwella pan fyddai'r polisi a'r
prosesau diwygiedig yn cael eu rhoi ar waith. Dywedwyd mai'r gobaith oedd y byddai ffigurau
Chwarter 3 a diwedd blwyddyn yn dangos gwelliant. Yn ogystal, roedd materion tymor hir yn ymwneud ag
adnoddau'n cael sylw a byddai adnoddau'n cael eu sianelu i leihau'r
ôl-groniad presennol o ran gorfodi.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei
dderbyn.
|
5. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:-
Dogfennau ychwanegol:
|
5.1 |
11EG TACHWEDD, 2021 PDF 294 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2021, gan eu bod yn
gywir.
|
5.2 |
23AIN TACHWEDD, 2021 PDF 200 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021, gan eu bod yn
gywir.
|