Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd S.M. Allen.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/02768

 

Cyfleuster gwefru arfaethedig ar gyfer 8 bws trydan ac adeilad llesiant/swyddfa unllawr bach ar gyfer y gyrwyr ynghyd â lle iddynt barcio eu cerbydau ym maes parcio a theithio Caerfyrddin, Ffordd Llysonnen.

 

3.2       DNS/00709 - (Cyf PEDW: DNS/3260565) -Fferm solar arfaethedig ar y ddaear, gallu cynhyrchu oddeutu 36 MW dros 65 hectar o dir gyda hyd oes o hyd at 40 mlynedd. Fferm Wynt Bryn y Rhyd, Llanedi, Abertawe, SA4 0FD

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno  Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llanedi, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorai, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y cais.

 

Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd (Dros Dro), yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru.  Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod  DNS/00709.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

3.2.1

Nodi'r adroddiad gwybodaeth ar gais DNS/00709.

3.2.2

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd (Dros Dro) i gyflwyno Adroddiad Effaith Leol i Lywodraeth Cymru.

3.2.3

Bod y Pwyllgor yn cyflwyno'r sylwadau canlynol i Lywodraeth Cymru

 

1.    Dylai unrhyw gymeradwyaeth i gais cynllunio DNS / 00709 (Cyferinod PEDW 3260565) gynnwys amod ar gyfer darparu cynllun datgomisiynu manwl a chadarn a fydd yn ymgorffori: -

a.    Rhoi sicrwydd ynghylch symud / trin / gwaredu paneli solar yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad daear dilynol.Dylai'r cynllun gael ei adolygu a'i ddiweddaru oddeutu 5 mlynedd cyn i'r cais ddod i ben.  Bwriad hyn yw sicrhau bod y tir yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

b.    Rhaid cael cadarnhad bod darpariaeth / bond digonol ar waith ar gyfer datgomisiynu'r safle mewn modd cyfrifol.

 

2.    Mae'r Awdurdod yn nodi, er ei fod y tu allan i'w gylch gwaith, bod yr Awdurdod yn cefnogi ceisiadau am daliadau budd cymunedol o ardaloedd cynghorau cymuned y mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt. Dylai'r ymgeisydd gefnogi prosiectau ynni glân yn yr ardal lle mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arni.

 

3.    Mae'r Awdurdod yn ceisio gwybodaeth bellach am yr effaith hirdymor y gallai'r datblygiad arfaethedig ei chael ar dir amaethyddol cynhyrchiol.

 

4.    Cwestiynir effaith paneli ar fioamrywiaeth, a mynegwyd pryder ynghylch cynefin a ffynhonnell fwyd glöynnod byw Brithegion y Gors yn y rhan o'r safle yn ardal  Canllawiau Cynllunio Atodol  Caeau Mynydd Mawr.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau