Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 26ain Hydref, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 956 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1     PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/02032

Cynnig i adeiladu t? 3 ystafell wely ar wahân yn hen Neuadd yr Eglwys, Stryd Fawr, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5JZ

(NODER: Bydd y caniatâd cynllunio yn cynnwys amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gymeradwyo'r manylion a'r dyluniad ar gyfer gwaredu ac ailgodi'r wal derfyn flaen a'r rheiliau blaen)

PL/02075

Cynnig i adeiladu t? 3 ystafell wely ar wahân yn hen Neuadd yr Eglwys, Stryd Fawr, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5JZ

PL/02208

Newid defnydd o breswyl i gartref gofal preswyl i blant 7-18 oed. Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu'r eiddo yn llwyr a rhai newidiadau materol i ffasâd yr adeilad (gweddlun y gogledd) yn Compton House, Heol Caegwyn, Drefach, Llanelli, SA14 7BA

PL/02254

Bwriad i ddymchwel ac ailgodi'r breswylfa bresennol sydd mewn cyflwr gwael i greu eiddo 3 ystafell wely newydd yn Sunnyside, Capel Seion Road, Pontyberem, Llanelli, SA15 5AR

PL/02658

Mae'r cynllun yn cynnwys y canlynol:  (1) pont arfaethedig gyda rampiau i'r ochr ogleddol a'r ochr ddeheuol;  (2) cysylltiadau llwybr defnydd a rennir; a (3) ffensys cysylltiedig ar Brif Lwybr Llanelli yr A484, Trostre, Llanelli

 

3.2     PENDERFYNWYD gwrthod ceisiadau cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

E/40436

Newid defnydd o barcio anffurfiol i gerbydau i gynwysyddion hunan-storio mewn ardal ddiogel (Dosbarth Defnydd B8), ail-gyflwyno cais E/39180 ar dir gerllaw Gweithdai Heol yr Orsaf, Heol yr Orsaf, Rhydaman, SA18 3SY

PL/01992

Cadw t? allan domestig ar wahân, 4 Maes yr Eglwys, Llan-saint, Cydweli, SA17 5JE

 

3.3     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn galluogi'r swyddog prisio i ddod i'r cyfarfod.

 

PL/01515

Gwrthodwyd adeiladu t? annedd menter wledig (ailgyflwyno W/39836 03/12/2020) ar dir sy'n rhan o Fferm Trewern, Heol Llysonnen, Abernant, Caerfyrddin, SA33 5EW